Prinder grwpiau dawns sy'n bennaf gyfrifol am hyn wrth gwrs ond, wedi dweud hynny, mae yna sawl criw talentog wedi gadael eu marc ar y sîn dros y blynyddoedd.
Nid oedd prinder wicedwyr da - bechgyn fel Keith Andrew, Bob Taylor, Jimmy Binks a JT Murray - ac o ran gallu yr oedd David yn cymharu'n ffafriol iawn â hwy.
Os yw llunio darlun boddhaol o'r canrifoedd cynnar yn anodd oherwydd prinder ac amwysedd y dystiolaeth, y mae gwneud hynny gyda'r cyfnod diweddaraf yn anodd oherwydd swm aruthrol y defnyddiau.
Un o'r rhesymau dros fethu bwrw brych yw prinder Magnesiwm yn y nerfau a reola gyhyrau'r llestr.
Casglai torfeydd bychain o'n cwmpas, a doedd dim prinder gwirfoddolwyr i gyfieithu.
Doedd dim ysgol sgio heddiw, ond oherwydd prinder yr eira a amlder y rhew dyma benderfynu ymuno a dosbarth o ddechreuwyr.
Ieuenctid ac oedolion ifainc sydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan ddiweithdra cynyddol, prinder tai addas a rhesymol ac amgylchfyd greithiol a threuliedig.
Gadawodd yr ysgol i weithio gyda chwmni Crosville, gan fod prinder gwaith yn y tridegau.
Mae prinder adlodd i besgi wyn ar ambell ffarm ac mae eraill, lle bu gwrteithio am ail dyfiant, yn ceisio ennill crop ychwanegol o silwair yn yr hydref.
Mae prinder yr elfennau cyffredin yn amlwg os cymherir perthynas y testunau â'r berthynas sydd rhwng Geraint fab Erbin, dyweder, ac Erec et Enide Chre/ tien de Troyes.
Yr wyf wedi cael tipyn o swyddi ers gadael yr ysgol, nid oes prinder gwaith yma.
Efallai mai prinder graffiti Cymraeg a ysgogodd y Cyngor Celfyddydau i godi wal blastig mewn un Steddfod gan annog y bobl oedd ar y Maes i sgwennu eu negeseuon arni.
Y bwriad cyntaf oedd adeiladu eglwys er cof amdanynt, ond oherwydd prinder arian, bodlonwyd ar godi cofeb yn St.
Prinder gofod yw'r rheswm, efallai, ond byddai'n dda ei gael mewn llyfr rhagarweiniol fel hwn, yn enwedig gan fod rhai ieithyddion o Gymru wedi ei gymhwyso at y Gymraeg.
Prinder clownia, ella.
Er bod pedwar deg wyth wedi marw allan o bron i bymtheg can o garcharorion, morwyr a milwyr a gludwyd mewn un ar ddeg o longau, roedd Capten Arthur Phillip wedi cyflawni un o fordeithiau enwocaf hanes y mor, dros bymtheng mil o filltiroedd heb golli'r un llong.Roedd y marwolaethau'n llawer mwy yn y llyngesau a'i dilynodd oherwydd gorlwytho, prinder bwyd, creulondeb annynol ac afiechydon a oedd yn deillio'n anorfod o'r sefyllfa ar y llongau, a'r ffaith bod y fordaith mor hir.
Erbyn hyn rydym yn mewnforio tatw o bob rhan o'r byd ac os bydd prinder yn y wlad yna fe ddaw digon i mewn o rannau eraill i wneud i fyny am hynny.
a chymdeithasau eraill yn ceisio cyfarfod y gofyn cynyddol am feiblau, yr oedd prinder mawr ohonynt.
Yr hyn a'm trawodd i (ar wahan i ambell i sgonsan!) o edrych ar y lluniau o ferched clodwiw y Dybyliw Ai yn bychanu Blair oedd y prinder wynebau ifanc yn y gynulleidfa.
A hithau'n dal i ddiferu ar ôl cymryd cawod o dan fwced dyllog, fe ddywedodd un wraig, Im Sarin, wrtha' i fod y prinder o ddynion yn gosod straen gynyddol ar wragedd sy' wedi diodde' cymaint yn barod.
Gan bod prinder affwysol llyfrau o'r math yn ein diwylliant gwleidyddol heddiw dylid croesawu'r cyhoeddiad yn gynnes.
Er enghraifft, mae prinder athrawon i addysgu Cymraeg a dysgu trwy gyfrwng yr iaith yn achosi cryn bryder ynglŷn â diogelu lle'r Gymraeg yn y cwricwlwm cenedlaethol.
Achosodd prinder cyfleoedd gwaith i frodorion Cymraeg eu hiaith symud i ffwrdd, a phrisiau tai cymharol isel ac atyniad y bywyd gwledig i fewnfudwyr di-Gymraeg symud i mewn.
Ym Mhrydain 'roedd prinder pethau fel sebon, llafnau eillio, ac 'roedd rhai merched yn defnyddio betys cochion fel minlliw, a brownin grefi ar eu coesau yn lle sanau.
Y maen'n wir i lawer o'r addysg honno gael ei thraddodi trwy gyfrwng y Saesneg, ac y mae'r Athro J Gwyn Griffiths yn ystyried fod hyn yn cyfrif am y prinder dylanwad clasurol a welir mewn barddoniaeth Gymraeg.
Y naill oedd y lleihad mewn ymgeiswyr am y Weinidogaeth a'r llall oedd prinder arian.
Dros y penwythnos un digwyddiad na fydd yn cael ei ganslo oherwydd y prinder petrol fydd y daith gerdded 150 milltir a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd (11 o'r gloch Dydd Sadwrn) i'r Senedd yn Llundain.
Fe wyddai Iolo Morganwg, ac yntau'n undodwr ac yn ei dro yn ddiweddarach yn llywydd gweithgareddau'r enwad, gystal â neb am y prinder hwn.
Bu Annes Glynn yn sgwrsio gydag ef am ei yrfa yn y coleg, y newidiadau a fu, y prinder o Gymry Cymraeg sydd yn dilyn gyrfa ym maes gwyddoniaeth, ei ddiddordeb mewn ieithoedd a'i gysylltiad ag ysbiwr i'r KGB...
Yn ddiamheuol y mae prinder o ddeunydd newydd safonol yn y Gymraeg.
Yn ôl £2,000 ceidwadol y pen mae hynny yn waeth na gwaradwyddus gyda wardiau ysbytai yn parhau ynghau oherwydd prinder arian er gwaethaf y miloedd o gleifion sy'n disgwyl oddi allan.
Na, does na ddim prinder byd eang o awyrennau a pheilotiaid cymwys.
Felly, nid yw'r prinder dylanwad clasurol yng ngweithiau'r beirdd Cymraeg yn dangos o reidrwydd iddynt fod yn anghyfarwydd â'r clasuron, neu yn elyniaethus iddynt; gallai olygu yn unig nad oeddynt yn teimlo'r angen i'w dynwared.
Gaeaf caled o luwchfeydd a rhew am saith wythnos yn gwaethygu'r sefyllfa ynghylch prinder tanwydd.
Oherwydd prinder gwaith yn yr ardal gadawodd Dic yn 1986 i fynd i weithio i'r Falklands.
Prinder bara wedi i bobyddion fynd ar streic.
Cawsom ginio ardderchog er gwaethaf y prinder a daeth un o arbenigwyr yr ysbyty, Mr OV Jones, i dorri'r twrci ymhob ward.
Roedd ardal y Sahel, sydd yn union i'r de o'r Sahara, yn arfer bod yn baradwys i'r adar ar ôl croesi'r fath ddiffeithwch, ond mae ardal y Sahel erbyn hyn yn brysur droi yn ddiffeithwch ei hun ar ôl prinder glaw am flynyddoedd.
Dywedodd Huw Lewis un o arweinwyr y cerddwyr, ' Hyd yn oed os yw'r prinder tanwydd yn golygu fod llai o bobl yn gallu teithio i Gaerdydd i ffarwelio â ni, ac hyd yn oed os collwn ni ein cerbyd wrth gefn, fyddai yn ein gorfodi i gario ein holl baciau ar ein cefnau, yr ydym yn benderfynol o fynd yr holl ffordd i Lundain.
Erbyn hyn, nid oes prinder beirniaid i dynnu sylw at y gwahaniaeth dolurus rhwng y delweddau rhamantaidd a'r realiti llwm a oedd ohoni fynychaf, yng Nghymru fel ymhob gwlad arall y rhamanteiddiwyd ei gwerin.