Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

posibilrwydd

posibilrwydd

"Antidote ydi'r gair, was i," ebr efô, wedi inni fod am dipyn yn trafod posibilrwydd yr awgrymiad.

Gyda dyfodol y Wembley newydd yn y fantol, mae Ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru Dennis Gethin wedi dweud y bydd yr Undeb yn cynnal trafodaethau â'r Gymdeithas Bêl-droed ynglyn â'r posibilrwydd o ddod a mwy o brif gemau pêl-droed Pydain i Gaerdydd.

Dywedodd Anna y byddai'n ystyried pob posibilrwydd.

Cadw eich Gwaith Fe ddylech gadw eich gwaith yn fynych, mae hyn yn lleihau'r posibilrwydd ichwi golli eich campwaith am byth.

Maent hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o ryddhau fideos yn y dyfodol.

Bwytewch y bacwn rwan, hogiau: os rhedwn ni allan o fwyd cawn fwyta'r cogydd." Ynghanol y chwerthin, llithrais i mewn i gael gair â'r bachgen oedd yn paratoi'r bwyd, roeddwn yn gweld posibilrwydd o ' tribal feud' yn mynd ymlaen tra byddem yno.

Mae hyn yn ei dro wedi creu atgasedd, a thrwy hynny wneud y posibilrwydd o gymod rhwng y ddwy garfan yn anos fyth.

Bu Gruffydd a Henry Lewis ac Ernest Hughes yn trafod y posibilrwydd o'i ailgychwyn ond o'r diwedd penderfynwyd yn erbyn hynny.

Posibilrwydd eithaf hyn fyddai trawsnewid y gwledydd sydd heddiw yn druenus o dlawd i fod yn fasnachwyr goludog y dyfodol.

Nid rhyw fath o sadistiaeth obsciwrantaidd oedd yn ysgogi'r hen frodyr ond ymwybod digon realistig a'r posibilrwydd y gellid camgymryd disgleirdeb meddwl am dduwioldeb calon.

Wrth yrru adref dechreuai ail-bendroni am y posibilrwydd o 'gyfarfod eto a rhywun annwyl.' Gwyddai nad gŵr atyniadol mohono ef yng ngolwg neb.

Os derbynnir y modd y crewyd ac y cychwynnwyd bywyd yma ar y Ddaear yn ol tystiolaeth ddiweddaraf seryddwyr a biolegwyr, yna rhaid inni hefyd dderbyn y gosodiad hwn: sef, os yw'r un amodau yn bod yn rhywle arall yn y gofod yna mae posibilrwydd fod bywyd yno yn ogystal.

Yn wyneb y posibilrwydd o argyfwng o'r fath rhaid sicrhau digon wrth gefn ymlaen llaw.

Diwrnod sych ond posibilrwydd o gawodydd yn Sir Benfro.

Roedd set Julian Williams yn set eang ac yn caniatau i'r camera ddangos eangder oeraidd y gweithdy a'r posibilrwydd o bobl yn llechu yma a thraw.

[Cynhwysir enghraifft o holiadur ar gyfer llunio Audit Staffio yn Atodiad ] Cyrsiau - audit a fyddai'n cynnwys gwybodaeth am y posibiliadau o ddatblygu gwahanol agweddau ar addysg Gymraeg yn yr ysgolion a'r colegau; Er mwyn sicrhau addysgu effeithiol byddai angen ymchwil i feysydd hyfforddiant a thechnegau dysgu ar batrwm yr awgrymiadau canlynol: - llunio cynllun hyfforddiant i gymhwyso athrawon i ddysgu Cymraeg fel pwnc a thrwy gyfrwng y Gymraeg; - archwilio strategaethau dysgu er mwyn adnabod y rhai mwyaf effeithiol ar gyfer dysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg ar batrwm Ysgolion ar Waith a Primary schools: some aspects of good practice; - archwilio'r posibilrwydd o greu strategaethau dysgu gwahanol a newydd yn ôl y galw, ee grwpiau bychain, dysgu o bell.

Mae posibilrwydd y bydd cyn-ganolwr Cymru, John Deveraux, yn chwarae i dîm Cymru yn erbyn Seland Newydd brynhawn Sadwrn.

Wrth i Adam orfodi'r car i mewn i gêr arall, ac i'r injan brotestio'n chwyrn, dechreuodd Gareth boeni o ddifrif am y posibilrwydd hwnnw.

Ond meddiannwyd eraill hefyd, gan ofn a phryder ynglŷn â'r posibilrwydd nad oedd dim yn y pen draw a oedd yn werth marw er ei fwyn, a phan ddeuai'r Rhyfel i ben, oni ddeuent o hyd i ystyr bywyd o'r newydd, syrthient yn ôl i gyflwr o ddifaterwch neu anobaith, wedi eu gorthrymu gan ddiflastod ac oferedd bywyd.

Ond ymddengys y gallai ymdawelu wrth gyfeirio'n unig at warth fel posibilrwydd ar orwel pell.

Cred y Gymdeithas y gall pob damwain yn y gwaith gael ei hosgoi a bydd amgylchiadau unrhyw ddamwain, boed honno yn un a arweiniodd at niwed neu beidio, yn cael eu harchwilio a lle bo modd, cymerir camau gan y rheolwyr i leihau'r posibilrwydd o ddamwain debyg yn ailddigwydd, (a gweler Trefniadau Argyfwng).

CYFLWYNWYD llythyr y Rheilffyrdd Prydeinig yn rhoddi manylion am y posibilrwydd o gau'r groesfan uchod i drafnidiaeth ond ei chadw'n agored ar gyfer cerddedwyr a hawliau defnydd preifat yn unig.

Gan mai Ystorya Trystan yw'r unig destun naratif sydd gennym am Drystan ac Esyllt, a gan fod posibilrwydd fod yr englynion yn rhai hynafol, bu'n demtasiwn i rai chwilio ynddi am debygrwydd i'r chwedlau Ffrangeg, gan gasglu fod Golwg Hafddydd, er enghraifft, yn cyfateb i Brengain, morwyn Esyllt yn y traddodiad Ffrangeg (er gwaethaf yr enw gwahanol), a bod taith y cariadon i Goed Celydon yn cyfateb i hanes Tristan ac Iseut yn ffoi i Fforest Morrois.

Bu buddsoddiad sylweddol mewn datblygu drama, a sefydlwyd y posibilrwydd o ddenu comisiynau teledu, er y bydd yn ddiweddarach ym 1999 cyn i hyn ddechrau dwyn ffrwyth ar y sgrîn.

Wedi ffiasco'r anialwch a'r siwtiau haearn, fydda fo ddim yn betio llawer ar y posibilrwydd.

Ac os oes gennych chi stori i'w dweud y mae'r posibilrwydd o'i dweud yn gymaint mwy - ond y cwestiwn ydi a oes gennych chi rywbeth gwerth i'w ddweud.

O'r holl siom a phoen a brofodd y tri ohonynt ers iddynt lanio, ni sylweddolodd yr un ohonynt y posibilrwydd hwn.

Rhaid croesawu'r posibilrwydd o weld Llywodraeth yn teyrnasu yn Llundain a fydd yn rhoi cyfiawnder cymdeithasol ar ben ei rhaglen.

Mae'r rhain yn rhoi'r posibilrwydd o ddadansoddi patrymau neu wybodaeth o sawl maes a'u cyfuno fel bo angen.

A diolch am y posibilrwydd hwn.

Testun pryder arall i GiF yw'r posibilrwydd y newidir y dull o gyllido i gontract yn hytrach na grant, ac yr ydym yn paratoi grwpiau ar gyfer y posibilrwydd hwn lle mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhan o'r cynllun.

Mae rhai gwyddonwyr, er hynny, wedi cyfeirio at y posibilrwydd y gall rhyw elfen arall, megis silicon, gyflawni yr un swyddogaeth a charbon.

Mi feddyliais am y posibilrwydd fod cuddfan yn y plas, ond er chwilio'r lle yn fanwl, fedrwn i ddim dod o hyd i'r un.

Siomodd y posibilrwydd hwnnw hi.

Efallai na ddylid amau'r posibilrwydd iddo fod yn rhyw fath o ddisgybl gynorthwywr i'r Esgob cyn mynd i Rydychen, ond edau go wan i ddal gafael ynddi fyddai damcaniaeth felly.

Yn anffodus, mae posibilrwydd i rai o'r gwartheg fod wedi eu prynu oedd eisoes wedi eu trin gyda hormonau, felly mae gwaith ymchwil a gymer gryn amser i'w wneud fel y gellid dwyn y rhai euog i gyfraith.

Ni theimlai gymaint â hynny o golled ar ôl ei gyfeillion chwaith, hyd yn oed pan ddeallodd bod posibilrwydd y caent eu darganfod gan y fyddin Brydeinig.

Sathrodd yr hyfforddwr yn sydyn ar yr ymholiad caredig hwn am, fy nghyflwr a throdd ffynhonnell ei arian ymaith oddi wrth y posibilrwydd y gallwn ddweud rhywbeth ynglŷn â pham na neidiodd y ceffyl.

Fodd bynnag, ar yr ochr gadarnhaol, ceir posibilrwydd o chwyldro mewn arferion gwaith sy'n dileu'r angen am y rhan fwyaf o'r teithio y mae ei angen ar hyn o bryd i gyflawni gwaith yr Adran.

Y tymheredd ar ei ucha'n 17°C (63°F). Heno: Noson gymylog efo posibilrwydd o ambell gawod.

(i) Llythyr gan Gyngor Cymuned Aberdaron yn gofyn i'r Cyngor ystyried y posibilrwydd o resymoli y rhwydwaith llwybrau ac o ble y daw'r cyllid i wario cymaint arnynt.

Cafwyd ateb gan Gweneirys Jones i'n ymholiadau yngl^yn a'r posibilrwydd o ail-sefydlu Is-bwyllgor y Dysgwyr.

Ceir pum awdl i Hopcyn ap Tomas ei hun ac un i'w fab yn Llyfr Coch hergest, llawysgrif a ysgrifennwyd gan mwyaf yng nghyfnod Hopcyn, ac y mae'r Athro GJ Williams wedi awgrymu'r posibilrwydd mai ef a dalodd am y gwaith copio.

Cyn mynd, rhybuddiwyd fi ynglŷn a'r posibilrwydd na fyddem yn llwyddo i weld neb, pe na byddai'n ddiogel i ni eu cwrdd.

Mae'r Prif Ysgrifennydd, Rhodri Morgan, yn ystyried y posibilrwydd o godi estyniad i adeilad presennol y Cynulliad yn hytrach nag adeiladu cynllun Partneriaeth Richard Rogers ar gyfer adeilad newydd.

Y mae posibilrwydd arall, eto.

Bu buddsoddiad sylweddol ym maes datblygu drama, a sefydlwyd y posibilrwydd o ddenu comisiynau teledu, er y bydd yn ddiweddarach ym 1999 cyn i hyn ddechrau dwyn ffrwyth.

Ond nid oedd ar unrhyw adeg am weld plaid wleidyddol gwir Gymreig yn cau'r drws ar y posibilrwydd o weithredu'n aghyfansoddiadol ddi-drais.

Dywedodd Bob Phillips, prif-weithredwr y clwb, mewn cyfarfod stormus yn y ganolfan sglefrio neithiwr fod posibilrwydd y bydd yn rhaid i'r tîm a'r clwb symud yn ei grynswth o Gaerdydd i rywle arall.

Mae'n rhaid i staff fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd o ddal HIV a Hepatitis mewn achosion lle mae'r dioddefwr yn gwaedu.

Ni rydd hyn gyfle i'r glaswellt orwedd mewn un cyfeiriad arbennig ac felly lleiheir y posibilrwydd i'r gweiriach cras ddatblygu.

Yn y cyswllt hwn gellid codi posibilrwydd diddorol ynglŷn ê iaith y Mabinogi.