Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

plygodd

plygodd

"Wyddost ti be?" Plygodd ymlaen i wthio'i gwallt oddi ar ei thalcen.

Plygodd y bachgen i lawr unwaith eto, a phan oedd y belen eira yn dechrau ymdoddi yng ngwres ei ddwylo, anelodd hi at ben un o'r milwyr.

Plygodd i godi'r pentwr papurau ar yr union funud y plygodd Lisa i wneud yr un peth, a thrawodd eu pennau'n glec yn erbyn ei gilydd.

Plygodd ei ben a'i gorff, ac er mawr syndod, aeth ati i ddarllen y llythyr dan ddyfynnu'r cynnwys yn uchel wrtho'i hunan.

Heb boeni dim am neb a allai fod yn gwylio, plygodd ei phen yn ôl a'i chusanu'n boeth ac yn galed, nes brifo'i gwefusau.

Agorodd y gyriedydd y cawell fel y gwnaethai lawer gwaith o'r blaen mae'n siwr, plygodd Mrs Trench a dechreuodd rannu'r hosanau llawnion gwerth eu cael.

Plygodd a chodi cas sbectol a'i roi ar y bwrdd.

Plygodd pawb eu pennau tra cerddodd pedwar Gwyliwr yn araf urddasol am y llwyfan.

Plygodd Vera i'w codi a sylweddoli mai nodyn Megan oedd y darn papur.

Plygodd y doctor i godi'r offer, sefyll o'r tu ôl imi a dechrau cornio'r cefn fesul modfedd.

Plygodd ei breichiau a gofyn: "Got anywhere to stay?" Roedd hi'n hen bryd iddo hel ei draed o grafangau rhyw garidym 'run fath a hon.

Plygodd pawb ymlaen i bwyso'r botwm glas ...

Plygodd hi'i phen.

Plygodd i gusanu'r merched, gan longyfarch Glenys ar ei siwt, ac Elsbeth ar ei bathodyn Band of Hope.