Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pleser

pleser

Pleser oedd gwrando arno mewn dosbarth Ysgol Sul, a oedd yn flodeuog yn y dyddiau hynny.

Cofiaf hefyd y pleser a gafodd o fynychu Eglwys y Nyfer yn rheolaidd a'r cof cysegredig o dderbyn Bedydd Esgob yno yng nghwmni merched y Plas.

Awydd y grwp yw rhannu pleser y dawnsfeydd a cherddoriaeth draddodiadol.

Parsel hyfryd a thaclus yw'r cyfnod prydferth o'r flwyddyn rhwng mawrth a Mehefin, pryd y byddaf yn datod y llinynnau ac yn cael pleser o bysgota brithyll mewn llyn, afon a chronfa...

Doedd e ddim yn sylw doeth, mae'n wir, ond byddai ei ynganu wedi rhoi pleser ofnadwy iddo = dros dro.

Mae disgyblion yn darllen gyda brwdfrydedd ac yn datblygu'r arfer o ddarllen yn eang er pleser a gwybodaeth.

Pleser i'r gof hefyd ddydd y tynnu oedd fod popeth a wnaeth yn gweithio er daioni.

Pleser munud awr yw'r cyfan yn y dafarn gyda'r blys, A'r teulu bach yn goddef angen, rhai o'r plant yn llwm eu crys: Ac heb ddillad ar eu cefnau, heb esgidiau am eu tra'd Pennoeth, coesnoeth ar yr heol yn newynllyd iawn eu stâd.

Pleser digymysg oedd eistedd ar y staer yn y tū lle 'roeddwn yn aros i wrando ar John Nicholas yn canu'r piano ar ryw noswaith dawel o haf yn y dyddiau cyn y rhyfel diwethaf.

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

Rhoes ef yn ofalus yn ei boced cyn cychwyn i'w waith, gan addo iddo'i hun y pleser - efallai!

Roedd hynny a'r actio celfydd yn rhoi pleser a mwynhâd.

Ac nid yw medru dweud Fe ddwedon ni yn rhoi dim pleser i'r rhai hynny ohonom a rybuddiodd y byddai gwasanaeth a diogelwch yn dioddef wrth i gyfundrefn drafnidiaeth gyhoeddus o'r fath droin ffynnon broffid.

Mae Mr Jenkins a'i wraig Frances yn cael pleser mawr o groesawu eu plant adre'.

Pawb A'i Farn Golygyddol Pleser arbennig o dro i dro ydi cael ymateb oddi wrth ddarllenwyr i eitem ym Mhapur Menai.

Pleser oedd canfod fod yma ddarpariaeth ar gyfer athletwyr cadair olwyn.

Wrth ddod ar draws y rhain yn ddiweddar y penderfynais roi yr ychydig eiriau hyn wrth ei gilydd i gofio am y cerddor talentog a fu mor barod i rannu ei ddawn a'i allu gydag eraill - i ddysgu, hyfforddi a rhoi pleser a mwyniant i gymaint o bobl.

Pethau syml felly sy'n rhoi pleser iddo, nid gwneud drygau.

Mae nifer o gerddi tebyg sy'n amlwg wedi rhoi pleser mawr i'r bardd.

Câi'r pleser o ddweud, "Dyna'n union fuasech chi'n ei ddisgwyl ganddo fo." Adwaenai bob awdur cyn iddo sgrifennu ac nid oddi wrth yr hyn a sgrifennodd, a darlun o'r adnabyddiaeth ydoedd pob tudalen iddi hi.

Yr oedd y ffug-ddiddordeb, y pleser cwbl ffuantus mewn ailgyfarfod yn ormod i mi.

Wel, sdim byd sy'n bleser i gyd, dim un pleser y medri ddeud 'i fod o'n ddifrycheulyd" "Siarad drosot dy hun ngenath i " A thynnu'i law rydd dros ei gwar heibio'i blows ac at ei bronnau.

A phan gafodd yr athro achlysur i longyfarch Hector ar ateb i ryw bwnc bach nid oedd terfynau i lawenydd y disgybl newydd, a phan ofynnodd un o'r merched yn y dosbarth i Hector, wedi'r wers, am help a chyfarwydd ar bwynt a barai anhawster iddi, teimlodd yntau, am y tro cyntaf, efallai, ias o'r pleser a ddaw o awdurdod o oleuni cywir ar y broblem.

Dechreuodd, gan ddilyn esiampl ei thad yn rhoi cynulleidfa yn y cywair priodol cyn dechrau siarad, trwy ddweud mai pleser oedd bod ar yr un llwyfan â mab Tom Ellis a Mab OM Edwards.