Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

prifddinas

prifddinas

phan welsant ar etholiad y `Rail-splitter o Illinois' [Abraham Lincoln], ys gwelid ef, fod tebygolrwydd y buasent hwy bellach yn colli llyw y peiriant o'u dwylo, gadawsant Washington mewn dicter a soriant - wedi moni: symudasant gyda'i gilydd i ganolbarth gwlad y cotwm; yna sefydlasant ym Montgomery, prifddinas y dalaith hon, a gosodasant i fyny lywodraeth fawr o'r eiddynt eu hunain, ac etholasant cotton planter o dalaith Mississippi yn ben arnynt - `yn engineer in chief' - i redeg y peiriant.

Ym mis Medi 1914 aeth Franz Ferdinand, nai Ymerawdawr Awstria a Brenin Hwngari, i Sarajevo, prifddinas Bosnia.

Mae sawl atgof hefyd nad dinas fodern Trydydd Bydaidd ddiurddas yw hi, ond prifddinas hen hen wareiddiad.

Yn y pedwardegau, sefydlwyd cymdeithas arall yn Albany, prifddinas y dalaith, rhyw saith milltir i'r dwyrain.

Ac yn Shillong, prifddinas Meghalaya ym Mryniau Casia, yr oeddwn innau.

Yn hen borthladd llewyrchus y dyddiau a fu, roedd mwy o deimlad prifddinas ryngwladol a rhythmau masnachol i'w clywed yn rhygnu'r lori%au a llusgo swnllyd y trêns.

Go brin fy mod i'n afresymol yn disgwyl gwell gwasanaeth gan brif siop lyfrau Cymraeg ein Prifddinas.

Bu'n driw i'w air a chyn hir roeddem yn glanio ym Muscat, prifddinas Oman.

Ond, yr ydw i, hyd yn oed, yn ei chael yn anodd amgyffred prifddinas yn annibynnol o'r wlad y mae'n brifddinas iddi.

Paris yw prifddinas y chwyldroadau hefyd.