Byddai'n demtasiwn i chwi sefyllian yno nes bo llech y preseb yn wlyb lân, a'r tafod chwilgar garw yn hel y gronynnau o flawd a gollasid ar lewys eich siaced.
Yn nes ymlaen byddai'r holl gwmni yn gorymdeithio tua'r eglwys pob un a'i gannwyll ynghynn i ganu moliant i faban bach a anwyd mewn preseb.
Pan wthiai rhyw fuwch arall ei phen i'r mesur blawd cyn i chwi gael cyfle i'w wacau yn y preseb o'i blaen, fe chwarddech.
Roedd Sgwâr y Preseb ger Eglwys y Geni, sy'n fwrlwm o brysurdeb fel arfer, yn dawel fel y bedd.
Dwi wedi dathlu sawl Nadolig ym Methlehem ar hyd y blynyddoedd - cysgu allan ar Sgwâr y Preseb ac yn y blaen - heb wybod ei bod hi yno.'
Mor wrthodedig y gweddillion gwair yn y preseb, a'r sarn anniben, a'r sodren aflan.
Cadarnhau'r ffaith wnaeth darllen carol o'r Philipinas yn y llyfr 'Wrth y Preseb'.
Dim pigau pin yn sownd yn y carped tan fis Mai; dim rhochian blynyddol Modryb Matilda ar ôl joch o port; dim crensian papur lapio'n slei bach i deimlo'r anrheg; dim anghofio codi am chwech y bore i roi'r twrci yn y popty; dim Ryan yn canu "Ai hyn yw'r Nadolig pwy a žyr?" ar bob yn ail raglen radio; dim chwilota mewn hen gist am goron Caspar neu am ddoli go lân i orwedd yn y preseb; dim 'Dolig!