Mae'r awdurdodau iechyd yn poeni fod yr arfer o ddefnyddio tatws parod ar gynnydd gan fod y mwyafrif o bobl eisoes yn tueddu i fod yn brin o fitamin C.
Dyma faterion a fu'n poeni rhai ohonom ar Bwyllgor Sefydlog y Mesur Iaith yn y Senedd.
Doctoriaid yn poeni am y nifer o blant oedd yn ysmygu.
Ond fydd neb yn poeni nad ydw i wrth y bwrdd bwyd gan fod llawer ohonom yn aros yn hwyrach yn y bync ar fore Sul am fod llai o waith i'w wneud." Gobeithiai y byddai'r capten yn sylweddoli'n weddol fuan ei fod ar goll.
Fy hun, fe fyddwn i'n poeni mwy am hynny nag am ferched au mannau goglais yn swrth a chyda mwy o amser ar eu dwylo nag o sens yn eu pennau.
Awdurdodau yn poeni am lefel y glaw asid a oedd yn effeithio ar lynnoedd.
… ond does dim angen poeni, gan fod y gitâr flaen yn swnio llawn cystal – os nad yn well – ar y gân olaf, sydd yn ddiweddglo naturiol i'r EP.
Mae Cymru, felly, trwodd i'r wyth ola ond gynta bydd rhaid wynebu Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm a fydd y Crysau Duon ddim yn poeni gormod ar ôl gweld perfformiad simpil y Cymry neithiwr.
Mae Llywodraeth Iwerddon yn poeni yn fawr y byddai hynny'n lledu'r clwy ymhellach.
Oes yna rywbeth yn eich poeni chi - ffrind, efallai, neu aelod o'r teulu?
Rhyw ddyfalu ydw i ond dwi'n poeni efallai mai'r hyn sy'n digwydd ydi bod ysgolion yn defnyddio pobol heb gymwysterau iawn i ddysgu mathemateg oherwydd y cyfyngu ariannol sy wedi bod.' ' Peth arall sydd yn gofidio Gwyn Chambers yw cyn lleied o Gymry Cymraeg sydd yn mentro i faes mathemateg.
Chum mawr i mi wyddost ti.' ''S'gin i ond gobeithio, Syr, y medrwch chi gysuro'i weddw o yn 'i hadfyd.' 'Paid ti â poeni am hynny, Obadeia Gruffudd.
Mae awduron yn y ddwy iaith yn poeni am yr un gofalon, boed y rheini'n gymdeithasol (fel diweithdra), yn fyd-eang (fel pryder niwclear), neu'n bersonol (fel plant yn tyfu i oed).
Mae'n llawer rhy hawdd cael benthyciad y dyddiau hyn, a dyw'r sawl sy'n rhoi'r arian yn aml iawn ddim yn poeni os bydd y ddyled yn faen melin am wddf rhywun, ac yn eu harwain i ddyfroedd dyfnion.
Fodd bynnag, mae swyddogaeth y cudyn silia yma yn dal i'm poeni ac fe'i gadawaf yn y fan yma am y tro.
A doedd e ddim yn poeni rhyw lawer am ferched chwaith.
Erbyn hyn, doedd neb yn poeni rhyw lawer am ei sefyllfa, a dyma ddiddanu ein hunain drwy ganu.
A phrun bynnag, meddai, petai o'n dechrau poeni am bob tū gwag roedd o'n ymweld â nhw byddai ar ei ben yn y seilam.
Ond paid poeni, mae punten eu ddwy ar y ffordd, rhywbeth rwyt ti, hwyrach wedi ei anghofio.
Nid y diffyg sylw penodol at y Gymraeg yn unig sy'n ein poeni.
Gwrthwynebydd arall yw'r Cynghorydd Rhys Sinnett sy'n poeni am gamddefnydd o arian y cyhoedd ac yn anghytuno â barn Lyn Davies bod unrhyw gyhoeddusrwydd i Sir Benfro (boed dda neu ddrwg) i'w groesawu.
Dwi'n poeni na fydd seilia' ar gyfer lefel A mor gadarn ag y buon nhw ac y bydd yn rhaid gostwng safon gwaith dosbarth chwech.
Roedd goliau Kluivert yn tynnur sylw - ond roedd o hefyd yn rhedeg llinell dda, yn dal y bêl i fyny a doedd o ddim yn poeni derbyn y bêl mewn lle cyfyng.
Does bosib na ddylem ni fod yn poeni mwy am bethau felly nag am blannu maip yn San Steffan.
'Doedd clywed mam a nhad yn ffraeo byth yn ein poeni ni fel plant, gan y gwyddom i sicrwydd na fyddai'r ffrae yn para yn hir iawn, mi fydda sylwadau doniol nhad, neu rhyw edrychiad slei, yn toddi mam.
Roedd hon yn waeth na'r un o'r lleill, ond doedd hynny ddim yn poeni'r dderwen hon ar lan yr afon.
Ond nid urddas traddodiad yn unig sy'n eu poeni.
Achosir yr argyfwng sy'n poeni'r genedl gan bwysau gwleidyddol; felly y mae'n rhaid ei ddatrys yn wleidyddol.
Er i Gasnewydd ennill yn gyffyrddus yn erbyn Cross Keys mae eu hyfforddwr, Allan Lewis, yn poeni nad yw ei dîm wedi bod ar eu gorau yn diweddar.
Mae'r plant yn poeni beth sy'n digwydd i'r cymeriadau.
'O, hwnnw.' Doedd Nel ddim i'w gweld yn poeni fawr am hynny.
Diolch byth, meddyliodd Alun, ni fyddai raid poeni lle'r oedd yr haul.
Roedd - - yn poeni fod comisiynydd yn berygl o golli ei statws di-duedd wrth gymryd gwaith uwch-gynhyrchydd.
Doedd tîm cryfa Caerdydd ddim ar y cae neithiwr ond doedd hynny'n poeni dim ar gefnogwyr Merthyr wrth iddyn nhw ddathlu buddugoliaeth gofiadwy.
Er bod ei nain ar goll, doedd o ddim yn poeni gormod amdani.
Poeni'r oedd hefyd, fel y cyfeddyf yn ei hunangofiant ac fel y tystia dyneiddiaeth amrwd y fersiwn cyntaf o 'Iesu Grist', am wirionedd y ffydd Gristnogol.
Roedd Cyfeillion y Ddaear, hefyd, yn poeni am yr hyn a honent oedd yn diffyg ymgynghori.
Ond dyw Elin ddim yn ymddangos fel ei bod yn poeni o gwbl.
A dwi yn poeni bod y nod hwnnw yn diflannu o'r gôl hollbwysig honno a elwir yn ddatganoli grym.
'Dydyn ni ddim yn poeni gormod am hyn'na.
Yr oeddwn yn poeni tipyn.
Doedd dim angen poeni, mewn gwirionedd, gan fod y cypyrdde yn y gegin wedi'u hadnewyddu, a finne wedi ailbeintio'r cwbwl; iddyn nhw, mae'n rhaid bod fy stori yn ymddangos yn orddweud mawr.
y broblem yw penderfynu pryd y mae stori yn tyfu'n ddigon hir i fod yn nofel ond gwastraff amser yw poeni am bethau fel na.
Gwyddonwyr yn poeni fod llosgi tanwydd ffosil yn peri i'r tymheredd godi.
Mae Henry yn poeni fod chwaraewyr yn gorfod chwarae gormod o gemau mewn tymor.
Erbyn iddynt fwyta eu sosej a'u sglodion a'u hufen iâ bob tamaid a mynd i'r lle chwech efo Owain ac i'r ystafell newid clytiau efo Guto, roedd awr a hanner wedi mynd heibio er pan adawsant y car, ac yr oedd Carol ar bigau'r drain yn poeni am Emyr ar ei ben ei hun yn tŷ yn pryderu amdanynt hwythau.
Serch hynny, oherwydd ein bod yn cael ein gwthio i feddwl am neges y straeon hyn, gwelir nad oes pwynt poeni am ein bodolaeth gan fod hynny yn dod â gwacter ystyr.
Ond fe'i hachubir rhag poeni gormod ar y pwynt hwn o gofio y gall ei feistr tir godi'r rhent ar gyfer rhai mathau o welliannau.
Fe ddwedodd y Proffesor ar unwaith 'i fod ynte wedi bod yn poeni.
'Ti'n gweld, 'tae'r cyngor tre yn poeni llai am osod bandstands a phalmantu'r promenâd a mwy i sicrhau bod y strydoedd yn saff rhag fandalied a rafins ........
Tybed mai dim ond y mawrion yn eu plastai a'u cestyll oedd yn cael eu poeni gan ysbryd ac nad oedd hi'n broblem o gwbwl i'r bobl gyffredin roeddwn i i'w gwasanaethu?
Os cofiwch chi, mi roedd tipyn o strach ynglŷn â'r ffilm wreiddiol (gyda Hywel Bennett yn y brif rhan) oherwydd bod trigolion yr Aber(ystwyth) go iawn yn poeni y byddai twristiaid yn ofni dod i'r dre o'i herwydd.
'Poeni am fod yn segur wyt ti?
Ond, mynegodd rhai o drigolion Carneddi eu pryderon ynglŷn a'r cynllun wrth y Llais, gan ddweud eu bod nhw'n poeni y bydd y tai ym Methesda i gyd yn edrych yr un fath yn y dyfodol, ac y bydd nodweddion hanesyddol diddorol, fel ffenestri anghyffredin, wedi mynd ar goll.
`Amdanat ti roeddwn i'n poeni, bach, nid am y pres,' meddai Mrs Regan.
I ddweud y gwir wrthoch chi, Doctor Treharne, roeddwn i wedi bod yn poeni ers misoedd am y peth, ac fe es i mor bell â dweud hynny wrth Proffesor Dalton.
Yn y gerdd 'Pentref ' mae'n poeni am ddylanwad y dechnoleg newydd, technoleg newydd sy'n ail-greu'r byd ar lun pentref byd-eang.
'Roedd dylanwad yr holl blant o Saeson yn poeni pobl fel W. J. Gruffydd, a ddywedodd fod dylanwad y Rhyfel hwn ar ddyfodol Cymru a'r iaith Gymraeg yn anhraethol fwy na dylanwad y Rhyfel Mawr.
Yn wir yr oedd y moral mor uchel am tua wythnos wedyn nes i mi ddechrau poeni sut y byddwn yn llwyddo i'w godi drachefn yn y dyfodol!
Ond roedd hi'n amser poeni eto oherwydd bod y lifft ar fin cyrraedd pen ei thaith!
Mi fydd y Swyddfa Gymreig yn ymosod, yn siarad yn blaen ac yn poeni dim am dynnu pobol i'w phen - a dweud y gwir, mi fydd yn ymhyfrydu yn hynny, gyda'r Is-ysgrifennydd newydd wedi cael cyfrifoldeb am ddau o'r meysydd fyrnica' - addysg ac iechyd.
Rwy'n dweud wrthoch chi - yn y cyfnod y sgrifennwyd yr awdl yna yr oedden ni'n genedl a roedden ni'n poeni am Dryweryn, Adfer ar fin cael ei sefydlu ac yr oedd Cymdeithas yr Iaith ar waith 'da ni.
ta beth, mae'r nofel yn gweithio ar lefel stori%ol amlwg a dyna beth sy'n apelio at y rhan fwyaf o'r darllenwyr, dwi'n credu, ac os nad ydyn nhw'n poeni am yr is-haenau na'r strwythur, wel dyna fe.
Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn poeni o hyd na chynhaliwyd trafodaeth lawn eto yng Nghymru am yr opsiwn newyddion integredig, ac y bu diffyg data monitro rheolaidd.
Nid poeni am y statws, nid poeni am yr aelodaeth ond poeni sut yr oedd grym am gyrraedd y cymunedau.
Felly, er fy mod yn poeni am 'safon' iaith fel ein sylwebyddion, y tu fas i'r Cynulliad Cenedlaethol / Cyngor Sir / Cymdeithas Adeiladau / Cwmni Ffôns Symudol y mae lle Cymdeithas yr Iaith i brotestio o hyd; ac nid trwy gynnal darlleniadau cyhoeddus o Ramadeg y Gymraeg yn y gobaith y bydd rhywrai'n cael eu hadfer i ddefnyddio'r treigliad llaes yn ei holl ogoniant.
Mae straen y Nadolig yn dod i'r wyneb wrth i Kath gychwyn poeni am dreulio'r Nadolig ar ei phen ei hun, tra bod Cassie yn gorfod gwylio beth mai'n ddweud wrth i Hywel fynd dros ben llestri yn prynu anrhegion Dolig i Rhys.
Dydyn nhw ddim i weld yn poeni, ond wedi'r cyfan yr ystafelloedd yma yw eu cartrefi nhw.
Mae'r cythreuliaid yn poeni erbyn hyn, fodd bynnag, bod Cymru'n prysur newid (t.
Ond, yn rhyfedd iawn, does yna fawr neb i'w weld yn poeni a yw Duw wedi ei ypsetio neu beidio.
Dyma gyfnod y delfrydau cyn cyrraedd hunanoldeb yr wythdegau, y cyfnod pan oedd yr ifanc yn poeni am bethau'r byd.
Dim gwaith sychu llwch, dim gwaith poeni yn eu cylch nag yn eu sgwâr.
Bu Gruffydd druan yn poeni dipyn ar hyd ei oes a oedd ef wedi haeddu ennill y pryd hynny neu beidio.