Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pregethwr

pregethwr

all neb wadu, er bod yr ordeinio'n hollol anorfod, eto perigl yr ordeinio, perigl mynd yn gyfundeb ar wahan, ydy ei bod hi/ n haws llithro oddi wrth yr hen Erthyglau, yr hen Homiliau, rhoi llai o bwys arnyn-nhw, cymryd haearn y ffrwyn rhwng ein dannedd, penderfynu pynciau credo heb gadw mewn cof mai etifeddiath ydy'r Ffydd, ac mai cadw'r ffydd, traddodi, ydy swydd pregethwr, nid ymresymu'n rhydd.

(Mae'r un peth yn wir am y dyfalu a fu ynghylch agwedd Gwen at John Phillips, y pregethwr a fu'n gyfrwng ei hargyhoeddi.

Beth a allai ei wneud ond yr un peth â'r pregethwr,--dianc i fysg pethau cyfarwydd iddo ac ohonynt greu cartref iddo'i hun y gallai fyw'n ddedwydd a diogel ynddo .

Yn ôl trefn yr ardal byddai'r pregethwr yng nghapel Berffro yn y bore, capel Beulah yn y prynhawn ac yn Berffro eto yn y nos.

Go brin y medrid cyhuddo'r pregethwr gwreiddiol hwnnw a adnabyddid fel 'Lloyd y Cwm', am iddo weinidogaethu yng Nghwmystwyth am flynyddoedd lawer, o fod yn 'boring'.

'Roedd hi'n ffordd digon hwylus a diogel i sicrhau pregethwyr i'r eglwysi ac i sicrhau cyhoeddiadau i'r pregethwr.

'Roedd tynged pob pregethwr yn llwyr ac yn hollol yn nwylo'r dyn llyfr bach.

Yn ogystal â bod yn rhagrith, yr oedd pregethu athrawiaeth yn aneffeithiol ac yr oedd hyn o'r pwys mwyaf i w^r a gredai nad oedd dyletswydd arall gan y pregethwr ond achub eneidiau: "Pregethu yr efengyl yw y peth gwerthfawrocaf yn y byd, y tu hwnt i bob cydmariaeth; a hyny sydd am mai ordeiniad Duw ydyw, trwy'r hon y casgl ei bobl o fysg y cenheloedd".

Gan fod yr aelodaeth yn galw gweinidog atynt, yr oedd modd iddynt wneud eu dewis ar sail profion o dduwioldeb a amlygwyd ym mywyd y pregethwr.

Rhoddai'r dyn llyfr bach enw'r pregethwr gyferbyn â'r Sul hwnnw yn 'i lyfr 'i hun, ,a rhoddai'r pregethwr enw'r eglwys gyferbyn â'r Sul yn 'i lyfr yntau.

Unwaith y mae'r argyhoeddiad hwn yn pallu, mae'r pregethwr yn colli ei ddifrifoldeb.

Fel bardd rhoes fiwsig i'w fynegiant; fel pregethwr rhoes ergyd yn y miwsig; fel digrifwr rhoes wên yn yr ergyd; ac fel dyn rhoes ddeigryn yn y wên.

Pregethwr, credech neu beidio, oedd wedi ei ysgrifennu, ac yr oedd hynny yn dystiolaeth gref o blaid ei barchusrwydd.

"Cofiwch ddod lan, Edward Ifans," meddai'r pregethwr.

Y Pregethwr gwadd oedd y Parchg.

Caiff pregethwr wisgo pullover a thei goch y dyddiau hyn, os mynn o.

Gwybod fod tynged pob pregethwr yn 'i feddiant o, ac y gallai estyn cymorth a chalondid neu siomiant a phryder i bob un a ddeuai yno i bregethu?

Yn ardal Caerdydd, nid oedd pobl yn medru dewis rhwng Christmas a'i gymydog a'i ffrind, Griffith Hughes, y Groes-wen, pregethwr tebyg iawn i Christmas o ran ei ddull.

Y Parchedig John Butler, y Caplan, oedd yn gweinyddu'r Cymun Bendigaid a'r pregethwr oedd y Parchedig Madalain Brady.

Ac fel hanesydd y'i gwelai Llwyd ei hun; ni, o'n perspectif a'n gwybodaeth ni, sy'n gweld elfennau o'r proffwyd a'r pregethwr yn ei waith.

Dyn dall oedd y pregethwr hwn.

Yr oedd yr Arglwydd Iesu, meddai'r pregethwr, wedi rhoddi gorchymyn i'r disgyblion fynd â'r llestr i Fethsaida i lan arall Môr Galilea.

Fel pob un sy'n gwneud hyn, ac fel y pregethwr hwnnw, methu â wnaeth Sam.

Un stori am gymeriad felly a adroddai oedd honno arn y pregethwr cynorthwyol hwnnw - a alwyd ryw Sul i bregethu mewn dwy eglwys, ryw dair milltir oddi wrth ei gilydd.

"Gwraig ifanc bedair ar ddeg ar hugain oed 'ryn ni'n gladdu 'ma heddi," meddai'r pregethwr.

Arferai gario oriawr â larwm arni ac os digwyddai'r pregethwr fod yn un hirwynt ni fyddai'r oriawr yn fyr o'i atgoffa.

Wedyn, pan ddeuai pregethwr i'r eglwys honno, a phlesio'r dyn llyfr bach, byddai hwnnw'n galw arno o'r neilltu ar ddiwedd yr oedfa ac yn gofyn iddo ddod yno i bregethu'r flwyddyn ddilynol.

Fel pob pregethwr mae ganddo bennau i'w bregeth, ond gyda hyn o wahaniaeth: nid oes gennyf i ond dau ben i'm testun, sef y chwarel ddoe a'r chwarel heddiw.

Iddi hi nid oedd gwahaniaeth rhwng pregethwr a phregethwr; yr oeddynt oll yn dda, a dangosai gymaint o barch i'r lleiaf ag i'r mwyaf.

Rhaid oedd i bob pregethwr brynu un o'r rheiny ar ddechrau'i yrfa.

Y ffordd o wneud hynny oedd edrych am Sul oedd yn wag gan yr eglwys a chan y pregethwr.

Yno dechreuai'r sgwrs, 'Beth oeddat ti'n meddwl o'r pregethwr ddoe?' a byddai'n rhwydd dweud os oedd yr hen saer wedi cael ei blesio ai peidio.

Y pregethwr a'r llenor dawnus a adwaenwn heddiw fel y Parch.

Roedd siwt ddu fel pregethwr cynorthwyol amdano ac ar ben hynny crwyn mwncis du a gwyn.

Arf arall sy'n adlewyrchu gallu dadansoddol y Gorllewin yw'r cyfrifiadur, ond fe all ei ddefnyddio arwain i'r paralysis of analysis yr hoffai un pregethwr daranu yn ei erbyn.

'Ydi hanner coron yn ddigon i dalu am het pregethwr, deudwch?' Twt lol,' atebais, "does dim eisio ichi dalu dim.

Cyplyswyd yr achlysur â chyfarfodydd pregethu blynyddol yr eglwys a'r pregethwr gwadd yn y rheini oedd T.Glyn Thomas, Wrecsam.

Felly byddai Jonni Huws wedi clywed dwy bregeth gan y pregethwr, a byddai'n nhad wedi clywed y bregeth yn y prynhawn.

Nid taflu cyhoeddiad neu ddau imi fel rhyw dipyn o gardod, ond 'u rhoi nhw imi fel 'taswn i'r pregethwr mwyaf yn y wlad.

"Pregethwr sâl yw'r hen Archddiacon North, mam." Ffromodd wrthyf.

roedd ei allu fel pregethwr dylanwadol yn amlwg iawn yn ei ddawn fel areithiwr effeithiol a daeth i fri yn fuan iawn fel siaradwr cyhoeddus.

A dyna'r dyn ieuanc yn ymestyn tros gwr y sêt lle roedd Hugh Evans ac yn gofyn yn lled ddistaw i'r ddynes ieuanc: 'Wyt ti am weiddi heno?' Troes hithau tan wenu, ac ateb: 'Ydwyf, os wyt ti am wneud.' Daeth y pregethwr i mewn, dechreuodd bregethu.

Mae'r portread yn gwneud tegwch, fel y dylai, ag arbenigrwydd ei waith fel pregethwr a gweinidog ac fe'i gwna'n amlwg iawn ein bod yn delio â dyn o dduwioldeb dwfn a didwyll.

Olrheiniwyd twf a datblygiad yr enwadau ymneilltuol yn nyffryn Aman yn y ddwy bennod flaenorol, wrth fynd heibio, megis, ac yn y bennod hon ceisir dangos sut y magodd y gweinidog a'r pregethwr ddiddordeb mewn llenyddiaeth, ac mewn barddoniaeth yn fwyaf arbennig.