Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

polisiau

polisiau

Nid yw'r deddfau eu hunain yn newid ymddygiad dros nos ond maent yn sail i adeiladu polisïau eraill arnynt.

Ni ragwelwyd na fyddai ganddi, o leiaf ar y dechrau, na'r agwedd meddwl, na'r pwysau a fyddai'n ei galluogi i lunio polisiau na fyddai'n adlewyrchiad uniongyrchol o bolisiau adrannau eraill Whitehall.

Integreiddio Polisiau: I lwyddo i greu newid yn yr amgylchedd, mae angen fel arfer integreiddio gweithgareddau ar draws ffiniau strwythurol, proffesiynol a daearyddol.

O'r herwydd mae lle i adran, - os teimla'r aelodau fod adfyfyrio, treialu dulliau gwahanol, ymchwil ddosbarth ganolog a thrafodaethau, wedi arwain at ddulliau neu syniadau gwerthfawr,- eu mabwysiadu fel rhan o'u polisiau adrannol.

Mae hon yn foment dyngedfennol sy'n dangos yn glir bellach mai twyll oedd datganoli i hwyluso gweinyddu polisiau Llundain yng Nghymru, yn hytrach na chymryd y cam cyntaf tuag at ffurfio polisiau datganoledig gwirioneddol Gymreig.

Yn ei ymateb i'r adroddiad Cymraeg nododd y pwyllgor nifer o bynciau y byddai'n briodol iddo eu harchwilio a datblygu polisiau arnynt ar fyrder.

Efallai wir fod y ffaith nad yw ein cymunedau Cymraeg wedi diflannu'n llwyr yn destun clod i ymgyrchwyr a aeth ati wedi 1984 i greu polisiau iaith newydd yn ein hysgolion, ym myd tai a chynllunio ac a greodd hyder newydd o ganlyniad i'r ymgyrchu.

Argymhellir ymgymryd ag ymchwil mewn rhai agweddau allweddol o'r maes hwn a fyddai'n cynorthwyo llunwyr polisiau ac addysgwyr gweithredol i hyrwyddo agweddiadau positif a chefnogol wrth gynllunio rhaglen datblygu addysg Gymraeg.

At hynny, y mae'r Gymdeithas wedi galw am y canlynol: bod y Swyddfa Gymreig yn comisiynu ac yn noddi prosiect ymchwil ar 'Ddefnydd yr Iaith Gymraeg mewn Cynllunio'; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol roi ystyriaeth i'r Gymraeg yn eu Cynlluniau Datblygu Unedol, gan mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru a'i bod hi'n etifeddiaeth gyffredin i holl drigolion Cymru; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol gynnal arolwg o gyflwr yr iaith yn eu hardaloedd, a llunio strategaeth iaith a fydd yn ffurfio polisïau i warchod a hyrwyddo'r iaith yn eu hardaloedd; - bod y Swyddfa Gymreig yn rhoi fwy o arweiniad i'r awdurdodau cynllunio lleol, ac yn cyhoeddi canllawiau fwy manwl ar ba fath o bolisïau y dylid eu mabwysiadu er gwarchod a hyrwyddo'r iaith.

Neil Kinnock yn rhybuddio cynhadledd y Blaid Lafur fod rhaid ailfeddwl ynghylch polisïau.

Ar y daith i Lundain mae aelodau'r Gymdeithas wedi bod yn ymweld â nifer o bencadlysoedd y cwmniau ffôn symudol sydd rhyngddynt â phen y daith, gan eu holi am eu polisïau ynglŷn â'r Gymraeg.

Gyrrwyd crynodeb o Ddeddf Eiddo at bob awdurdod unedol gan alw arnynt i bwyso ar y llywodraeth ganol am fwy o rym gweithredol yn eu hardaloedd ac i ystyried anghenion cymunedau wrth lunio polisïau tai.

Serch hynny, y mae hwn yn faes y bydd yn rhaid ei ddatblygu a byddwn yn ystod y cyfnod dan sylw yn ceisio defnyddio pob cyfle i ddwyn mwy o ddylanwad ar y sawl sy'n ffurfio a gweithredu polisïau economaidd a chymdeithasol.

Astudiaeth o greu polisïau ac adfywiad iaith.

y defnydd o iaith mewn polisiau, cynlluniau gwaith a.y.y.b.

Ar hyn o bryd, mae ysgolion gwledig yn cael eu trin a'u trafod mewn dull tameidiog a negyddol: mae polisiau'n newid o un awdurdod lleol i'r nesaf, ac mae'r ysgolion yn cael eu gweld fel problemau costus - yn niwsans.

Wedi chwarter canrif o brofiad gwelwn mai gwaith cyson y Swyddfa Gymreig - ar wahan i'w chyfrifoldeb am y Gymraeg - yw (a) gweinyddu gyda help y cyrff annemocrataidd sydd dan ei rheolaeth, bolisiau craidd Adrannau nerthol Whitehall, boed y polisiau yn gyson â'n dyheadau yng Nghymru a'i peidio, a (b) cymryd cyfrifoldebau iddi ei hun a ddylai fod yn nwylo cynrychiolwyr etholedig y bobl.

Yng ngoleuni sylwadau'r aelodau, cynnwys y polisiau a gynhwysir yn y Papur Trafod yn Nrafft Ymgynghori Cynllun Lleol Eryri.

Y perygl amlwg yw fod y Ddeddf Seisnig hefyd yn cynnwys Cymru, sy'n golygu mai unig rôl y Cynulliad fydd gweinyddu polisiau wedi eu llunio yn Lloegr.

Rhaid iddo weithredu yn drwyadl ddwyieithog a rhaid iddo fabwysiadu polisïau fydd yn hybu'r Gymraeg mewn meysydd fel addysg, cynllunio a'r economi.

Y peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud rwan yw parhau gyda'n polisïau a'n hymgyrchoedd, gan wybod fod yr hyn yr ydan ni yn ei wneud yn mynd i newid pethau.

'Does yna ddim byd o'i le efo'n polisiau; ond dydan ni ddim yn eu hegluro yn iawn wrth y bobol, meddan nhw.

Wedir cyfan, maen nhw eisoes yn gwisgo polisiau ei gilydd.

Byddai gwireddu'r cynllun yna heb fynd 'nôl ac edrych ar y sylwadau sydd yn y ddogfen yna - a beth yw blaenoriaethau polisiau'r Cynulliad - wedi bod yn ffolineb llwyr.

Mae polisïau Marchnad Rydd y Torïaid wedi chwalu cymunedau lleol trwy Gymru.

Mae polisiau tai a datblygiadau economaidd wedi ei gwneud yn anos i bentrefi barhau i gynhyrchu cenedlaethau newydd o ddisgyblion ysgol.

Gyda chyrhaeddiad oes newydd mewn llywodraeth leol, bachwyd ar y cyfle i ddwyn pwysau ar yr awdurdodau unedol i fabwysiadu egwyddorion Deddf Eiddo ac i'w cynnwys yn eu polisïau tai a chynllunio.

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn defnyddio'r cyfarfod fel cyfle i lansio yn swyddogol ei hymgyrch dros Ddeddf Iaith ac i holi'r gwleidyddion am ddatblygiad polisïau yn ymwneud â'r iaith Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Yn ei lythyr heddiw i Alun Michael mae Ffred Ffransis llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Addysg yn hawlio fod hon yn foment dyngedfennol fydd yn dangos ai twyll oedd datganoli i hwyluso gweinyddu polisiau Llundain yng Nghymru ynteu a gymerir y cam cyntaf tuag at ffurfio polisiau datganoledig Cymreig.

Ymgyrch arall sydd ar y gweill yw pwyso ar yr Awdurdodau Unedol Newydd i gael polisïau iaith cryf wedi eu seilio ar egwyddor Dwyieithrwydd Naturiol Cymunedol.

Mewn llythyr at Nick Bourne AC (Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad) mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Torïaid i atal eu rhagrith o roi cefnogaeth mewn geiriau i ysgolion gwledig tra bod eu polisïau yn eu tanseilio.

Gofynnwn iddynt gefnogi'n galwad i ddileu'r Bwrdd Iaith ar y sail ei fod yn Quango a sefydlwyd yn sgîl Deddf Iaith 1993 i wneud dim ond gweinyddu polisïau'r Torïaid ar yr iaith Gymraeg.

Ar y daith i Lundain fe fydd aelodau'r Gymdeithas yn ymweld a nifer o bencadlysoedd y cwmniau ffôn symudol sydd rhyngddynt a phen y daith gan eu holi am eu polisïau ynglŷn â'r Gymraeg.

Oherwydd bod yr ysgolion uwchradd wedi datblygu polisiau dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn unigol, ceir amrywiaeth o'r naill i'r llall yn ôl y gofyn a'r adnoddau.

Ac ar ben hynny, mae'r Gymraeg yn llythrennol yn dal i golli tir yn ei chymunedau yn sgîl polisïau tai a phenderfyniadau cynllunio, yn sgîl tlodi Cymru ac yn sgîl chwalfa holl effaith athroniaeth farchnad rydd y Llywodraeth Dorïaidd.

Lunio dogfen gyda galwadau ar i'r Awdurdodau Unedol newydd dderbyn yr egwyddor uchod a gweithredu polisïau cynllunio economaidd sy'n rhoi llai a gobaith i gymunedau ynghylch eu dyfodol.

Yn gynnar yn y flwyddyn newydd anfonwyd llythyr i bob Awdurdod Unedol yng Nghymru yn datgan disgwyliadau'r Gymdeithas o'u polisïau iaith.

Y perygl amlwg yw y bydd y Ddeddf Seisnig hefyd yn cynnwys Cymru, sy'n golygu mai unig rol y Cynulliad fydd gweinyddu polisiau wedi eu llunio yn Lloegr.

Yn y llythyr dywed Ffred Ffransis, 'Mae polisiau'r Ceidwadwyr (a ddadlenir heddiw) ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol nesaf o derfynu rheolaeth Awdurdodau Lleol ar ysgolion yn golygu y caiff ysgolion gwledig bychain eu hynysu.

Ar wahan i'r ffaith fod y Gymuned yn sôn yn wastadol am holl bobloedd Ewrop ac yn trosglwyddo adnoddau (yn raddol) i'r rhanbarthau tlotaf, pa sail sydd dros gredu y bydd yn debygol o greu polisiau a fedrai hyrwyddo symudiad at Ewrop y taleithau?

Etholwyd Llywodraeth Lafur yn 1945, gyda chymeradwyaeth trwch poblogaeth Cymru, a sefydlu'r wladwriaeth les a'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol, yn creu sustem i gefnogi'r diwydiant amaeth, yn gwladoli nifer o ddiwydiannau – polisïau sy'n cael mesur helaeth o gefnogaeth, o leiaf tan y 1970au.

Bu Cell Colegau Aberystwyth am dro o amgylch banciau a chymdeithasau adeiladu'r dref ychydig yn ôl (Dydd Mercher, Tachwedd y 1af) i weld os oeddynt yn gweithredu polisiau dwyieithog llawn.

d) y dylid adolygu polisiau adrannol yn sgil y trafod a'r ymchwilio.

Yn ystod yr Eisteddfod yn Abergele llynedd, torrodd Branwen Nicholas a Sioned Elin i fewn i Swyddfa Etholaeth Rod Richards, yr Is-Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig, i brotestio yn erbyn polisïau addysg y Torïaid.

Lledaenu datblygiad dwyieithog plentyn yn sirol ac yn genedlaethol ac oblygiadau polisiau gwleidyddion, addysgwyr a gweinyddwyr addysg i hynny.

Tuedda'r rhain i fod yn gysylltiedig ag arferion gwaith a chanlyniadau uniongyrchol ac anuniongyrchol llunio polisiau.

ASIANTAETHAU A MENTRAU Cyngor y Llywodraeth Ganol Er gwaetha'r amgylchiadau hyn, mae'n amlwg y bydd rhaid i ddatblygu cyfleoedd gwaith newydd ddigwydd o fewn fframwaith polisiau presennol y llywodraeth.

Mae pob swyddog Undeb yn rhwyn i weithredu polisiau a dderbyniwyd yn eu Cynhadleddau blynyddol, rheini wedi eu mabwysiadu gan bleidlais deg.

Yn aml, mae dylanwad llywodraeth ganolog a lleol yn gwaethygu'r dirywiad trwy ddilyn polisiau o ganoli cyfleusterau yn y trefi mwy; mae'n dilyn hefyd mai yno mae'r gwaith.

Disgwyliwn i'r Cynulliad gefnogi a gweithredu tuag at gyflawni polisïau Deddf Eiddo y Gymdeithas.