Rhaid plymio'n ddyfnach a rhoi'r cyfan i lawr o'i gwr os wyf i ddod i benderfyniad a ddyry imi ryw fesur o dawelwch meddwl.
Dro arall, chwarddai peilot Messerschmitt wrth weld awyren o Brydain yn ffrwydro, a'r gweddillion yn plymio fel tân gwyllt i'r môr.
Llecha dau gwm arall, Cneifion a Chlyd, ar bob llaw a chrognentydd hufennog yn plymio ohonynt i Lyn Idwal.
NI welid mohono'n plymio'n acrobatig, yn bloeddio'n uchel ac yn mynd dros ben llestri er mwyn tynnu sylw ato'i hun (fel y gwneir heddiw, gwaetha'r modd).
Wrth fynd heibio'r gornel, fe welodd eu car yn plymio dros y dibyn a'r fadarchen o betrol llosg yn selio ffawd y ddau am byth.
Roedd y cwbl yn dechrau troi, y ddwy lygaid almond yn troi'n gynt ac yn gynt, gan ffurfio un trobwll diwaelod a sugnai Meic o'i gadair nes ei fod yn plymio, plymio ...
Fe arferid edrych arni fel cyfrwng diddanwch munud awr yn unig, ond gan fod teledu'n cynnig y diddanwch hwnnw bellachd wedi mynd heibio er pan enillo, gall y nofel fentro plymio i'r dwfn a dehongli pethau yn ogystal ag adrodd stori.
Roedd yr awyren ddeng mil o droedfeddi lan a chyn hir roedd y ddau ddyn yn plymio tua'r ddaear ar gyflymdra o gan milltir yr awr.
Yn fuan wedi i greigiau Blaen Rhestr ymddangos ar y dde bydd y ffordd yn plymio'n sydyn i ryw bantle cyn ailgodi'n serth yr ochr draw; dyna Fwlch y Clawdd Du.
'Roedd Halen yn y Gwaed yn plymio i ddyfroedd dyfnion pechod a chydwybod yr wythnos hon, mewn pennod o actio grymus.