Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

poblogaeth

poblogaeth

Adlewyrchir y darlun hyn yn y pedwar fframwaith poblogaeth.

Poblogaeth Gweithiol

Caiff y symudiad yma mewn poblogaeth effaith amlwg ar economi'r ardal gan fod y mwyafrif o'r mewnfudwyr a grym economaidd sylweddol uwch na'r brodorion.

Mynd wedyn i'r pentref - poblogaeth o 300-400.

Poblogaeth

Ystyriwch wedyn fod y Rhos yn fwy o ran poblogaeth ac adnoddau artistig na'r Wyddgrug.

Ond mae'n rhaid cadw mewn cof bod y mudiad rhamantaidd yng Nghymru yn ffynnu ar adeg o newid chwyldroadol yn y gymdeithas, o ddiwydiannu cyflym, a symud poblogaeth, hagru'r tir, o newidiadau ym myd crefydd ac iaith.

Yn enedigol o'r ardal - fe'i magwyd yn Nhalysarn - dywed i'r holl bwyllgorau fod yn eithriadol o weithgar ac er fod llai o "ddwylo'' i'w cael nag mewn ambell ardal arall oherwydd poblogaeth denau ni fu pall ar eu brwdfrydedd, meddai.

Gofynnai hynny am lawer iawn o weithwyr ac o ganlyniad roedd byd amaeth a chefn gwlad yn llawer mwy lluosog eu poblogaeth.

Erbyn 1911 yr oedd llawer rhagor na hanner poblogaeth Gymraeg Cymru yn ardaloedd y glo, 'wantoning in plenty' chwedl Lingen, a dyna sut y llwyddodd Gwyddoniadur Thomas Gee a'r cyhoeddi helaeth Cymraeg.

Yn ystod deng mlynedd olaf yr hen ganrif a deng mlynedd cyntaf ein canrif ni fe werthwyd miliwn o lyfrau emynau Cymraeg, - miliwn o lyfrau emynau ymhlith poblogaeth o ddwy filiwn, a dim ond hanner y rheini'n medru Cymraeg.

Mae'n seiliedig ar grisial o ruddem, ac fel pob laser cyflwr solid, mae'n dibynnu ar gynhyrchu poblogaeth o atomau o fewn y crisial sydd ag egni uwch na'r cyffredin.

Gyda chynnydd mewn poblogaeth, diwydiant, technoleg ac angen yn y Gogledd Orllewin; a chan fod rhwydwaith y nentydd a'r dyffrynnoedd pantiog bychan yn ddelfrydol i'w boddi...

ù Sylweddolwn fod y gymdeithas yr wyf wedi'i disgrifio uchod yn uned ~iach' yn gymdeithasegol, ond er hynny yn dirywio o ran poblogaeth.

Mewn byd lle 'rydym yn dod i ddibynnu fwy-fwy ar ein gilydd y mae astudio problemau'r newynog, sy'n cynnwys hanner poblogaeth y byd, yn dod yn bwnc pwysicach o hyd.

Tir, dwr, consgripsiwn, radio, teledu, symud poblogaeth, mewnfudo, diweithdra, iaith ac addysg - prin bod agwedd ar fywyd y genedl na bu'n faes brwydro rywbryd neu'i gilydd yn ystod yr hanner canrif diwethaf.

Y mae cyfradd poblogaeth weithiol y pedwar dosbarth (hynny yw y cyfran o'r boblogaeth sydd ar gael i weithio) gryn dipyn yn is na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr.

Etholwyd Llywodraeth Lafur yn 1945, gyda chymeradwyaeth trwch poblogaeth Cymru, a sefydlu'r wladwriaeth les a'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol, yn creu sustem i gefnogi'r diwydiant amaeth, yn gwladoli nifer o ddiwydiannau – polisïau sy'n cael mesur helaeth o gefnogaeth, o leiaf tan y 1970au.

Ond dyma beth sydd wedi fy syfrdanu - dau o weinidogion y goron yn haeru ar y teledu fod mwyafrif poblogaeth y deyrnas yn ei erbyn.

A'r gystadleuaeth y mis yma yw amcangyfrif poblogaeth Clwyd.

Trosir hyn i'r cyfrifiadur drwy greu poblogaeth fechan o 'DNA' mewn meddalwedd - yn syml, rhestr sy'n cynnwys nifer o gyfuniadau o'r chwe llythyren uchod.

Gan iddynt hiliogi o'r 'unigolion' gyda'r 'DNA' mwyaf llwyddiannus o'r cenedlaethau cynt, ceir poblogaeth o 'DNA' sydd ar y cyfan yn dynodi llwybrau byrrach.

Mewn natur, mae esblygiad yn dibynnu ar yr amrywiaeth genetig sydd mewn poblogaeth o greaduriaid o'r un math.

Mewn oes pan nad oedd hanner poblogaeth Cymru yn mynychu na chapel nac eglwys, meddai ef: '...' Gellid dadlai mai nai%vete/ a barodd iddo wrthod derbyn yr un ddimai goch o arian y wladwriaeth i gynnal ysgolion yng Nghymru, a breuddwyd gwrach oedd disgwyl i enwadau, yr oedd eu culni a'u heiddigedd o'i gilydd yn ddihareb, ymuno'n frwd â chynllun a fyddai'n cymell gwerinwyr tlawd i gyfrannu swllt y pen bob blwyddyn yn enw addysg grefyddol wirfoddol.

Flynyddoedd yn ôl, yma byddai poblogaeth yr ardal yn dod i ymochel rhag yr Arab slave traders a hefyd rhag byddin Buganda pan wnaent ymosod arnom." Wrth y myfyrwyr dywedodd: Rydych chwi, fel Buganda hefyd, y rhai cyntaf i ddod yma.

Wrth i'r algorithm atgenhedlu'r 'rhieni' mwyaf llwyddiannus, sef y rhai gyda'r 'DNA' a gynrychiolai'r llwybrau byrraf, ceir poblogaeth newydd o 'unigolion' gwahanol.