Ond er prinned yw'r cyfeiriadau uchod, ac er nad oedd llawer iawn o gysylltiad rhwng y rhanbarthau hyn a'r taleithiau eraill yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ar ddeg, eto, pan gododd Casnodyn ym Morgannwg yn y ganrif ddilynol, gwelir yn ei waith holl nodweddion canu cymhleth y Gogynfeirdd, ffaith sy'n awgrymu fod traddodiad barddol cyffelyb wedi ffynnu yn y de-ddwyrain yn ogystal yn y canrifoedd blaenorol.