Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

porthladd

porthladd

'Roedd Thomas Williams, Olgra yn gapten ar long o'r enw Maritime a phan fyddai'r llong mewn porthladd ym Mhrydain arferai Mrs Williams a'r ddwy ferch fach, Eluned a May, ymuno ag ef a byddai Mam yn cael mynd efo nhw.

Dyna oedd y perygl, fel heddiw, yng nghyffiniau porthladd Eilat.

'A phan gyrhaeddodd Meiledi'r porthladd roedd y newydd, newydd gyrradd, bod 'i gorff o wedi'i gladdu yn yr eigion.' ''Fedra i ond dychmygu maint 'i siom hi, a chydymdeimlo i'r byw.' ''Does dim raid i ti fyta bara gofidia yr un eiliad yn 'chwanag.

Roedd y twf ym mhwysigrwydd Lerpwl fel porthladd, yn ogystal â'i rhan yn y fasnach gaethweision annynol, hefyd yn hwb i ddatblygiad Ynys Môn.

Pan fyddan nhw'n cyrraedd y porthladd bydd y cotiau'n cael eu gwerthu i wneud cotiau ffwr drud i wragedd.

Mintai o longau wedi bwrw angor ger y porthladd.

Heb ymgynghori â chig a gwaed penderfynodd Catherine Edwards yr âi hi ar ei hunion cyn belled â'r porthladd i gwrdd â'i phriod fel y byddai'n glanio yno.

Mae cannoedd o risiau i'w dringo o'r ddinas i'r porthladd.

Pan ar y môr ysgrifennai lythyrau diddorol yn gyson a gyrrai frys-negesau o bob porthladd.

Gwelais ef yn cael sawl ffafr ar gamlesi'r cyfandir ar ffin lle'r oedd Almaenwyr ar ofalaeth, drwy esbonio mai Cymro oedd ef, yn gofalu am long wedi'i chofrestru yn Llanelli porthladd heb fod nepell o Gaerdydd!

Y porthladd yn llawn o gychod wedi eu haddurno a baneri ac wrth i'r orymdaith ddirwyn i ben llenwir yr awyr a swn byddarol MIG 16s yn hedfan heibio.

Roedd y lleuad yn llawn a'r wybren yn ddigwmwl wrth i'r llong adael y porthladd a thorri ei chŵys drwy'r môr agored a oedd, trwy drugaredd, fel llyn hwyaid y noson honno.