Steve Eaves fydd yn ymddangos ar y llwyfan, ac mae'r tocynnau ar gael am £4 o Siop Cwpwrdd Cornel, Llangefni ac o Awen Menai, Porthaethwy.
Fel rhan o Gwrs Cymraeg Ysgol Haf y Dysgwyr cynhelir gig yn y Fic, Porthaethwy ar nos Wener, Mehefin 29.
Dywedodd Mrs Ann Morgan, Porthaethwy, Cadeirydd Cyfeillion y Samariaid yng Ngwynedd ei bod yn ddiolchgar tu hwnt i bawb a gyfrannodd i wneud y diwrnod yn un mor llwyddiannus, yn arbennig i bobl Bangor a fu mor barod i sefyll ar y stryd ac yn Kwiks i fynd ar ofyn y cyhoedd.
Roedd gan ei pherchenogion hi, teulu Davies Porthaethwy, o leiaf deg llong, llongau mawr yn y cyfnod hwn, ar yr un fordaith, i gyd yn cludo cannoedd o deithwyr a nwyddau, ac ar draws y Fenai yng Nghaernarfon, roedd cartref John Owen, Ty Coch un o feibion teulu Rhuddgaer, Mon yntau'n berchennog ar longau a hwyliai i Ogledd America ac Awstralia.Ceir rhywfaint o'u hanes hwy yn y bennod nesaf.
I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.