Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

plas

plas

Wrth odre'r plwyf saif Plas Glandenis, sedd y diweddar William Jones, un o berchnogion Banc yr Eidon Du.

Man ei eni oedd t^y o'r enw Plas y Person, yn y Gyffin, gerllaw Conwy, lle yr oed ei dad, Dafydd ap Gronw, yn giwrad ar y prys.

Cofiaf hefyd y pleser a gafodd o fynychu Eglwys y Nyfer yn rheolaidd a'r cof cysegredig o dderbyn Bedydd Esgob yno yng nghwmni merched y Plas.

Dydy'r dyn sy'n byw yn y plas ddim wedi bod yno'n hir.

Wedi i'r Morfa Maiden angori yn yr harbwr aed â Catherine Edwards, a'r Capten a'i wraig, i Fwlch-y-fedwen i gael lluniaeth ac aros noson neu ddwy, ond fe gymerodd ddeuddydd arall i'r neges gyrraedd Plas Nanhoron a'r wys i Pyrs y Coetsmon fynd cyn belled â Phenmorfa i gyrchu 'i feistres.

Fe a i draw i'r plas i weld oes yno lythyr." Cododd a golwg flin ar ei wyneb.

Mae peth o'r clod yn ddyledus i Blas y Cilgwyn ei hun, sef y plas yn Adpar, Castellnewydd Emlyn, ergyd carreg o'r wasg argraffu gyntaf yng Nghymru.

Gan ei bod yn llifo ar draws tir Newidfa a Phlas Llechylched, y duedd yw ei galw'n Afon Widfa, neu'n Afon Plas.

Diwrnod mawr i ni pan oeddem yn yr ysgol oedd diwrnod te parti Plas Gwyn (ni allaf gofio y flwyddyn), ond yr arfer oedd te parti yn y pnawn a "concert" gyda'r nos, a byddai wythnosau o baratoi, canu ac adrodd a "drillio%, ac roedd meibion y sgweiar a rhai o'r gweision a'r morynion yn cymryd rhan yn y "concert" mawr yma.

A Rachel druan yng nghaledi ei gweddw-dod ifanc yn dafodrydd ei hatgofion ac yn ail-flasu'r bywyd oedd arni yng nghegin Y Plas lle ceid cig eidon a reis berw a chaws a bara cartref, - er taw bara du oedd hwnnw, meddai mam.

Hen blasdy gyda'r ucha o'r môr yng Nghymru - wedi ei adeiladu fel plas saethu i fyddigions troad y ganrif.

Ein holi ynghylch y swae fod ffrind i Ferched Beca yn gwitho yng nghegin neu erddi y Plas yntefe, ac yn diangyd yn y twllwch i rybuddio plant Beca o'r cynllwynion i'w dal rhwng Y Priordy yn Aberteifi a'r Plas.

Alun Bwlch oedd y llall, mab ieuengaf y diweddar Williams Owen, cipar Plas Gwyn a'i wraig.

Y berth o lafant a rhosmari yw ffrindiau mam, ac o'r Plas y cafodd hi'r planhigion gan Edmund y garddwr, a pharhânt i sirioli bywyd mam â'u persawr a'u hatgofion.

Gwelais nodi allan lle yr oedd y Railway i fod, a gwelais ei gwneud o Holland Arms i'r Benllech, a chofiaf ddydd ei hagor yn iawn, a sploet fawr yn Bryniau Plas Gwyn.

"Ar ôl i mi wybod i sicrwydd nad oedd neb yn y plas mi chwiliais y lle'n fanwl, a welais i'r un cŷn."

Ond eto er fy mod wedi meddwl yn siwr y deuwn ar eu traws yn y plas, doedd dim arwydd fod neb yn byw yno .

Plas Nanhoron fydd y stop nesa'.

Byddent hwythau'n pwysleisio nodweddion da llys, plas neu fynachlog.

"I gerdded lôn Plas Madyn er mwyn gweld y fan lle cwympodd y merlod." Disgleiriodd llygaid Einion a Llinos.

"A byth ar ôl y noson honno, ysbryd Lowri Cadwaladr sy'n cerdded trwy ystafelloedd Plas Madyn.

Ond, yn unol â neges Timothy Edwards, Cefn-mein, gwraig weddw a ddychwelodd i Blas Nanhoron y noson honno a'i gwedd-dod annisgwyl hi wedi cyffwrdd eigion calonnau holl weithwyr y Plas ond bod gan bob un ohonynt ei eli'i hun i'w roi ar y briw.

Roedd Miss Megan Jones, Trefnydd y Clybiau ar y dechrau, yn ffrind personol iddi, ac i'r Plas y byddai Miss Jones yn dod i aros pan ddeuai i'r cyffiniau ynglŷn â'i gwaith, megis i sefydlu clybiau newydd.

Yn hwyrach y noson honno a ninnau ar ein trydydd peint edrychasom eto ar Iwerddon a chofio mai arweinydd mudiad yr iaith a ddewiswyd yn Llywydd cyntaf y Weriniaeth, ac yna treuliasom noswaith ddifyr yn dyfalu pa un o'r tai bonheddig yng Nghymru a fyddai orau gennym fel plas i'n llywydd, a pha un ohonynt a ddylai fod yn Chequers Cymru.

Ar ôl dyfod adref i Lanrwst euthum i aros i Plas Madog, a byddwn yn mynd i'r dref i negeseua dros fy meistr.

"Mae'n debyg eu bod wrthi'n rhwyfo rownd yr ynys pan oeddwn i'n brysur yn chwilota o gwmpas y plas.

Y dyn a gai'r 'bai' neu'r 'clod' am adeiladu'r Plas hudolus, moethus, oedd J.

Ond daeth tro ar fyd Denzil pan gafodd gyfle i ddychwelyd at ei wreiddiau a chael swydd fel gofalwr amaethyddol yn y Plas.

Roeddwn i'n gwybod fod plas ar yr ynys, ac mi ddes i'r casgliad fod Eds yn cuddio yno.

erwau ac erwau o gynefin arbennig ac yng nghanol yr unigeddau - i'w weld o bobman y 'tū ysbryd' i'r anghyfarwydd, neu Wylfa Hiraethog i'r astudiwr mapiau neu Plas Pren i'r lleol...

Daeth Mr Jones, y Person, yno i'w weld, a thystiai nad oedd gan yr Yswain Griffith well ceffyl yn ei ystablau, ac aeth yn syth i'r Plas i ganmol anifail Harri.

Wrth gyrraedd y Plas mae yna sgwrs rhwng y perchennog a'r ddwy ymwelydd sy'n rhoi ymdriniaeth ysgafn o'r dryswch mae'r ddwy dafodiaith yn gallu ei greu.

Pan ddaeth hyn i'w feddwl ac nid amheuodd am funud gywirdeb ei ddyfaliad rhinciodd ei ddannedd mewn cynddaredd, a melltithiodd fab y Plas o eigion ei galon.

Felly ar Elisabeth y syrthiodd y cyfrifoldeb o gadw trefn ar y plasty a'r gweinyddion yn ogystal a'r gofal am ei brodyr a'i chwaer fach, yn enwedig pan fyddai Meistres Mary Games yn mynd a'i mab hynaf, Richard, i'r plas newydd ger Y Fenni.

Penderfynais fynd i mewn yn ddistaw bach, a fues i ddim yn hir yn darganfod mai dim ond y fi oedd yn y plas.

Deellir fod Mr Eirwyn Williams yn ymddeol o'i waith fel gofalwr Plas y Llan.

Penderfynodd alw gyda'r gweinidogion yn y plas yn gyntaf man.

Ac eto, yn y pen draw, math o degan oedd y plas iddi - i'w fwynhau o dro i dro ac yna blino arno - ac wedyn mynd nol i'w chartref Bodwigiad.

Nadolig Saithdeg wyth daeth nodyn i'r Plas - un swyddogol wedi'i ddanfon ar gefn ceffyl o Swyddfa'r Tollau ym Mhwllheli - i ddweud fod Capten Timothy ar hwylio o Ynys Rhode i'r Caribî, ar warthaf Comte d'Estaing a llynges Ffrainc.

Wel, mi ddilynais o i'r ynys, a phan welais i o'n mynd i'r plas roeddwn i'n.teimlo'n hollol sicr mai yno roedd Eds, a rhai eraill am a wyddwn i.

'Wy i am fod yn fy nghôr cyn y dŵa nhw i miwn i'r Eglwys." Teulu'r Plas wrth gwrs, oedd y nhw.

Mi feddyliais am y posibilrwydd fod cuddfan yn y plas, ond er chwilio'r lle yn fanwl, fedrwn i ddim dod o hyd i'r un.

Arddangoswyd ei waith yn yr Eisteddfod Genedlaethol - yn Ynys Môn, Llanbedr Pont Steffan a'r Rhyl - a chafodd arddangosfeydd yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw a Gregynog yn ogystal â sylw mewn cyfnodolion a chylchgronau.

Os byddai planhigfa o goed derw neu ffawydd neu gyfuniad o'r ddau ar dir y plas elem yno gyda phartner i ogrwn y deilbridd addas fyddai yn drwch danynt a'i storio mewn adeilad ar gyfer amser o angen.

Wedi ei throi hi am y neuadd yr oedd pawb, wedi mynd i wrando ar John Edmunds, Plas Deri, yn bwrw trwyddi ar ôl cael ei ethol ar y Cyngor Sir a hefyd yn Gadeirydd Cyngor y Dref.

Mi sleifiais at y plas ymhen dipyn, ar ol rhoi cyfle i Twm Dafis fynd i mewn, a gwrandawais y tu allan.

RS Thomas yn Sarn y Plas, Y Rhiw, Aberdaron Cytgord

Mae dwy o'r merched yn byw yn yr ardal o hyd, sef Miss Margaret Ann Evans, Plas Ogwen a Mrs Joyce Whitehead, Tregarth.

"Mae Owain wedi dweud wrthyeh bellaeh, mae'n siwr, mai Prys Edwards, un o feibion Plas Derwen, oedd pennaeth y gang yna o ladron.

Mrs Nancy Thomas oedd yn y gadair a roddodd sylw i'r trip i Oriel Plas Glyn-y-Weddw.

Wedi cyrraedd ceg lôn y plas roedd y Llewod yn fwy gwyliadwrus.

Mae gennyf frith gof am y Stiwt/y Meinars/Plas Mwynwyr, yn cael ei godi.

Newid yn Naples, lle cawsom ddigon o amser i nôl bwyd o'r Plas.

Yna trodd a charlamodd yn ei ôl i gyfeiriad Plas Madyn.

Clywsant sŵn traed yn dod i lawr y lôn o gyfeiriad y plas, a synnwyd y pump pan welsant mai Meurig Puw y Wenallt oedd yno.

Roedd hi'n noson fawr ar faes Plas Crug, Aberystwyth, neithiwr.

Torrodd hyn ar draws myfyrdod Elisabeth Games, merch plas Bodwigiad.

Mae Oriel Plas Glyn-y-Weddw wedi agor unwaith eto ar ôl y cyfnod byr o seibiant dros fisoedd y Gaeaf, ac mae'r paratoadau a'r rhaglen arfaethedig yn swnio yn ddiddorol ac yn amrywiol iawn.

Cyfarfyddai'r teulu ysbardunog wrth y Plas, ac ymddangosai pawb mewn ysbryd uchel a rhagorol, a hynod chwannog i'r helfa.

Tra roedd yn Plas Mawr, yr oeddwn wedi sylwi fod ei PPS Michael Allison yn cario clip bord gydag o, er mwyn hwyluso gwaith Mrs Thatcher pan oedd yn torri ei henw i wahanol bobl.

Gormod fyddai hawlio i bob un o awduron plant sir Aberteifi ddechrau ar ei waith oherwydd ysbrydiaeth Plas y Cilgwyn.

Mae'r lladron cathod yn gweithio yn y nos, ac mae ysbryd llestri aur Plas Madyn yn prowla yn y nos hefyd." Crychodd Llinos ei thalcen mewn penbleth.

Bu chwaer Miss Williams, sef Miss Margaret Lloyd Williams, Plas Llecheiddior, hefyd yn aelod o Glwb Bryncir, ac yr oedd ar y Pwyllgor Gwaith yn ystod y blynyddoedd cynnar.

"Fel y ceision ni ddweud wrthych chi neithiwr," meddai Dafydd, "Marged a fi ddaeth o hyd i'r twnnel cyntaf ar ddamwain hollol, a dod i'w ben draw yn y plas."

Plas Pren, medde nhw, oherwydd mai o bren y'i gwnaed o - ac y mae hynny yn gwneud rheswm gan mai ar lun a delw plasdai saethu Sweden ei hadeiladwyd.

Roedd cyn go newydd yng nghyntedd y plas .

Gwr nobl oedd y Parchedig John Jones, yn fugail gofalus i'w bobl ers pymtheng mlynedd, ond ar derfyn pnawn heulog o Orffennaf fel hyn, ac yntau wedi galw yn rhai o ffermydd y fro ar ei daith i'r Plas, roedd o fymryn yn ansad ar ei draed ac, o bosibl, beth yn orhyderus yn ei siarad.

Yn lle hynny try Hiraethog at ffocws newydd, sef hanes y garwriaeth rhwng Sgweiar ifanc y Plas a Margaret.

Diolch hefyd i Heulwen Medi am fynd o amgylch Plas Hen, a diolch i bawb a gyfranodd at yr achos.

Chi ydy'r unig bobl am filltiroedd heblaw'r plas wrth gwrs.

Pe bawn wedi aros yn y bwthyn gyda mam a Rachel, buaswn wedi gweld dwy'n ymgolli'n ddagreuol a melys yn eu hatgofion a chlywed canmol gerddi Y Plas gyda'i lawntiau'n dawnsio yn lliwiau porffor ac aur tanbaid canhwyllau'r forwyn.

Clywais hanesyn am hen deulu Trefgraig Plas pan oeddynt yn byw yn y Cwm erioed.

Roedd Mary'n falch o'r plas newydd yma.

Felly fe heriwn ni ysbryd Plas Madyn nos yfory, gan fod yna rai pobl yn dweud fod Lowri Cadwaladr yn dal i farchogaeth Gwyll bob nos am wythnos ar ôl yr W^yl.

Na pam mae 'i Gymrâg e'n swnio'n ddierth i ni..." Yr oedd cael bod yng nghyffiniau Y Plas ac Eglwys Sant Cunllo'n nefoedd i mam, ac nid oedd hast arni i ddod oddi yno, a siaradai â phawb, a phawb gyda hi.

Ceir wedyn dair golygfa fanwl, sef yr un rhwng Margaret a'r Sgweiar; un rhyngddo ef a'i fam; un arall rhwng hen ledi'r plas a mam Margaret; a chyfweliad rhwng y Sgweiar a dau o'i ewythrod sydd yn ceisio dwyn perswâd arno.

Yn ogystal, cyflogodd William Jones, Talybont i wneud cynllun manwl o'r Plas a'i erddi, i gofnodi enw pob fferm a oedd yn perthyn i'r Stad ac ysgrifennu yn y gyfrol enwau pob cae a berthynai i'r ffermydd hynny.

Roedd cyrion y ty wedi tacluso tipyn oddi ar iddi gymryd gofal o'r plas a brynodd ei gwr ychydig fisoedd cyn iddo farw.