Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

poeth

poeth

Roedd y Wraig wedi bod yn defnyddio'r dŵr poeth trwy'r dydd gan nad oedd dim o'r llall ar ga'l ac fel yr oedd Ifor ar roi ei fawd ar gliciad y drws clywodd y glec fwya annaearol a glywodd erioed!

Diddorol - blasu fel creision poeth.

Fe godais o'r gwely, gosodais botel dwr poeth ar y man priodol ac fe gymerais Aspirin i leddfu'r boen.

Yr oedd cysondeb hefyd rhwng dadlau'r achos ar lefel rhesymeg mathemategaidd, haearnaidd, amhersonol, a'i gymysgu ar yr un pryd gydag ymosodiadau poeth, emosiynol ac yn aml enllibus o bersonol.

I wneud hylif sebon rhowch lond cwpan o blu sebon (Lux neu unrhyw beth tebyg) mewn dysgl ac ychwanegwch ddŵr poeth.

Gwelai eisiau'r uwd poeth yn y bore, a'i gynhesrwydd.

dros y copaon i Nant Peris lle roedd un o hogia' Clwb Mynydd Dyffryn Ogwen yn disgwyl amdanynt efo diod poeth.

Amser cinio cafwyd cyfle i dynnu'r sgis, datod yr esgidiau, sythu 'nghoesau, ac, wrth gwrs, diod poeth o 'Le Mumba' - siocled poeth a brandi!

Mae yn ganol haf yma - dyddiau poeth difrifol - ddoe gydag echdoe bron yn gant, heddiw dipyn bach o awel.

Doeddwn i ddim yn ffansi%o llawer arno a hefyd yn meddwl: Beth pe tase pawb yn penderfynu chwythu yn lle sugno, ach a fi !' Nid oedd y calabash yn dal llawer ond bob hyn a hyn, deuai un o'r dynion o'r cefn gyda llond tegell o ddŵr poeth a'i dywallt i'r gwin.

Syn golygu, maen debyg, mair presant gorau y gall rhywun ei bryni i rigar y gaeaf nesaf fydd potel ddwr poeth.

Nid yw'r arbrofion efo swigod yn gweithio cystal ar ddiwrnodau sych, poeth.

Eira a barrug trwy Chwefror, poeth trwy'r haf.

Mae gennyf gôf plentyn o fynd ar y trên bach i'r Mwmbwls o Abertawe yn Ystod un o'r hafau poeth tragwyddol yna a gawsom i gyd fel plant, gan dreulio'r diwrnod i gyd ar fy hyd yn turio rhwng y creigiau am drysor.

Mae'r cwn poeth i gyd hefo chdi ar y llwyfan 'na.' Ar wahan i ryw betha bach fel 'na, roedd o'n hen foi iawn.

Ar derfyn y gynhadledd peidiodd y dþr poeth.

Roedd gan y swyddog fwstas twt, du, imperialaidd, llygaid du, poeth a chaled fel y glo, a golwg cyffredinol dyn y byddai'n talu i gyd-dynnu ag o.

Os defnyddir potel dwr poeth i dwymo'r gwely fe ddylid rhoi'r gorau i'r blanced drydan, oblegid gall y ddau gyda'i gilydd fod yn beryglus (a chysgu arnynt yn berygl ychwanegol).

Wedi clirio'r llestri swper, rhoi proc i'r tân a dŵr yn y botel ddŵr poeth, casglodd Laura Elin y cwbl ynghyd a pharatoi i cychwyn.

Cariai ei gwpan gyda'i dun bwyd mewn bag, a châi ei llond o ddwr poeth o gwt injian y bonc lle y digwyddai fod yn gweithio, yna fe wagiai hanner llond tun oxo o de a siwgwr yn gymysg ar ben y dwr a gosod ei law yn dynn dros y gwpan a'i hysgwyd yn iawn, ac er i'r dail fod yn nofio ar yr wyneb fe âi'r cwbl i lawr--ond y rhai a lynnai wrth ei fwstas.

Diwrnod diddorol iawn, poeth iawn, serch hynny, a chyfle i grwydro o gwmpas man strydoedd Agra ddiwedd y prynhawn, a'r tebygrwydd a rhai mannau yn y Caribi yn brigo eto, ond fod mwy o bobl hyd yn oed, llai o lawer o geir, a phob math o drafnidiaeth arall unwaith eto - beics, rickshaws, motor-beics, bysiau, ychydig iawn iawn o geir.

Daeth y si drwodd fod afon Tafwys yn Llundain wedi ei rhewi mor galed fel y gellid codi stondinau arni i werthu cnau castan poeth i'r rhai oedd yn sglefrio arni.

Cnays y mae eu priodas hwy wedi ei phrofi mewn tân poeth ac wedi ei churo yn ddidrugaredd ar eingion cyd-ddealltwriaeth.

Ionawr gwyn, haf poeth.

Pan oedd Ifan yn byw yn Llanddeusant, fe gynhaliwyd cyfarfod i drafod cais rhyw wr busnes a ofynnai am hawl i werthu cwn poeth yn y pentra.

Roeddwn yn dal i rythu ar y llygaid du, poeth pan agorodd ddrws ym mhell yn ôl o dan y grisiau.

Mewn llun optegol gwelwn belydriad sêr yn bennaf, ond yn y llun pelydrau-X gwelwn allyriad nwyon poeth iawn, ar dymheredd o filiynau o raddau Celsiws.

Arnbell dro fe ddywedai hanes yr heicwyr a'r dringwyr a ddeuai'n barhaus at ddrws ei fwthyn i ofyn am gysgod neu ddwr poeth--"Tydw' i'n trystio'r un diawl ohonyn' nhw, wyst ti.

Gwelodd fod un ddraig wedi cael ei rhwygo yn ei hanner ac anadlai'r llall yn drwm gan grafangu'r tir oedd dan bwll o waed poeth.

Mae'n ddiwrnod poeth yma a'r môr a'r awyr yn las.

Eiliad yn ddiweddarach ac roedd y tanc dŵr poeth yn y cwpwrdd wrth y stôf wedi chwythu!

Gorffennaf poeth, bydd Medi yn wych.

Er gwaethaf y tywydd poeth mae rygbi yn dal yn boblogaidd yma gyda Julian yn un o drefnwyr gornest ryngwladol i fechgyn ysgol dan 19 bob Pasg.

Sefydlwyd rhai canghennau newydd yn ystod y flwyddyn, yng Nghoed-poeth, y Bermo, Penrhyndeudraeth, Dyffryn Teifi, Wdig ac Abergwaun, Maesteg, y Rhondda, ail gangen yn Llanelli, a changen ymhlith staff Cyngor Dosbarth Castell Nedd.

Gallai deimlo anadl poeth ar ei war a chlywed rhyw ganu grwndi bygythiol yn ei glust.

Bryd hynny, caem eira trwchus bob blwyddyn yn gyson (yn union fel y caem haul poeth yn yr hafau hefyd).

roedd yr haul yn uchel yn yr awyr ac roedd debra yn synnu bod y dyn yn darllen papur newydd mewn car poeth yn lle eistedd ar deras y bar fel y gwnâi hi.

Yr oedd rhai ohonynt yn magu ac yn llawn llaeth a hithau hefyd yn ddiwedd Mai neu ddechrau Mehefin poeth; yr oeddem wedi eu dal ar gam amser.

Ymddengys fod Wil y gwas bach wedi hen flino ar ddilyn yr injan lladd gwair o gwmpas y cae ar ddiwrnod poeth o haf ac iddo achwyn ar ei fyd.

Bydd yn mwynhau ei chysgod ar ddiwrnod poeth; bydd yn dotio at liwiau a ffurfiant ei dail; fe wêl yr adar yn trydar ynddi a gyda'r nos bydd yn llawn syndod wrth edmygu ei ffurf yn erbyn cochni'r machlud.

Gorffennaf poeth iawn, Ionawr oer iawn.

Dim dwr na thrydan bore'ma felly molchi mewn powlen hefo dwr o fflasg (cadw fflasgiau dwr poeth yn barod - jyst rhag ofn!).

Am ran o eiliad, safai'r dwblwr a'r senglen gyferbyn â'i gilydd, yn frwydr rhwng nerth corff a metel poeth.

Brysiodd adre i fath poeth, a diferyn o wisgi yn ei the.