Yr oedd y cwbl yma'n creu ofn a chasineb dwfn ac yr oedd Penri druan cyn bo hir i gael blas y ffisyg chwerw hwn a ddistyllodd Whitgift i buro'r Eglwys o'r gwenwyn Piwritanaidd.
Mae'n deg tybio y gallai'r neges a yrrai'r tadau Piwritanaidd i'r afael â'r drygau hyn gyda'r Efengyl ar eu tafodau yn awgrymu y dichon fod eu neges hwy'n berthnasol yn ein hoes ninnau.
Yma yng Nghymru (lle pleidiwyd achos y Brenin nid y Senedd gan y mwyafrif mawr) rhan o'r paratoi oedd y gwaith a wnawd i daenu'r Efengyl yn fwy effeithiol yn y gogledd drwy osod gweinidogion Piwritanaidd yn lle'r Anglicaniaid gynt.
Ond wrth fudo i sir Northampton yr oedd yn ymuno â mudiad Piwritanaidd a oedd yn llechu o dan adenydd gwyr dylanwadol ac a oedd yn ymddangos fel petai dyfodol disglair o'i flaen.