Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

plannu

plannu

Peth da, a digemeg hefyd, fyddai treulio orig min nos yn chwistrellu dwr glân ar y coed a'r llwyni ffrwythau newydd eu plannu.

Yn ôl John Cottle, sydd wedi plannu hadau GM ar ei fferm yn Sealand, mi fydd o'n parhau i dyfu'r corn nes y bydd yn cael cyfarwyddyd gan y Cynulliad neu lys barn.

Un amser ceisiais ei hefelychu, a bum yn hel planhigion cactus ar yr paith a'u plannu mewn gwahanol fannau yn yr ardd.

Erbyn dechrau'r mis, dylai'r tŷ gwydr fod yn glir ar gyfer plannu cnwd yn ei forderi os symudwyd y planhigion a oedd mewn blychau a photiau i'r ffrâm oer i gael eu caledu.

Yna, tuag wythnos cyn plannu'r tomatos, gellir taenu gwrtaith cyffredinol, yn ôl dwy owns i'r llathen sgwâr, ar yr wyneb a'i gribinio'n ysgafn i'r pridd.

Rhoddwyd y rhain gan Albion Concrete Cyf., a chawsan nhw eu cludo i'r union lecyn gan y fyddin, fel y gallai'r ysgolion gael naill ai fan plannu neu wely wedi ei godi.

Darparu coed tân, torri gwair, peintio gatiau, trwsio waliau, gwaith clirio, gwaith cynnal a chadw, plannu coed...

Rhag gwastraffu'r gofod tra bo'r ysgewyll yn datblygu, gellir plannu bresych a blodfresych cynnar rhyngddynt.

Er bod hadau'r Mudiad Rhamantaidd wedi eu plannu cyn troad y ganrif, dyma flaenffrwyth y Mudiad.

Ceir coed derw sy'n cochi - y Quercus rubra a'r Quercus coccinea - mae rhai o'r rhain wedi eu plannu yn ein fforestydd ni i ni gael mymryn o liw.

Fydden ni ddim yn caniatau plannu cnydau os na fydden ni'n hyderus nad ydyn nhw am wneud drwg i bobol, anifeiliaid na'r amgylchedd.

'Reit, mi rwyt ti'n rong!' gwaeddodd, yn plannu bys i ganol ei lyfryn.

Hefyd, gellir teneuo planhigion tomatos drwy eu plannu'n unigol mewn potiau tair modfedd cyn eu caledu.

Gellir gadael y gweddill, sydd i'w plannu maes o law yn yr ardd agored, yn y potiau tair modfedd a'u caledu.

Yn ystod y mis, gall y garddwr baratoi'r pridd ar gyfer y planhigion sydd i'w plannu allan mewn borderi a gwelyau megis y blodau unflwydd fel mynawyd y bugail ac ati.

O ddefnyddio cansenni, dylid eu gosod yn y pridd cyn plannu'r tomatos rhag niweidio'u gwraidd.

Maen nhw'n aros eu cyfle yn y gwanwyn pan fo'r ffermwyr yn plannu tatws yn y ddaear a phan nad ydi'r ffens drydan yn cael ei def- nyddio, a chyn gynted ag y mae'r tatws ifainc yn y ddaear maen nhw'n dod gyda'r nos ac yn tyrchu'r ddaear gyda'u trwynau cryfion ac yn dod o hyd i'w hoff fwyd.

Dosbarth Glyder: Yn dilyn eu thema Tyfiant y mae'r dosbarth wedi bod wrthi'n trin yr ardd ac yn plannu bylbiau blodau ar gyfer y Gwanwyn.

'Roedd hadau rhyfel byd arall yn dechrau cael eu plannu.

Gwell fyddai i'r garddwr yng Nghymru baratoi'r pridd ar gyfer y planhigion hyn ym mis Mai ac aros nes dyfodiad Mehefin cyn eu plannu allan.

Aeth yn ddiwedd Mai ar y tatw yn cael eu plannu ac yn syth ar ol hynny aeth yn sych, yn wir yr haf sychaf a gafwyd y ganrif hon.

Ychydig iawn o datw sydd wedi eu plannu fel tatw cynnar go iawn ac yr oedd y prif gnwd ymhell o gael eu plannu cyn dechrau mis Mai.

Bu'r Comisiwn Coedwigaeth yn plannu gwinllannoedd bytholwyrdd ac anniddorol ar Fynydd y Rhiw a Mynydd Cefnamwlch ac ambell i safle ddiffaith arall.

Erbyn pnawn Mercher dyma gadael y siap 'swch' i droi, plygu'r gliniau, plannu'r polyn yn yr eira, naid bach i fyny ac i rownd y tro.

Ar yr un pryd, ceisiwyd atal llif y twyni trwy'u hamdoi a changhennau coed bythwyrdd, a'u plannu â moresg a thyweirch o laswellt ochr-lôn.

Sbardunodd Andrews y BMW i lawr y ffordd a'i daflu'n ddidrugaredd heibio i'r gornel cyn plannu'i droed yn filain ar y brec .