Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pleserus

pleserus

Mae'n fwy pleserus byth pan mae'r chwerthin yn codi o sefyllfa hollol annisgwyl ...

Doedd hi ddim yn brofiad pleserus iawn eu gweld nw yn dal eu gynnau Kalaschnikov ad yn amlwg heb weld Gorllewinwr erioed o'r blaen.'

Heddiw, nid oes reidrwydd ar neb i wlana ar ffriddoedd bro fy mebyd, ac y mae'r gorchwyl pleserus o dorri mawn yn darfod o'r tir.

Mae hwnnw wedi gadael blas pleserus yn fy ngheg i, os na wnaeth dim arall.' Am rai munudau, syllodd Lisa ar ei ôl.

Yn Gymraeg (ac yr oedd hynny yn syndod pleserus) ac yn Saesneg bob yn ail yr oedd y cyhoeddwyr yn mynnu ailadrodd eu neges drosodd a throsodd a throsodd a throsodd nid yn unig am chwarter awr a mwy cyn i bob tren gyrraedd ond, yn achos un tren, yn parhau ar cyhoeddiad fod y tren ar fîn cyrraedd hyd yn oed ar ôl iddi adael a pharhau ar ei thaith.

"Rhai pleserus, gobeithio% "Oeddan..." "Ond?" "Dim byd, dim byd.

Profiad pleserus yw cymryd arddodiad dwylo dros rywun sy'n glaf.

Ond nid pawb sydd wedi cael profiad pleserus wrth geisio cysylltu ag ysbryd coeden.

Rhaglen galed ond eto pleserus dros ben.

Onid rhag ofn cael fy siomi ar ôl edrych ymlaen at rhywbeth pleserus?

Tybiaf mai'r peth mwya pleserus oedd yr adeg hynny pan fyddem yn dawnsio - ddim i'r cyhoedd - ond i'r dawnswyr eraill oedd yno.

'Rydan ni'n dueddol o feddwl am chwerthin fel peth pleserus, cynnes, afieithus; cyfrwng i ddangos a rhannu llawenydd.

Wrth edrych 'nôl, mi fyddai pedwar diwrnod yn Istanbwl wedi bod dipyn mwy pleserus!'