Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pistyllio

pistyllio

Roedd hi cyn naw y bore, yn pistyllio bwrw, ac yn oer, ond roedd yn lot o hwyl ac mae'n dda ar gyfer y gyfres.

Yn wir, er gwaethaf neu oherwydd y gwaed oedd yn pistyllio o'm trwyn, mewn dau funud roedd fy mhen-glin chwith yn gwasgu ar gorn-gwddw fy ngwrthwynebwr, a chawn foddhad neilltuol o weld y croen o dan ei lygaid yn twitsian yn nerfus, cynyddai fy mwynhad am fod haid o blant o'n cwmpas rŵan yn sgrechian eu gwerthfawrogiad.

Mae gwraig Gwern Hywel ym mharagraff cynta'r llyfr yn edrych ar y glaw'n pistyllio: gwneir i'r tywydd cyn pen dim fod yn arwyddlun o gyflwr Methodistiaeth.

Roedd yn pistyllio bwrw, a'r strydoedd yn troi'n afonydd.

Mae'r glaw yn pistyllio i lawr wrth i ni fynd yn y car i gasglu Siwsan Diek, Adam a Natalie.