Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

plwy

plwy

Mewn plwy bach fel Silian roedd yna fugeiliaid lawer.

Daethai rhai ohonynt o waelod y plwy i drin tir y mynydd ac i fyw arno, ac aethant i'w cynefin i dreulio'u "hun hir."

Wedi cael cefn Pyrs teimlai Obadeia Gruffudd ei bod hi'n ddyletswydd arno i ailgydio yn y weddi ond fel roedd o'n hwylio i ddisgyn eilwaith ar ei liniau daeth y Parchedig John Jones, person plwy Llaniestyn i mewn, a hanner baglu dros y gist ddillad yr un pryd.

Dafydd Jones, Dremddu Fach oedd awdur y traethawd buddugol ar lên gwerin, hen arferion a thraddodiadau pobol y plwy yn wythdegau'r ddeunawfed ganrif.

Pan ddechreuais ysgrifennu "Lloffion" i'r "Genedl" dechreuodd Ioan Brothen ymddiddori'n anghyffredin ynof, oherwydd fy nawn, meddai ef, i "ddarganfod ffeithiau newydd am y plwy a'r wlad".

Os bychan o ran maint, tirwedd a phoblogaeth, anfarwolwyd y plwy gan bobl fel David Williams, Tū Newydd.

Gūr a godwyd ac a fagwyd yn y plwy yw'r tenor tra enwog, Timothy Evans.

Daliai'r diweddar John Arthur Price fod peth o'r ysbryd hwnnw yn yr achos cyfreithiol a ddug wardeiniaid Trefdraeth ym Môn yn 1773 yn erbyn penodi Sais uniaith yn berson y plwy.

Y mae'r ysgolion Cymraeg wedi ennill eu plwy yn y De ac mewn ardaloedd yn y Gogledd hefyd.

Roedd yna hen frawd o'r plwy yn agor ffos lled ddofn mewn cae go wlyb.

Pan oeddwn i'n ddeunaw oed, a chyn i'r rhyfel dorri, fe es i Goleg Dewis Sant, Llanbedr Pont Sterffan ac ar ôl graddio, mynd ymlaen wedyn i ddarllen diwinyddiaeth a dysgu'r grefft o fod yn berson plwy yng Ngholeg San Mihangel, Caerdydd.

Diwrnod pwysig ar galendr pawb yn y plwy oedd dydd Calan, gyda'r plant allan yn crynhoi calennig.

Yn y rhan fwyaf o ardaloedd roedd diwrnod Nadolig yn cychwyn yn gynnar gyda'r plygain, gwasanaeth carolau oedd yn cael ei gynnal yn eglwys y plwy rhwng tri a chwech o'r gloch y bore.

Yr oedd y bobl a oedd yn gyfrifol am droi lliw'r tir yn wyrdd yn gorwedd erbyn hyn yn mynwent y plwy, yn naear frasach y gwastadedd a orweddai rhyngddo a'r mor.

Bu Nain Nyrs yn un o sefydliadau plwy Llanengan am hanner canrif a mwy.