Yr oedd angen caban 'mochal ffiar yn un o'r ponciau, caban go helaeth i lochesu tua deg ar hugain o ddynion, ac yr oedd yn fater o frys.
Roedd paratoi ar gyfer 'powdwr mawr' yn fusnes costus iawn oherwydd byddai'n rhaid cludo popeth o werth i bellter diogel, a byddai'n rhaid i bawb a weithiai yn y ponciau islaw adael eu bargeinion nes byddai'r saethu drosodd a'r goruchwyliwr a'r arbenigwyr wedi eu bodloni ei bod yn ddiogel iddynt ddychwelyd.
Yr oedd yn ein plith gynghaneddwyr praff fel Eilir Aled, Thomas Jones (Meudwy) a Daniel Davies y Ponciau, ac iddynt hwy gael hwyl efo'r gynghaendd oedd y peth mawr.
Yn achlysurol byddai angen symud darn mawr o graig neu glogvyn ohenvydd ei fod yn rhy beryglus i'r dynion weithio odano, neu am ei fod yn rhwystr i ddatblygiad y ponciau.
Mae Cor Meibion y Rhos, Cor Meibion Ponciau yn dwyn i gof gampau Ben Evans, Edward Jones, John Owen Jones a John Glyn Williams.