Wrth odre'r plwyf saif Plas Glandenis, sedd y diweddar William Jones, un o berchnogion Banc yr Eidon Du.
Sylweddolodd Lingen fod tebygrwydd mawr rhwng yr ysgolion o dan adain y gweithiau diwydiannol newydd a'r hen ysgolion plwyf, gan fod y gweithiau, fel y sylwodd mewn cymhariaeth drawiadol, wedi cymryd lle'r hen faenor gynt.
Efo oedd organydd eglwys y plwyf yno, ac 'roeddwn yn ddigon ffodus i gael ei adnabod a'i glywed wrthi'n canu'r piano yng nghartrefi rhai o drigolion Y Waun yn ogystal ag yn ei gartref ef ei hun.
Ganed fy nhad ym Mhen-dre, Ty Nant, Plwyf Llangwm, fferm fechan oddeutu hanner milltir o Benyfed.
Ceir Ffynnon Dalis ger pentref Dihewyd a Vitalis yw nawddsant y plwyf hyd heddiw.
Ar un olwg gwelaf HANES yr ardal drwy ffenestri fy ystafell a thrwy ffenestri'r meddwl, a dod i'r farn nad oes angen croniclo hanes plwyf di-nod yng nghanol sir Aberteifi gan fod y cyfan o flaen fy llygaid.
Gwna i Bob ddiflannu'n sydyn o'r plwyf a dod yn ôl â Margaret yn wraig, ond ni ddywed wrthym ddim i esbonio beth a ddigwyddodd rhyngddynt.
Mae'n sicr fod Davies fel offeiriad plwyf wedi'u darllen i'w gynulleidfa.
Holiadau Lhwyd sy'n gosod y patrwm, ond Rowlands biau drylwyredd deallus yr atebion sy'n nodi enwau, ffiniau a phoblogaeth pum plwyf Llanidan, Llanedwen, Llanddaniel-fab, Llanfairpwll a Llandysilio, ynghyd a manylion am eu hanes, eu henebion (gyda darluniau ohonynt), a sylwadau ar ansawdd y tir, y cynnyrch, a'r gwrtaith a ddefnyddid, y ffynhonnau, yr afonydd, y dirwedd a'r mathau o gregin a geid ar lan y mor.
Y mae'n bosibl mai Betws Dihewyd oedd enw gwreiddiol y plwyf.
Roedd Richard Owen yn ddyn gweithgar a darbodus, ac yn berchennog ar amryw o dai yn y plwyf.
Yr wm ni yn Eglwys y Santes Fair (Plwyf Aberystwyth) yn gynulleidfa o Gristnogion Anglicanaidd.
Yno y mae eglwys y plwyf ers yn fore iawn; hon oedd canolfan gweithgareddau'r Festri am ganrifoedd, a gweinyddu'r offeren.
Bu pobl yn byw yma ers yn fore iawn, ac y mae olion o Oes yr Haearn, bedwar can mlynedd cyn Crist, yn profi iddynt dderbyn eu cynhaliaeth o'r tir a'u hamddiffynfa yn yr hen gaerau a godwyd ar hyd a lled sir Aberteifi, a rhyw chwech ohonynt ar lannau Wyre o Ledrod i Lanrhystud ac un o fewn i'r plwyf, sef Caer Argoed.
Ynddo ceir portread byw a chynhwysfawr o fywyd byr y bardd o Benyfed, Plwyf Llangwm.
Tebyg mai o blith y gwŷr rhyddion y dôi'r rhan fwyaf o'r offeiriaid plwyf.
Ond roedd gŵyl y Nadolig yn nesa/ u a gan ei bod yn dymor o ewyllys da, penderfynodd y tafarnwr yn Plouvineg gynnal gwledd gan wahodd holl drigolion y plwyf yno i'w mwynhau eu hunain.
Saif y pentref yng Nghwm Croesor sy'n ymestyn i ben ucha'r plwyf a'r ffin a phlwyf Ffestiniog.
Awgrymodd Mr Puw mai'r man cychwyn fyddai cael gafael ar dystysgrifau marwolaeth, priodas, ac efallai geni, y ddau a hefyd gallent archwilio cofrestri plwyf a chyfrifiad yn yr archifdy.
Fel y gwelir ar y mapiau, plwyf tair anglog cymharol fychan o ryw bedair mil o gyfeiriau yw Llangwyryfon, ac y mae'r stori hon amdano yn cyfeirio yn rhannol hefyd at y pum plwyf sy dros y ffin iddo.
"Wel, rydw i wedi cyrraedd yn ôl i'r plwyf.
John, fy mab-yng-nghyfraith, rheithor plwyf nid anenwog Llangeitho, a Morfudd fy merch a ddaeth i'n cludo i'r bês.
Diau ei fod wedi troi i ddarllen yr hyn a ddywedid am y plwyf yn yr argraffiad newydd o Britannia William Camden a gyhoeddasid y flwyddyn flaenorol.
Yn y plwyfi hyn, ymddiriedwyd y dasg o weinyddu anghenion y plwyfolion i'r offeiriaid plwyf.
Bellach yr oedd Cristionogion Cymru'n dysgu edrych ar y byd fel eu plwyf.
Yr unig fodau derbyniol yw'r personiaid plwyf ac yn enwedig yr uchel-eglwyswyr, y 'Puseyaid'.
Capel Prion yw mam Eglwys Fethodistaidd plwyf Llanrhaeadr-yng- Nghinmerch.
Cynhaliwyd gwasanaeth Naw Llith a Charolau yn Eglwys y Plwyf ac yn Eglwys Crist o bobtu'r Nadolig.
Roedd rhai ohonynt wedi mynychu'r gwasanaeth Mabsant yn Eglwys y Plwyf, Llangynwyd cyn ymuno gyda'r gweddill yn yr Hen Dafarn hanesyddol.
Gwelodd yno awgrym fod ambell enw lle yn y plwyf, megis Tre'r Dryw, Tre'r Beirdd, Maen y Dryw, Bod Owyr, yn dwyn tystiolaeth i ymwenud y Derwyddon a Mon ac a'r ardal hon yn arbennig, a chofiodd fel yr oedd Tacitus wedi son am eu safiad hwy yn erbyn y Rhufeiniaid yn y cyffiniau hyn.
Wrth i'r mudiad gynyddu, lluosogai'r seiadau ar draws y wlad a'r rheini'n galw am eu bugeilio gan na fynnai'r offeiriaid plwyf wneud dim â hwy.
Yn gyson â'r egwyddor hon, daliai Annibynwyr Llanfaches i ddefnyddio eglwys y plwyf.
Cynnwys y rhan hon hefyd ddarn helaeth o hen gomin y Goron hyd at bigyn deheuol y plwyf yng nghanol Llyn Eiddwen.
Y mae Henry Rowland yn gadael rhoddion i dlodion un plwyf ar ddeg, pump ohonynt yn Llyn, sef Aberdaron, Llanfaelrhys, Mellteyrn, Penllech a Bryncroes.
Dihewyd Plwyf a phentref yng Ngheredigion yw Dihewyd.
Yn y cyswllt hwn o edrych ar hanes plwyf, gellir olrhain y mudiadau ac adwaith y bobl tuag atynt gan ystyried eu lles i godi safonau byw.
Dechreuodd balchder gorddi Pamela a phenderfynodd na châi neb dorri cwrls hardd ei genethod a'u gwneud i edrych fel plant oedd yn cardota ar y plwyf.
Y manylion diweddaraf am holl gofrestri plwyf Cymru a'r copïau ohonynt a gedwir gan y Llyfrgell Genedlaethol.
Ysywaeth, flwyddyn neu ddwy ar ôl i Forgan ddod i'r fywoliaeth fe aeth yn ffrae enbyd rhyngddo ac Evan Meredith o Lantanad, twrnai ifanc yn llys Cyngor Cymru a'r Gororau yn Llwydlo ac uchelwr penna'r plwyf.
PLWYF LLANGWYRYFON Y mae i bob plwyf ei nodweddion arbennig ei hun ac nid oes unrhyw ddau yn hollol yr un fath.
Heblaw unigolion a theuluoedd fe ddaeth newydd-ddyfodiaid eraill i'n mysg yn ail chwarter y ganrif hon, sef y mudiadau newydd fel Sefydliad y Merched a Chlybiau'r Ffermwyr Ifainc, Cymdeithas y Capel, Dosbarth Allanol y Coleg a llawer o weithgareddau eraill a alluogodd y plwyf i ennill y lle blaenaf mewn cystadleuaeth sirol ar weithgarwch ardal wledig.
Gwir iddo lenwi swydd trethwr yn anrhydeddus iawn, ond gwyr y dylaf mai ychydig o gydymdeimlad sydd rhwng seryddiaeth a Threth y Tlodion, neu Gyngor Plwyf, er i'r seryddwr fod yn ysgrifennydd y Cyngor hwnnw am flynyddoedd.
Y mae i'r plwyf ddwy ardal wahanol i'w gilydd.
Mewn geiriau eraill, petai pawb yn yn y plwyf yn mynd i oedfeuon yr un pryd ac yn eu dosbarthiu eu hunain rhwng y gwahanol addoldai, byddai pedair sêt o bob deg yn wag.
Cafodd y cyfle i'w gyrru i ysgol eglwys y plwyf, ond mynnai'r athrawon yno dorri gwalltiau'r merched yn gwta .
"Mi glywaid i fod yna wledd i bawb yn y plwyf yma heno," meddai'r cardotyn mewn llais cras.
Caent eu cynhaliaeth allan o gyfran o ddegwm yr eglwysi plwyf, sef arian a oedd wedi ei neilltuo i'r pwrpas arbennig hwnnw.
Y mae i'r plwyf hwn ei batrwm ffisegol yn ei nentydd a'i afonydd, ei ffyrdd a'i ffermydd, ei gloddiau a'i gaeau, ei bant a bryn, ei goed a'i ddrysni, ei lechwedd a'i wastadedd, ei wyndwn sych a'i rosydd corsiog.
Ac roedd hynny'n dipyn o boen iddo gan ei fod mewn cariad â Madelen Porneg, merch y gŵr cyfoethocaf yn y plwyf.
Mae olion ei hen droeon gwreiddiol i'w gweld yn glir yn rhan ddeheuol plwyf Llangristiolus rhwng Fferam Fawr a Phen Crug.
Y mae rhan arall y plwyf - y deheubarth - uwchlaw hen Glawdd y Mynydd lle gorwedd clwstwr o dyddynnod bach Trefenter a'u dechreuad o dai unnos a godwyd yn y ddeunawfed ganrif gan y sgwatwyr crwydrol.
Rhennir y plwyf bron yn ddwy adran gydradd o ran maint gan afon Wyre sy'n rhedeg o Fynydd Bach drwy Lledrod a Llangwyryfon i'r môr yn Llanrhystud; mae i honno ei changhennau a'i nentydd mân, ac y mae'n disgyn fil o droedfeddi o'i tharddell i'r môr; am hynny mae hi'n codi'n wyllt ar ôl glaw ac yn gostwng yr un mor sydyn pan ddaw hindda.
I'r graddau hyn y mae hanes y plwyf hwn yn adlewyrchiad o blwyfi eraill Cymru yn eu hymdrechion i ennill bywoliaeth yn y ddau fyd.