Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

preifateiddio

preifateiddio

Trafodwyd dyfodol y rheilffordd â'r rheilffyrdd rhanbarthol yn gyffredinol yn arbennig yng nghyd-gyswllt preifateiddio.

A chynnyrch ei ddylanwad ef oedd preifateiddio ffydd grefyddol a'i hysgaru oddi wrth wyddoniaeth.

Ydyw, mae'r dyn yn gwybod 'tydi - onid ydyw efe wedi gweithio i Mr Rothchilds ei hun, ac wedi preifateiddio pob chwarter moliciwl o fewn ei gyrraedd o'r gias i'r glaw.

Hysbysodd Mr Causebrook na ddylai preifateiddio effeithio gymaint ar y rheilffordd oherwydd y byddai'n dod dan bennawd "Dyletswydd Cymdeithasol" yn hytrach nag un lle 'roedd yn bosibl gwneud elw.

Digwydda hyn yn gyson lle mae gwasanaethau yn cael eu preifateiddio a'u dad-reoli.

Galw sylweddol o du siaradwyr Cymraeg am ragor o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith, yn enwedig wrth siopa neu wrth gysylltu â gwasanaethau cyhoeddus a'r cyfleustodau sydd wedi eu preifateiddio.

Yn ogystal â hyn, mae preifateiddio wedi goddiweddyd perthnasedd yr hen ddeddf drwy fod y sector preifat wedi tyfu a'r sector cyhoeddus wedi crebachu.

Edwards, ac yn groes i farn y myafrif llethol o addysgwyr Cymru, cydymffurfiodd y Swyddfa Gymreig yn hunan-fodlon ddigon â'r patrwm preifateiddio a luniwyd gan y Weinyddiaeth Addysg.

Ymhlith siaradwyr Cymraeg, mae hyder wrth ddefnyddio'r iaith ar ei uchaf gartref, wrth siopa, neu wrth gymdeithasu ond mae'n is wrth gysylltu â chyrff megis cynghorau lleol neu'r cyfleustodau sydd wedi eu preifateiddio.