Gall hi adael hynny i'r awdurdodau lleol Cymreig a'r pleidiau politicaidd yng Nghymru.
Nid ystyrir y Gymraeg mwyach yn dramgwydd politicaidd.
'Roedd y Gymraeg bellach yn fater politicaidd.
Ond o groniclo ei hanes yn ystod y cyfnod hwnnw fe geir mai'r hyn sydd bwysicaf yw, nid ei dylanwad politicaidd cyffredinol (oblegid bychan ydoedd) ond twf ei syniadau a'r modd y ceisiodd ei harweinwyr lunio a diffinio safbwynt ac agwedd Gymreig tuag at argyfwng y dydd.
Nid wyf yn gwadu na byddai cyfnod o gas ac erlid a chynnen yn hytrach na'r cariad heddychol sydd mor amlwg ym mywyd politicaidd Cymru heddiw.
Yn ail, o ganlyniad ni bu chwaith unrhyw gais politicaidd hyd at yr ugeinfed ganrif i adfer statws yr iaith Gymraeg na chael ei chydnabod mewn unrhyw fodd yn iaith swyddogol na gweinyddol.
Dadleuai DJ Davies, yn wir, fod yr ardaloedd Seisnig yn barotach i dderbyn neges y Blaid na'r ardaloedd Cymraeg, oblegid yr ymdeimlad o wacter a geid ynddynt trwy golli'r iaith, a bod ffyniant yr iaith yn yr ardaloedd Cymraeg yn fagl ac yn rhwystr i'w datblygiad politicaidd i gyfeiriad cenedlaethol.
Awgryma hyn oll mai cymysg fu profiad politicaidd y Cymry yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Traddodiad o ddioddef dirmyg ac erlid yw traddodiad amddiffyn politicaidd i'r iaith Gymraeg.
oherwydd y drwg mawr a all ddigwydd i lenyddiaeth o'i throi hi'n israddol i wleidyddiaeth a phroblemau politicaidd, megis pwnc yr
Megis yr ymosododd Evan Evans ar yr Esgyb Eingl yr ymosododd Emrys ar achosion Seisnig ei enwad a mynd rhagddo i ddadlau mai'r iaith Gymraeg oedd prif fater politicaidd Cymru a chraidd ei bod, mai eilbeth oedd pob problem boliticaidd wrth hon.
Ychwanegwyd yr iwaleiddio: Y mae aristocratiaeth neu oligarchiaeth, a garfer y gair sy'n well gwrthwyneb i ddemocratiaeth, yn meddwl rheolaeth yr ychydig dros y llawer, yn rhinwedd yr afael gadarnach sydd gan yr ychydig ar bethau materol y byd, ac wrth y pethau materol meddyliaf ei gyfoeth, ei allu cymdeithasol, ei allu politicaidd, ei ddysg, - popeth sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r rhith yr ydym yn byw yn ei ganol.
Y cwbl a ddaliaf i yw mai dyna'r unig fater politicaidd y mae'n i Gymro ymboeni ag ef heddiw.
Rhaid wrth rhywbeth llawer dyfnach i ddeffro Cymreictod politicaidd ymarferol yn y Cymry.
Y mae Lerpwl yn ddinas fawr boblog a'i dylanwad politicaidd yn aruthrol.
Cyfle i Gymry ddisgleirio yn y prifysgolion a dod yn rhan o'r sefydliad politicaidd, masnachol ac eglwysig, oedd Ysgol Botwnnog i fod.
Dyna ddangos yn deg mor ddieffaith, mor ddirym, mor ddibwys ym mywyd politicaidd Cymru ac yn natblygiad ei meddwl hi ar faterion cymdeithasol fu traddodiad amddiffyn yr iaith Gymraeg.
"Pa beth sy'n gwahaniaethu cymundod cenedlaethol oddi wrth gymundod politicaidd?" Sonia am gylymau gwaelodol sy'n rhwymo dynion ynghyd.
Nid dibwys mo'r meddwl politicaidd iddynt, ond geilw argyfwng eu cyfnod am ymgyrchu a brwydro, yn bennaf peth.
Credai'n ddiau nad lle nofelydd oedd cynhyrfu'r dyfroedd politicaidd, ac mai nofel sal fyddai honno a ddarluniai bethau yn ol rhyw ideoleg wleidyddol ddu-a-gwyn.
Er lleied yw Plaid Cymru, ac er y gall hi gael mwy na'i rhan o glwyfau a siomedigaethau politicaidd, y mae'n anninistriadwy oblegid ei bod wedi ei hadeiladu ar graig teyrngarwch i'r genedl Gymreig.
Trown at weddau politicaidd y deffroad Cymreig yn y ganrif ddiwethaf ac fe welwn yn union yr un diystyru ar y Gymraeg.
Y mae traddodiad politicaidd y canrifoedd, y mae holl dueddiadau economaidd y dwthwn hwn, yn erbyn parhad y Gymraeg.
Dyna uchelfryd politicaidd y Blaid Genedlaethol
'Ond rhaid imi ddweud y peth sy'n ffaith: ni chafodd syniadau politicaidd Maurras nemor ddim effaith arnaf,' ebe Saunders Lewis yn ei Lythyr at Gruffydd.