Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

poenus

poenus

Yn ôl Meddygon Myddfai un ffordd i wella'r ddannodd oedd rhoi hoelen o dan y dant poenus cyn ei tharo i dderwen.

Gallai ystyried y fath bethau arwain at ddatgan euogrwydd, at ailagor hen glwyfau, at addasu poenus.

Roeddent yn atgof poenus am y Forfudd ifanc, yn dannod iddi oruchafiaeth amser, yn dannod iddi dreigl y blynyddoedd, a hithau, yn ôl pob golwg, wedi parhau mor eisteddol wrth ei thro%ell erioed.

Gan nad yw Ms Butler wedi ateb na chydnabod ein llythyrau mae'n rhaid holi nifer o gwestiynau poenus.

Torrodd yr afiechyd poenus hwn ar draws ei efrydiau.

Y mae ceisio cysoni'r ffaith hon a'r teimlad o falchter cenedlaethol, hyd yn oed a hunaniaeth genedlaethol, yn orchwyl poenus o anodd.

Braidd symud 'y nghoese fedrwn i 'neud, ac yn yr eiliade poenus hynny, fflachiodd y cof am ddamwain 'Nhad yn ôl i mi, a'r boen a ddioddefodd e am gyfnod mor hir.

Nid yw'n syndod, efallai, fod Kennedy a'i gefnogwyr wedi ceisio cuddio'r ffaith ei fod yn dioddef o'r afiechyd hwn, er iddynt fod yn ddigon parod i gyfaddef ei fod yn dioddef llawer gan nam poenus yn ei gefn.

Ac yr oedd wynebu ei chwaer Gwen, wedi iddo ddiystyru ei chyngor, yn beth poenus iawn iddo.

Gan nad yw Ms Butler wedi ateb na chydnabod ein llythyrau mae'n rhaid holi nifer o gwestiynau poenus y gobeithir cael atebion iddynt.

Mae carthu ymaith y gwyriadau athrawiaethol, y chwarae mig â safonau moesol, yr ysfa i droi Iesu Grist yn fasgot ein trachwantau ni, yn waith poenus.

Er hynny, fe'i gorfodwyd gan y gwahaniaeth poenus rhwng ei dull hi o waith a'i ffordd yntau i ymdrechu'n anfodlon i ymddiheuro.

Roedd hyn yn llawer llai poenus i'r coesau a phawb yn mynd yn gyflymach - i fyny ac i lawr dros y 'maguls', aros yn llai aml a gwirioneddol fwynhau'r profiad nes ein bod yn teimlo ar ben y byd - yn gorfforol a llythrennol.

Nid oes uwch cydnabyddiaeth o barhad na bod yn wrthrych mil a mwy (yn llythrennol felly) o draethodau poenus ganol Haf.

Aeth yn ei ôl i'w wely gyda'i stumog yn grampiau poenus ac roedd ei holl gorff yn ddolurus fel pe bai wedi cael andros o gweir.

'Does 'na ddim sy'n fwy poenus na'r ddadl a'r frwydr ddiddiwedd honno ynghylch cyflwr y Gymraeg yn ei gwlad ei hun.