Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

porfa

porfa

Ni allaf weld chwaith y gwnai rhew niwed i blanhigion glaswellt, mae defaid yn pori trwy'r gaeaf nes bydd arwynebedd y borfa yn llwm iawn, hynny yw, wedi torri'r glaswellt yn agos iawn i wyneb y pridd ond heb ei niweidio ar gyfer porfa'r tymor dilynol.

Os medrwn ei hadu a chael glaw yn fuan, yna gallwn ddisgwyl porfa ffres at yr hydref ac i'r wyn bach yn y gwanwyn.

Trist meddwl fod arwynebedd y rhostir arbennig wedi ei gwtu%o efo coed, a chynllun adennill porfa yn lle mawnog o siglen, - cynefin y dylluan glustiog a'r cudyll bach yn prysur gilio ...

Bu cudyll o hofrennydd uwch ein pennau drwy'r prynhawn a'i chysgod swnllyd, symudol, yn dychryn wyn y ffridd i bob cyfeiriad cyn glanio i lyncu criw o actorion a throi porfa'r ddôl yn gryndod o nerfau.

Porfa las yn Ionawr, bydd bwyd yn brin yn yr haf.

Oherwydd eu tueddiad i fod yn wlyb ac asidig mae cyfran uchel o briddoedd Cymru yn addas ar gyfer tyfiant porfa arw neu barhaol yn unig.

Ystyriai'r ffermwyr bod yna ddigon o dyfiant porfa bellach a gyrrwyd y defaid a'r wyn i'r mynydd.

Aros mae'r mynyddoedd, ond coediog yw porfa haf y ddafad ar Gefn Tew a Glan Alwen, a bugeiliaid newydd sydd.