Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

positif

positif

Argymhellir ymgymryd ag ymchwil mewn rhai agweddau allweddol o'r maes hwn a fyddai'n cynorthwyo llunwyr polisiau ac addysgwyr gweithredol i hyrwyddo agweddiadau positif a chefnogol wrth gynllunio rhaglen datblygu addysg Gymraeg.

Os oes ond ychydig o batrymau ymddwyn positif ar gael, a mynediad cyfyngedig i siopau, llefydd gweithio a gweithgareddau hamdden, yna gellir gwneud hunan-ddatblygiad yn nod ffurfiol.

Croesawodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gyhoeddiad heddiw o'r 'Cynllun Gweithredu Addysg a Hyfforddiant i Gymru' gan Peter Hain, a gaiff ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol fel cam positif tuag at adeiladu System Addysg i Gymru.

Dylai ysgolion fod ag agweddau positif, dylent gytuno ar bolisi%au pynciau a gefnogir gan amcanion a nodau, ac fe ddylent weithredu trefniadau cwricwlaidd a threfniadol i gefnogi disgyblion ag AAA.

Ond tra mae Lenz yn ymwneud ag effeithiau'rsiom a deimlai Schneider a nifer o'i gyfoedion wedi chwalfa'r mudiad mawr, mae'n diweddu ar nodyn positif.

A yw ethos yr ysgol yn hybu agweddau a pherthnasoedd positif rhwng disgyblion?

I grynhoi, felly, er ei bod yn bur annhebyg bod polisi%au gwrthgylchol y llywodraeth ar ôl y Rhyfel wedi cael effaith groes i'r bwriad, y tebyg ydyw mai bach iawn hefyd oedd eu cyfraniad positif tuag at sefydlogi'r economi.

"Deunydd" Copi o'r Gwaith wedi ei gynhyrchu ar naill ai brint taflunio positif neu ar gaset fideo o safon darlledu neu unrhyw fformat arall a gaiff ei bennu ym Mhennau'r Cytundeb hwn.

Cafwyd hefyd sylwadau positif iawn gan Carwyn Jones ar ran y Blaid Lafur a gan David Davies - y Ceidwadwr cyntaf i annerch cyfarfod cyhoeddus wedi ei drefnu gan y Gymdeithas.

Mae Adnoddau Cymru yn falch o led a chryfder y gwasanaethau a ddarperir ac yn credu y gallwn, mewn partneriaeth â BBC Cymru, wneud cyfraniad positif i enw da y BBC yng Nghymru a thu hwnt.

Gwelodd eleni rai newidiadau positif mewn materion yn ymwneud â thai sydd yn effeithio ar grŵpiau Cymorth i Fenywod.

Roedd penderfyniad ITV i symud yn ôl i 10 o'r gloch yn symudiad positif" a fyddai'n dod â"r rhaglen yn ôl i oriau brig.

Fy argraff gynta o Mike England oedd ei fod e'n ddyn positif iawn.

MJ Os felly, pam nad ydych chi'n ymateb ynghynt gydag agwedd mwy positif?

Fel bod y problemau arbennig sydd yn wynebu ieuenctid heddiw yn cael eu datrys ac fel bod mynegiant mwy positif ac adeiladol o'u dyheadau, eu hofnau a'u hansicrwydd yn cael ei ddarparu, braf fyddai meddwl y gallasai pob Cyngor Bwrdeistref a Dosbarth yng Nghymru benodi Swyddog ieuenctid i fod yn gyfrifol am weithgareddau'r grŵp oedran hwn.

Mater yw hi o'r Cynulliad yn cynnig esiampl ac arweiniad positif gan felly feithrin hyder cyffredinol yng ngwerth a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg i bawb yng Nghymru.