Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

posibiliadau

posibiliadau

Gan ei bod yn bosibl mesur y pelydriad a oedd yn deillio o'r elfen ymbelydrol, gwelwyd posibiliadau defnyddio'r elfen fel modd i ddilyn metabolaeth gwahanol sylweddau o fewn y corff dynol.

Cynhaliwyd yr arddangosfa ynghyd â chyfarfod Plaid Cymru yn y dref a'r bwriad oedd dangos y posibiliadau o ddefnyddio safleoedd diffaith fel hwn i greu canolfannau celf a meithrinfeydd diwydiannau celf.'

[Cynhwysir enghraifft o holiadur ar gyfer llunio Audit Staffio yn Atodiad ] Cyrsiau - audit a fyddai'n cynnwys gwybodaeth am y posibiliadau o ddatblygu gwahanol agweddau ar addysg Gymraeg yn yr ysgolion a'r colegau; Er mwyn sicrhau addysgu effeithiol byddai angen ymchwil i feysydd hyfforddiant a thechnegau dysgu ar batrwm yr awgrymiadau canlynol: - llunio cynllun hyfforddiant i gymhwyso athrawon i ddysgu Cymraeg fel pwnc a thrwy gyfrwng y Gymraeg; - archwilio strategaethau dysgu er mwyn adnabod y rhai mwyaf effeithiol ar gyfer dysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg ar batrwm Ysgolion ar Waith a Primary schools: some aspects of good practice; - archwilio'r posibilrwydd o greu strategaethau dysgu gwahanol a newydd yn ôl y galw, ee grwpiau bychain, dysgu o bell.

Bellach yr oedd cyfnewidiadau ar gerdded a phob yfory yn llawn posibiliadau newyddion.

O dderbyn athrawiaeth llesâd gwlad ei hun a gwledydd eraill, pam, tybed, na allai athronydd mor gwbl eglur ei feddwl â Russell weld posibiliadau patrwm nobl o gydweithredu mewn Conffederasiwn Prydeinig?

Er bod trigolion tiroedd y meddiant hefyd yn ofni canlyniadau'r rhyfel, fe'u calonogwyd gan y posibiliadau.

Esboniodd aelodau o'r Gymdeithas eu bod eu bod yn gwrthod yn llwyr gyd-ddatganiad y mis diwethaf rhwng 'Orange' a'r quango, y Bwrdd Iaith, lle bu cyfeirio at 'ystyried' y 'posibiliadau o ddefnyddio'r Gymraeg'.

Yn Lloegr yr oedd llenorion nid yn unig yn chwilio posibiliadau sech fel ffordd ddihangfa amgenach na chrefydd, eithr hefyd yn chwilio posibiliadau celfyddyd fel trydedd ffordd ddihangfa.

Fodd bynnag, nid yw'r Awdurdod, hyd yma, wedi defnyddio posibiliadau anferthol Technoleg Wybodaeth ar ei staff ei hun, ac mae angen o hyd am wireddu hyn o fewn yr Awdurdod.

Mae Cymdeithas yr Iaith hithau yn y broses o wneud arolwg o'r posibiliadau ledled Ceredigion a Chaerfyrddin gan ddanfon holiadur (mwy cynhwysfawr nag eiddo Cyngor Ceredigion) at lywodraethwyr pob ysgol wledig yn y ddwy sir.

Y dull gwyddonol yng nghyd-destun eich prif bwnc chwi eich hun Lle Gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a'r berthynas rhwng y gwahanol wyddorau a rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a phynciau eraill Datblygiadau diweddar mewn meysydd megis technoleg gwybodaeth, micro- electroneg, a biotechnoleg Perthynas gwyddoniaeth a thechnoleg a bywyd bob dydd ar bob lefel Defnyddio'r amgylchfyd ar gyfer dysgu Asesu Sgiliau sylfaenol asesu a sut i'w cymhwyso wrth ddysgu Sgiliau cadw golwg ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion a'u cofnodi, gan gynnwys swyddogaeth gwaith cartref Sgiliau angenrheidiol ar gyfer cloriannu gwerth gwersi, defnyddiau dysgu a meysydd llafur Iechyd a Diogelwch Yn ogystal â gwybodaeth am ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch yng nghyd-destun yr ysgol, cynhelir sesiynau ar gyfer pob myfyriwr gwyddoniaeth ar beryglon arbennig labordai bioleg, cemeg, ffiseg ac astudiaethau maes Ymarfer diogel wrth wneud gweithgareddau ymarferol gyda disgyblion Storio a chynnal cemegau a chyfarpar Gofalu am greaduriaid a phlanhigion cyffredin y labordy Egwyddorion sylfaenol ac ymarfer Cymorth Cyntaf Datblygiad Personol a Phroffesiynol Paratoi'r myfyriwr ar gyfer profiad ysgol Datblygu hyder fel athro ac ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau personol wrth ddysgu Hyrwyddo cyfranogi bywiog gyda chydweithwyr wrth ddatblygu a dysgu cwricwla newydd, cynlluniau gwaith, ymarferion theoretig ac ymarferol Bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn ymchwil addysgol, yn arbennig ym maes dysgu'r gwyddorau Astudiaethau Addysg a Datblygiadau Arloesol Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd dysgu 'sgiliau proses' mewn gwyddoniaeth Dod yn gyfarwydd a mentrau megis, Cofnodi Cyrhaeddiad, Disgwylir i bob myfyriwr archwilio posibiliadau Gwybodaeth Technoleg, eu heffaith ar arddulliau addysgu a dysgu, a dod i'w defnyddio'n hyderus.

Mae'r môr wedi bod yn ffynhonnell ffrwythlon o fwyd i ddynoliaeth dros filoedd o flynyddoedd ac yn y degawdau diweddaraf mae posibiliadau eraill wedi dod i'r fei.

Roedd y posibiliadau o gael hyd i waith yn dylanwadu'n drwm ar batrwm traddodiadol oedran plant yn aros yn yr ysgol.

DANGOSYDDION PERFFORMIAD A AWGRYMIR AR YR AMGYLCHEDD: yn ystod y cylch tair blynedd nesaf, bydd yr Uned yn cyfrannu at gysylltu â'r sector anstatudol i'w hysbysu ynglŷn â'r posibiliadau o ran gwella'r amgylchedd drwy adennill tir diffaith, yn gwneud mwy o waith adennill tir at ddiben gwella'r amgylchedd ac yn llunio adroddiad blynyddol, yn amlinellu'r nod, yr amcanion a'r hyn a gyflawnwyd o ran yr amgylchedd, ac yn cynnwys dadansoddiad o'r gwariant.

Y mae'r Athro Williams eisoes wedi trafod y posibiliadau sydd ynglŷn a hyn yn achos Hopcyn, ac felly'r Athro Brynley F.

Pwrpas y rhaglenni canlynol fyddai cyflwyno'r Swdan fel enghraifft o wlad sy'n datblygu, gan roi cefndir byr o'i daearyddiaeth, ei hinsawdd, ei hanes diweddar a'r posibiliadau ar gyfer datblygu mewn amaethyddiaeth a diwydiant.

Beth bynnag yw'r esboniad rhaid cyfaddef bod rhyw sail yn fynych i gred y cyhoedd, ac y mae'r uchod yn un o'r posibiliadau.

Mae'r posibiliadau'n eang oherwydd maent yn lled-ddargludyddion mewn tri-dimensiwn.

Os edrychir yn haniaethol ar 'bethau byw', gwelir bod eu cymeriadaeth yn dibynnu ar faint o ryddid sydd gan unrhyw organeb i ddewis a dethol rhwng posibiliadau gwahanol.