Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pnawn

pnawn

Yna'n cael nerth o rywle a dweud wrthi am ffonio Elsie ei hun (dim perygl iddi hi wneud hynny), ac nad oedd angen fy nghludo pnawn 'fory am fy mod i'n mynd i'r Rhyl yn y bore.

Amsar te pnawn 'ma mi rois 'y nhroed yni hi.

Teimlai Mam yn flin wrth Modryb, a daeth yr hen deimladau frwg a fu'n ei chorddi ganol y pnawn, i'w phlagio eto.

Gollyngdod digamsyniol ar bnawn heulog o Fehefin i gaethion bach y desgiau pren fyddai edrych i fyny ar y manol yn entrychion yr ysgol a chofio fel yr oedd Wmffra a Nedw wedi treulio pnawn cyfan yn y seilin yn gollwng slumod wrth ben dosbarth y sgþl.

Pnawn dydd Mercher cynhaliwyd yr oedfa ordeinio.

Diwrnod mawr i ni pan oeddem yn yr ysgol oedd diwrnod te parti Plas Gwyn (ni allaf gofio y flwyddyn), ond yr arfer oedd te parti yn y pnawn a "concert" gyda'r nos, a byddai wythnosau o baratoi, canu ac adrodd a "drillio%, ac roedd meibion y sgweiar a rhai o'r gweision a'r morynion yn cymryd rhan yn y "concert" mawr yma.

Cofiai Joe gryn drigain o chwareuwyr gwyddbwyll a ddeuai i wylio neu i chwarae wrth naw neu ddeg bwrdd, fore, pnawn a nos yn ystod misoedd y gaeaf.

Pnawn Sul 10 Medi mae cyfres newydd yn cychwyn ar S4C o'r enw 4 Trac.

Yn y pnawn roedd Meic Stevens yn perfformio ac er iddo fo ddweud ei fod wedi cerdded bob cam o Gaerdydd heb fy ffon yr oedd ei berfformiad yn gwbl bleserus - do, fe gafwyd y clasuron Dournanez a Môr o Gariad, ai lais rywfodd yn gweddu i awyrgylch yr Wyl.

Cael galwad ffon gan Bella pnawn ma.

Aeth gweddill y pnawn heibio fel pob pnawn Llun arall, ac os oedd rhyw olwg drist ar wyneb eu hathrawes ni ddaeth i feddwl yr un plentyn mai o'u hachos hwy y tarddodd y tristwch hwnnw.

"Pnawn Sadwrn 'ta.

Mae'n cymryd y pnawn yma'n rhyd, fydd e ddim yn cael llawer o amser rhydd yn ystod tymor yr ymelwyr, ac felly fe ofynnodd i mi fynd i nofio gydag e.

'Roedd yno radio,flynyddoedd cyn i ni gael un yn Nhy Capel, fy nghartref erbyn hynny, ac uchafbwynt y pnawn fyddai'r darllediad a ddechreuai tua dau o'r gloch - Llundain yn galw pellafoedd yr Ymerodraeth Brydeinig.

Ar Iol rihyrsal y pnawn fe fydden ni'r plant yn mynd i lawr at yr afon i daflu cerrig fflat ar draws wyneb y dŵr.

Roedd Lloegr yn enbydus o wael y pnawn hwnnw ond roedd 'na angerdd yn nhîm Cymru a dyna oedd y gwahaniaeth, ynghyd â'r ffaith.

Doedd pnawn Sadwrn ar y Maes Cenedlaethol ond yn brawf pellach o gyn iseled yw pêl-droed yn ein gwlad a dathlu bod yn gyfartal yn halen ar y briw.

"Dacw fo Enoc yn disgwyl amdano fo." "Mae o'n nerfa i gyd erbyn hyn, y creadur, 'roedd o ar biga drain drwy'r pnawn." "Oes arno'i ofn o?" "Na, nid hynny.

Ardal gwasgarog ydy Bol y Mynydd a'r ffermdai a'r tydynnod wedi eu hau yn blith draphlith dros wyneb y rhostir ac, yn ôl un hen goel, y cawr Odo sy'n gyfrifol am y blerwch Un pnawn mwll cyrcydai Odo ar ysgwydd Mynydd yr Ystum yn ddrwg ei hwyl, a hynny am fod ganddo gorn ar fawd ei droed chwith, a hwnnw'n pigo.

Anfonodd David Lewis ef at gapel bach y Babell, ble roedd ei fab a ffermwyr eraill wrthi'n torri'r gwrych o amgylch y capel y pnawn hwnnw.

Wedyn, teirawr yn y pnawn i ysgrifennu traethawd.

Os gwnaiff un ohonyn nhw rywbeth i ti amser chwarae'r pnawn - a mi wnân, raid i ti ddim ofni - gwasga fo'n reit dda, neu rho hergwd iddo fo.

Cofiwch ein bod ni dal ymlaen yn y pnawn ar hyn o bryd, a hynny am fis - gobeithio y gallwch chi wrando rhwng 3 a 5 bob pnawn.

Wedyn fe fydd pob un ohonoch chi'n cael gorffwys iawn yn y pnawn." A dyma'r dynion bach od yn edrych ar ei gilydd ac yn dechrau gwenu.

Treuliodd y ddwy y pnawn yn edrych o gwmpas y siopau, Llio ar bigau'r drain eisiau mynd adre i bori yn y llyfrau a Mair ofn am ei bywyd i rywun eu gweld.

Mi fuon ni ar hyd lôn Bicall pnawn 'ma, a gweld bod 'na olwg go lew am gnau, a rhai wedi tyfu mor fawr nes basa rhywun yn meddwl yn siŵr eu bod nhw'n barod.

Fel y dengys hanes.) Digon gan hynny yw i mi ddweud i'r sant ddinoethi ei fonau cil ym Mwlchderwin y pnawn hwnnw a brathu f'asgell.

Cynhelid gwasanaeth bob pnawn Sul ac ysgol Sul, ac yn ôl arfer ardaloedd de Cymru byddai Cymanfa Bwnc bob blwyddyn, gyda pharatoi mawr ar ei chyfer.

Tua diwedd y pnawn o sgio a choesau pawb yn brifo'n ofnadwy, meddai Patrick.

Oedden ni'n mynd yn y bore i'r ysgol sul, cwrdd yn y pnawn ar ol cinio, ac ysgol gan ar ol te.

GL Efallai cyfarfod yn y bore i'r cwmniau gael unioni eu darpariaethau a chyfarfod gyda'r chynrychiolwyr y canolfannau yn y pnawn.

Ac wrth iddi dacluso'i llyfrau yn nistawrwydd diwedd pnawn a chlywed lleisiau ei disgyblion yn pellhau nes mynd yn un â'r tawelwch y tu allan, ni allai lai na'u dilyn yr holl ffordd adref, yn ei meddwl.

Pnawn addysgiadol arall yn olrhain hanes datblygiad y lein, y gweithfeydd oedd yn gysylltiedig a'r datblygiad yma a'r bobl oedd ynglŷn â'r holl fenter.

Pan ddaethom at yr adeilad mawr oedd yn gartref i John Jones dywedodd, "Mi arhosa i amdanoch chi wrth y gamfa'r pnawn 'ma.

Ond y pnawn yma yr hyn rwyf i am ei wneud yw adrodd ychydig o ffeithiau noeth am droeon ei yrfa cyn ei 'droedigaeth' ym Mhenllyn, neu'n hytrach cyn iddo ddod i'w wir adnabyddiaeth ohono ef ei hunan, gan awgrymu'n wyliadwrus fod a wnelo'r ffeithiau hyn, efallai ryw fymryn a delwedd ac arddull ei gerddi, a chan gadw mewn cof nad yw gosodiadau ysgubol ac anghyflawn am fywyd a chefndir unigolyn o fardd, weithiau gan y bardd ei hunan, o fawr werth i'r neb a fyn o ddifri ei ddeall.

Safwn yn un o encilfannau coridor yr athrawon yn edrych ar haul y pnawn yn taro ar yr adeiladau o amgylch y cwad mewnol.

Roedd y pnawn gaeafol yn troi'n gyfnos a goleuadau trydan yn dod yn fwy llachar bob munud drwy'r llen o law mân.

O'r diwedd daeth dydd y profi - pnawn Sadwrn iach a thonnau mân yn dawnsio ar wyneb y llyn.

Fyddan nhw byth yn gweithio pnawn Sadwrn i chi.

Brysiodd yn ffrwcslyd tua'r sêt fawr, agor y llyfr emynau, ledio pennill a dweud wrth y gynulleidfa, 'Gellwch chi canu hwn ar eich tina.' Ar ganol ei bregeth un pnawn trymaidd, tynnodd o boced ei wasgod ffiol fechan o wydr.

Gwnâi hyn bob pnawn Gwener fel cloc.

Y pnawn hwn roedd gwers neu ddwy eto rhyngddynt a'r gloch pan glywsant swn car yn nesa/ u at fuarth yr ysgol.

Cofiwch ein bod ar y radio yn y pnawn ar hyn o bryd, a hynny am fis - gobeithio y gallwch chi wrando rhwng 3 a 5 bob pnawn.

Llusgo wnaeth y diwrnod, y bore fel oes, y pnawn fel tragwyddoldeb.

Digwydd taro ar ei gilydd yn lle'r bwci un pnawn Sadwrn wnaeth y ddau.

Bu Plant Ysgol Sul y Nant hefyd yn perfformio Drama'r Geni yn y Cartref ar y pnawn Sul cyn y Nadolig a rhoi naws arbennig i'r Wyl.

Gwr nobl oedd y Parchedig John Jones, yn fugail gofalus i'w bobl ers pymtheng mlynedd, ond ar derfyn pnawn heulog o Orffennaf fel hyn, ac yntau wedi galw yn rhai o ffermydd y fro ar ei daith i'r Plas, roedd o fymryn yn ansad ar ei draed ac, o bosibl, beth yn orhyderus yn ei siarad.

Erbyn pnawn Mercher dyma gadael y siap 'swch' i droi, plygu'r gliniau, plannu'r polyn yn yr eira, naid bach i fyny ac i rownd y tro.

Pan ddeuai diwedd pnawn nid oedd llawer o sefyllian yng nghyffiniau'r ysgol, dim ond ras am adref, waeth pa mor bell oedd hwnnw.

Ond doedd dim un ohonyn nhw yn gallu cael diod pan fyddai'r lleill yn gafael yn y cwpan, ac mi fydden nhw'n gweiddi, un ar _l y llall, "Dydw i ddim wedi cael diferyn!" "Na finnau chwaith!" "Mae 'na de wedi mynd i'm llygaid i!" "Ac mae 'na beth yn fy ngwallt i!" "Ac mae 'na dipyn wedi mynd ar fy nghrys i!" Felly doedd yr un o'r dynion bach od yn cael diod iawn yn y pnawn ac mi fyddai syched arnyn nhw.

"Fe arhosodd ar ol y pnawn 'ma i orffen y darlun." Agorodd y drws a arweiniai i'r cyntedd, a galw drwyddo.

Na'r rhyddhad o'i chlywed yn dychwelyd gartre bob pnawn.

Tada ddaru ddŵad â fi lawr pnawn 'ma ac mae o am ddod i fy nôl i ddydd Sadwrn nesa.

Tra'r oeddwn yno gryn deirawr un pnawn yr oedd cwsmer arall yn cysgu'n sownd yn ei gadair gydol yr amser.

Yna, dyma sylwi mai y ffilm, My Fair Lady, oedd arlwy y BBC ar gyfer y pnawn.

Yr un diwrnod cyfarfu Curig am y tro cyntaf â'i bwyllgorau, Pwyllgor y Llyfrfa yn y bore, a'r Pwyllgor Gweinyddol yn y pnawn.