Ond y mae hwn yn beth mentrus iawn i'w wneud oherwydd gellir priodoli i awdur syniadau nad yw'n dymuno eu harddel.
O gofio'r hanes am John Evans o'r Waunfawr yn cyfarfod Indiaid cochion o Gymry Cymraeg aeth un rhigymwr lleol ati i ysgrifennu 'pryddest' yn priodoli profiadau tebyg i D Rhys Jones yn y Wladfa: "Medd Pat, wel dyma ddiawl o waith yw cwrdd ag Indiaid coch y paith."
Gan mwyaf, gellir priodoli'r gostyngiad i nifer o ffactorau sosio-economaidd cymhleth: arwydd fod cryfder yr iaith mewn rhai ardaloedd ynghlwm wrth ddatblygu cynaladwy o fewn y gymuned ac yn ddibynnol arno.
Yr oeddan nhw yn priodoli prysurdeb eleni i'r ffaith fod yna fwy o alw nag a fu, y dyddiau hyn, am Nadolig Traddodiadol.
Gellir priodoli hynny i waith y swyddog.
Gellir priodoli llwyddiant y sianel i gorff o gyflwynwyr ymroddedig a hyblyg ynghyd âr cyfleoedd gwych a gynigir ganddi ar gyfer dyfeisgarwch a chreadigrwydd.
Gellir priodoli pob darn o bob adroddiad ar ysgol neu ardal yn benodol i Lingen neu i un o'i is-ddirprwywyr.