Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

po

po

Teletubbies Felly, maen swyddogol: mae Tinci Winci, Dipsi, La La a Po yn Gymry! Crewyd hanes diwylliannol wrth i BBC Cymru lansior darllediad Cymraeg cyntaf erioed o'r Teletubbies.

Po uchaf fo'r marc gwell fydd ansawdd yr amgylchedd.

Y frawddeg i'w chofio yw'r un a ddywed: "Po fanaf yr had, manaf y pridd." Rhai mân iawn yw hadau lawnt.

Po fwyaf y disgynnai'r ganran honno, lleiaf oll oedd y gefnogaeth.

Po arafaf y bo'r dwr yn anweddu, mwya'n y byd y bydd y crisialau.

O ran yn unig, mi gredaf, y gall dyn ddechrau deall am y Creu; oblegid y mae'r gamfa olaf un byth bythoedd hed ei dringo a hynny am y rheswm syml ei bod yn symud ymhellach o'n cyrraedd po agosaf y meddyliwn ein bod a'n troed arni.

Mae gêm pi-po fel'ma wastad yn mynd lawr yn dda gyda'r plant bychan o tua blwydd a hanner i fyny ac mae'r llyfrau clawr caled yma yn llawn digon cryf a chadarn i wrthsefyll bysedd bach yn tynnu i bob cyfeiriad.

Po fwya' y syllwn i ar y ddaear, y mwyaf o olion y trueiniaid oedd yno darnau o'r sgarff draddodiadol, sandalau, crib, yn dal i orwedd lle syrthion nhw'r nosweithiau hunllefus hynny.

Po leiaf o faeth sydd yn y ffrwythau, po fwyaf ohonynt fydd rhaid eu bwyta - a dyna wasgaru'r pecyn mwyaf posibl o hadau i'r pedwar ban.

Gan fod y gylfingroes yn hoffi byw a bwydo mewn coed conwydd, gellir gweld heidiau ohonynt pan geir gorlifiadau po rhyw dair blynedd o'r cyfandir.

Cyfres newydd a'i gelwir yn Pi-po - a dyna'r union sydd gennym yn y pedwar llyfr yma.

Yr ydyn ni i gyd wedi gwneud pethau gwirion pan yn ifanc ond yn wahanol i Mr Hague yn sylweddoli gorau po leiaf ddywedwn amdanyn nhw wedi inni gallio rhywfaint.

Gorau po fwyaf o arferion da'r Cyngor hwnnw gaiff eu trawsblannu i'r Cynulliad.

Po uchaf fo cyfanswm y marciau gorau fo ansawdd yr ardal

Gan mai gorau po ieuengaf mae rhywun yn dysgu iaith, mae'n amlwg fod yn rhaid rhoi'r pwyslais pennaf ar ddysgu Cymraeg i blant a phobl ifanc, gan gofio hefyd am y gynhaliaeth sydd ynghlwm wrth hynny, megis rhieni a'r teulu estynedig ar yr un llaw, a chyfundrefnau addysg a hyfforddiant ar y llaw arall.

Gorau po gyntaf iddo gael mynd trwy ddrws y gwesty.

Yr oedd maint y blaten yn cael effaith ar ei thymheredd; po fwyaf oedd arwynebedd y blaten, mwyaf oll o wres a gollai wrth ei gweithio.