Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pobloedd

pobloedd

gan gredu bod y gynhadledd heddwch fawr sydd i'w chynnal yn llundain yn un o'r dulliau mwyaf effeithiol i addysgu a dylanwadu ar feddyliau pobloedd y gwledydd.

Mewn soned arall, 'Y Rhufeiniaid' (Synfyfyrio), mae ef yn ceryddu'r gwŷr a adeiladodd yr Ymerodraeth Rufeinig, nid am fod yn ormweswyr creulon a diystyrllyd o hawliau pobloedd eraill, ond am fethu â sylweddoli na fyddai eu gweithiau hwy yn parhau yn dragwyddol.

Fel yn achos pobloedd o bob rhan o Ewrop, bu America yn dynfa anodd ei gwrthsefyll i'r Cymry yn ystod y rhan gyntaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig yn sgil datblygiad y diwydiannau dur a glo, a chwareli llechi ym Mhensylfania.

Mae'r Grwp am ddod â newyddion am frwydrau pobloedd, mudiadau a ieithoedd eraill i dudalennau'r Tafod. Os oes gennwch chi newyddion i'w cyfrannu at y tudalennau – gorau'n byd.

Yn wir, daliai ef fod Arthur o bosibl yn hen arwr cenhedlig i'r pobloedd Brythonig cyn iddynt fudo i Brydain, ac mai dyna paham y ceir ef wedi ei leoli ym mhob man lle y sefydlwyd cymdeithasau Brythonig yn ddiweddarach, - yn yr hen Ogledd, yng Nghymru, yng Nghernyw ac yn Llydaw.

Bydd y Cwmni hefyd yn cael eu cosbi am y troseddau a gyflawnwyd yn erbyn pobloedd yr Ogoni.

Mae'r gallu i edrych ar y bydysawd yn y gwahanol rannau o'r sbectrwm wedi bod o gymorth i ni ddeall y bydysawd yn well nag erioed o'r blaen; fel y byddai siarad pob un o ieithoedd pobloedd y blaned yn golygu dysgu llawer mwy am y gwahaniaethau sy'n bodoli yn y byd.

Mae'r Frech Wen wedi dychryn pobloedd y byd ar droeon di-rif.

Yn ei cherdd Cusan Hances, sy'n un o ddwy gerdd o deyrnged i'r diweddar RS Thomas, mae Menna Elfyn yn pwysleisio'r gred mai pontio ieithoedd - ac felly pobloedd - mae cyfieithu ac nid difetha'r farddoniaeth wreiddiol.