Nid adeiladwyd porthladdoedd mor sylweddol a chadarn â rhai heddiw ers talwm, ac erbyn hyn mae llawer ohonynt hwythau wedi eu dinistro neu wedi'u gorchuddio â thywod a llaid.
Gwelir hen adeiliadau, simneiau, a thomennydd gwastraff yn gysylltiedig â'r gweithfeydd glo a haearn a'r chwareli ym mhobman ar hyd a lled y wlad; ond, yn amlach na pheidio, mae'r hen longau hwyliau wedi pydru ers blynyddoedd yn y dŵ'r hallt, neu wedi cael eu dinistrio neu eu symud er mwyn gwneud lle mewn porthladdoedd.
Ffermwyr yn protestio yn y porthladdoedd.
I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.
Mae'n anodd credu'r peth, ond ychydig dros ganrif yn ôl roedd porthladdoedd Ynys Môn a Gogledd Cymru yn gartref i gymaint o longau â holl borthladdoedd arfordir deheuol Lloegr.
Ar fordaith yr oedd porthladdoedd Bilbao a Santiago yn agos iawn i Nantes a Concarneau ac yr oedd digon o fynd a dod rhwng y ddwy wlad, yn enwedig gyda llongau nwyddau.