Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pricia

pricia

Gwrthododd yn gadarn eu gwahoddiad i ymuno â hwy gan fod un o'i ddengair deddf yn cyhoeddi'n ddigyfaddawd mai'r pricia oedd yn teyrnasu ar nos Sadwrn.

Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.

Daeth pen Cetyn heibio i'r drws pan oedd y pricia'n cael eu cymysgu rhwng dwy gêm, i wneud yn siwr nad oedd yr hen beth fach yn cael cam gan Ciaptan Llwyd.