O leiaf fe fynnai, gyda'r proffwyd a'r meddyliwr praff hwnnw, fod yr iaith Gymraeg a'r patrymau diwylliannol sydd ynghlwm wrthi yn elfennau sylfaenol ym modolaeth cenedl y Cymry.
Y mae'n ddiwinydd praff, yn esboniwr diogel, yn bregethwr campus, ac yn weinidog ffyddlon yn holl waith ei swydd.
...coedwigwr praff yn dethol pren Tyrd ataf; cân â'th fwyell rybudd dwys A tharo unwaith, ddwywaith, nes bod cen Yn tasgu, a'r ceinciau'n crynu, a chrymu'u pwys; Dadwreiddia fi o'r ddaear, cyn y daw Ffwrneiswaith y golosgwyr acw draw.
Bariton, Banciwr, Beirniad Yn ogystal â bod yn ganwr galluog mae arbenigwyr ym myd y gân fel JOHN STODDART a T GWYNN JONES yn pwysleisio bod Towyn hefyd yn feirniad praff.
Roedd hi'n goeden fawr, yn goeden gref, a'i changhennau praff yn gynnig cysgod llydan rhag gwres yr haul neu gawod o law.
O'r cyfan o'r stori%au ysgogol, amrywiol a chyfoethog hyn, basgediad sy'n perio i ni fod yn wirioneddol falch o ansawdd ein rhyddiaith creadigol ar hyn o bryd, ei stori%au hi hwyrach sy'n cynnig y sylwadau mwyaf cynnil, praff a phriodol ar ein cyflwr fel bodau dynol yn niwethafiaeth yr Ewrob yr ydyn ni'n perthyn iddo.
Ar yr adeg eithriadol o bwysig hon yn hanes y Blaid cafodd gymorth ac arweiniad amhrisiadwy Saunders Lewis a'i feddwl praff a miniog (hyn eto'n rhagluniaethol).
Yr oedd yn ein plith gynghaneddwyr praff fel Eilir Aled, Thomas Jones (Meudwy) a Daniel Davies y Ponciau, ac iddynt hwy gael hwyl efo'r gynghaendd oedd y peth mawr.
Gallaf weld darlun ohono yn fy meddwl pan oedd yn ugain mlwydd oed, yn ddyn ifanc talgryf, cymesur, a'i wddf praff nid fel llinyn rhwng y corff a'r pen, ond yn estyniad cadarn o'r corff.