Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

polyn

polyn

Ar bob polyn teligraff yno 'roedd uchelseinydd.

Tua'r Nadolig, gan nodi'n fanwl y dydd o'r mis, wedi iddi nosi ac i'r sêr ddod i'r golwg, aeth i weirglodd Ty'n y Gilfach, gan ddwyn polyn gydag ef, a gosododd y polyn mewn llinell unionsyth â simnai y tŷ a rhyw seren sefydlog yn y gogledd.

Yn y cyfarfodydd dysgais y morse code a'r semaphore, sut i wneud cylymau o bob math a thrafod cwch hwyliau, sut i godi pabell a chwythu biwgl a sut i blygu baner yr Union Jack, ei chodi i dop y polyn a'i hagor yn daclus.

Gwthiais y polion sgio'n ddiogel dan fy nghesail - gafaelais yn dynn a'm dwylo'n uchel ar y polyn a herciodd y lifft.

Ymhen wythnos neu ragor, elai i'r weirglodd, a hi yn nos a'r sêr yn y golwg, a byddai raid symud cwrs ar y polyn i'w gael ar linell y simnai a'r seren.

Sci dchown dder, chiw, go chyp chon ddy lifft!" Rwan nid cadair oedd yn fy nisgwyl ond polyn hir o'r awyr a mymryn o fotwm ar ei waelod - i eistedd arno - debyg!

Beth feddyliai ei gymdogion ohono tybed, os damweiniodd iddynt ei weld hefo'r polyn yn y nos?

Erbyn pnawn Mercher dyma gadael y siap 'swch' i droi, plygu'r gliniau, plannu'r polyn yn yr eira, naid bach i fyny ac i rownd y tro.

Ac ymhen y flwyddyn i'r diwrnod yr oedd wedi amgylchynu tŷ Ty'n y Gilfach hefo'r polyn, a dod yn ôl i'r weirglodd, yn union i'r fan lle y dechreuodd ei gylch flwyddyn yn ôl.