Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

presenoldeb

presenoldeb

Yn sgîl presenoldeb cynhyddol y camerau dylsai unrhyw chwaraewr syn euog o ddigwyddiadau ysgeler, annerbyniol, dderbyn y gerydd a ddaw i'w ran.

Maen gantores garismataidd, efo presenoldeb llwyfan heb ei hail, ein arwres ni i gyd, y dynion yn ei ffansïo ar merched am ei hefelychu.

Doedd presenoldeb ein camerâu'n dychryn dim ar filwyr Israel.

Roedd Guto Llew yn parhau ar ufflon o fform ac wrth ei fodd yn gweld cymaint o hufen y genedl o gwmpas roedd presenoldeb cryf yr heddlu'n ei blesio i'r dim hefyd.

Yn gymdeithasol, mae taith fel hon yn ddigon gwahanol i'r patrwm cymdeithasol arferol, gyda'r gwahoddwyr yn amal yn hawlio ein presenoldeb mewn cyfarfodydd, derbyniade ac achlysuron swyddogol.

Atgoffwch yr aelodau nad yw presenoldeb pobl uniaith Saesneg i rwystro eraill rhag defnyddio'r Gymraeg.

Na, y mae presenoldeb Lloegr yn ormesol mewn ffordd wahanol.

Bydd presenoldeb yn y sesiynau yn orfodol a gall absenoldeb heb resymau digonol arwain at fethiant.

Tynnais sylw un o'r aelodau wrth fynd allan o'r oedfa fod tipyn gwell presenoldeb yng nghyffiniau Llanrug, mewn oedfa bore neu brynhawn.

Delwedd arall a berthynai i waith yr offeiriad, ond wedi ei gosod o ongl hollol wahanol, yw honno am Grist fel yr Archoffeiriad mawr a gyflawnodd ddefodau puredigaeth fel y daeth hi'n bosibl i bechaduriaid fynd i mewn i gysegr presenoldeb Duw, yn union fel y caniateid i'r Archoffeiriad fynd drwy len y cysegr i bresenoldeb Duw (Heb.

Rydym wedi galw ar i'r Cynulliad sefydlu Tasglu Technoleg i sicrhau fod presenoldeb technolegol gan y Gymraeg, bod adnoddau electronig yn cael eu creu ynddi ac fod cynllunio ym maes technoleg yn digwydd nawr ar gyfer y dyfodol.

Bydd y meddyg yn nodi presenoldeb, neu ddyfodiad, gwendid y galon neu'r pen (strôc), haint yr ysgyfaint, annormaledd y cefndedyn ...

Cred y Cyfarfod Cyffredinol fod yn rhaid i'r Gymraeg gael presenoldeb ym mhob maes ac fod gan pawb o bobl Cymru yr hawl i'w defnyddio.

Mewn memorandwm at y Pwyllgor dywedodd fod presenoldeb milwyr arfog yn ddigon i ddofi dynion terfysglyd, er hynny '...' .

Fe gofnodir y dystiolaeth am gyraeddiadau'r myfyrwyr yn y dogfennau Cofnodi Cyrhaeddiad Presenoldeb a Phrydlondeb Y mae ymchwil wedi dangos fod agwedd broffesiynol ar ran y staff, gan gynnwys prydlondeb yn ffactor bwysig yn llwyddiant ac effeithlonrwydd ysgol.

Yr oedd presenoldeb Breiddyn a Lewis Olifer, rhyngddynt, wedi swatio pawb.

A oes gan y disgyblion agwedd bositif tuag at waith; a yw eu presenoldeb yn foddhaol; ydyn nhw'n cadw at y dasg; a yw eu gallu i gadw at y dasg yn gwella; a ydynt yn cymryd rhan lawn yn y wers?

Mae presenoldeb bywiog a chryf yn y meysydd hyn yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg, ac mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymrwymo i'r ymgyrch hon, gan adeiladau ar yr ymgyrch i Gymreigio ffonau symudol, cwmni Microsoft a chanolfannau galw.

Drwy gydol y blynyddoedd hyn yr oedd sir Fynwy yng nghanol tanbeidrwydd y dadlau; a hynny, nid yn unig oherwydd maint y boblogaeth, ei symudolrwydd a'r broblem fawr o ddarparu addysg ar ei chyfer, ond hefyd oherwydd presenoldeb carfan gref o weinidogion amlwg a llafar iawn eu barn.

Bid a fo am hynny, problem affwysol Cymru yw presenoldeb Lloegr am y ffin a ni.

Methu deall yr ydw i pam y dylai presenoldeb gwylanod fod yn syndod i neb sy'n symud i fyw i dref glan môr - be arall maen nhw'n ddisgwyl ei weld yno.

Ar y naill law, mynnai'r sawl na allai siarad Cymraeg mai peth anghwrtais iawn oedd siarad yr iaith yn eu presenoldeb.

Wrth gwrs, byddai'r esboniad hwn yn ateb rhai o'r posau oedd wedi peri cymaint o benbleth iddynt: pam roedd rhai pobl yn methu â'u gweld fel personau ond yn gweld effeithiau eu presenoldeb; pam roeddynt yn teimlo fel bodau ar wahân yn eu hen gynefin, yn fwy felly nag yr oedd traul y blynyddoedd yn ei esbonio; pam roedd agendor diadlam rhyngddyn nhw a'r bobl.

Mae'r presenoldeb corfforol yma gyda ni o hyd rywsut, heb son am bresenoldeb gair a meddwl drwy'r emynau.

Dynodir y canlynol fel dyletswyddau cydnabyddedig i bwrpas talu lwfansau presenoldeb yn unol â'r cynllun hwn, sef:-

Yn warafunus, serch hynny, y dihangai am un noson rhag presenoldeb bythol y ci anwel.