Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pori

pori

Gallai unrhyw ddigwyddiad neu achlysur roi cychwyn iddo - gweld ci defaid yn gweithio neu fustych yn pori, ac yn enwedig sôn am beiriant golchi.

Ni allaf weld chwaith y gwnai rhew niwed i blanhigion glaswellt, mae defaid yn pori trwy'r gaeaf nes bydd arwynebedd y borfa yn llwm iawn, hynny yw, wedi torri'r glaswellt yn agos iawn i wyneb y pridd ond heb ei niweidio ar gyfer porfa'r tymor dilynol.

Mae'n dal yr ymdeimlad o symud yn shiap y tyfiant, yn y cymylau, ac yn y defaid wrthi'n pori.

Y mae yr holl balasdai ardderchog y cyfeirwyd atynt, a channoedd heblaw hwy, heddiw yn syrthio yn gyflym i adfeiliad; mwy na hanner y rhai sydd o gwmpas Huntsville yn weigion; y gerddi blodau a'r perllanau yn llawn chwyn a'r mulod yn eu pori; naw o bob deg ohonynt `To be Sold or Let'.

"Ac yn chwarae tric er mwyn cael hwyl," ebe Wyn, "ond bod yr hwyl wedi troi'n chwerw." Aeth Llinos a Del i edrych dros y berth i'r cae lle roedd y ddau ferlyn yn pori.

Defnyddir bron yr holl orlifdir gan ffermwyr lleol, yn bennaf yn dir pori ar gyfer eu defaid a'u gwartheg.

Mae gen i rhyw syniad y bu Cwrt Isaf yn pori merlod- mynydd yn ogystal â defaid yng Nghwm Llefrith ar un adeg.

Mae rhai cwsmeriaid yn treulio y rhan orau o bnawn yn pori trwy lyfrau neu'n byseddu a darllen cylchgronau.

Fe'i gwelwyd yng nghyffiniau Tyddyn Bach yn ystod y bore a thystiai Ann Jones, Fferm Trefadog, iddi ei weld yn pori'i wartheg ar y lôn bost tua deuddeg o'r gloch.

Wedyn, rhwng y gwahanol silffoedd o lyfrau y mae digonedd o gadeiriau esmwyth y gall rhywun ymlacio ynddynt tra'n pori trwy lyfr.

Mam yn darllen cofiannau'r cewri Cymraeg a nofelau rhamantus Saesneg; minnau'n pori mewn meysydd gwleidyddol a stori%au byrion.

"Mae Athel yn byw a bod yn Neuadd y Pentref, yn pori yn y llawysgrifau sydd yno." "A ble mae Neuadd y Pentref?" gofynni, yn ddiolchgar am dy lwyddint.

Oni bai am ei ddawn adrodd stori byddai pawb ohonom yn ei gasa/ u ac eithrio f'ewythr Vavasor, oedd yn rhoi pris uchel ar ei waith fel bugail, ac nid oedd ei well am dewhau bustych, gwyddai i'r dim pryd i'w symud i'r tir pori gorau.

Dywedir yn Llþn fod saith gþydd yn pori cymaint â buwch.

I'r mwyafrif o bobl, rwy'n siŵr mai braidd yn sych yr ymddengys llawer o'r llenyddiaeth uchod (er fod enwau hir a phert yr anifeiliaid yn gallu bod yn hwyl), ond i'r sawl sydd a gwir ddiddordeb mae pori rhwng cloriau'r cyhoeddiadau hyn yn dod ag oriau o bleser amheuthun, er efallai mai ansylweddol yw eu ffurf.

Codwyd ffens o gwmpas llain o dir ychydig yn nes ymlaen lle bu sefydliad Ecoleg Tir y Cyngor Gwarchod Natur yn ymchwilio i ffordd o fyw ac arferion pori defaid cyntefig, Soay.

Mae rhannau eraill yn amlwg yn dir pori gyda defaid a gwartheg yn bwyta'r olaf o dyfiant yr haf.

Roedd angen mesurau arbennig hefyd i ymdrin a diadelloedd sy'n pori ar dir comin.

Fe ddywedwn i fod pedair ysgyfarnog yn pori mwy nag un ddafad.

Mae canlyniad hyn yn amlwg ar y patrwm amaethu yn genedlaethol lle ceir pwyslais ar gadw anifeiliaid ar diroedd pori.

Dechreuodd y gwaith ymchwil tua dwy flynedd a hanner yn ol ac am bedwar mis bu'n pori trwy ddogfennau a thystiolaeth.

YMHLITH YR ANIFEILIAID: Raymond B.Davies yn pori ymhlith cyhoeddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid: Amaethyddiaeth fu diwydiant pwysicaf Cymru erioed ac yn ystod canrifoedd o ffermio'r tir datblygodd ein hamaethwyr nifer o fridiau a ystyrir heddiw yn nodweddiadol Gymreig.

Clywai afon Llynfi yn y glyn a gwelai wartheg y Teulu'n pori'n Llonydd ar ei glannau.

Roedd hefyd yn pori'n gyson yn llyfrgell ei dad lle'r oedd casgliad da o farddoniaeth o bob cyfnod.

Yn pori uwchben Rwmaneg trwy'r dydd.

Cofier bod saith gwningen yn pori cymaint ag un ddafad.

Mae dyn 'yn pori yngwerglodd y cythrael i borthi y cnawd heb adnabod y Duw anweledig ai gwnaeth .

Mae hyd y tymor tyfu hefyd yn amrywio'n flynyddol gan ddylanwadu ar y tymor pori, cyflenwad ac ansawdd porthiant gaeaf a'r angen i ddod ag anifeiliaid o dan do.

ym mustl chwerwedd, yn pori yngwerglodd y cythrael, yn cael ei lithio gan chwant, yn pori glaswellt .

ydych chi'n pori llawer mewn llenyddiaeth dramor, ac a yw'r llenyddiaeth honno'n gadael ei hôl arnoch?

Doedd y bryniau ddim mor uchel, ac yn lle coedwigoedd roedd yno feysydd bras, a gwartheg a defaid yn pori'r borfa ir.

Gwelir fod y ganran o dir pori da yn lleihau mewn siroedd megis Gwynedd a Phowys, lle ceir cyfran uchel o dir mynyddig o radd isel.

Cyn dyfeisio peiriant torri lawntiau defnyddid gwyddau i gadw tyfiant glaswellt i lawr, mae hwythau hefyd yn pori'n glos i wyneb y ddaear.