Gwnaeth y Priodor ei orau glas i guddio'i ofn tan haenen o ymresymu llee%nog ynglŷn â natur pechod a'r modd y dewisodd Duw ddatguddio'i hun i'r ddynoliaeth.
(Er i adfynach chwerw a adawodd y gymdeithas rhyw flwyddyn ledaenu si ymysg mân fynachod Enlli fod y Priodor wedi'i erlid o Rydychen ar ôl cwta dau dymor dan amgylchiadau pur amheus a dweud y lleia'.) Ond roedd hynny flynyddoedd maith yn ôl, pa 'run bynnag.
'Gawsoch chi hi?' 'Ddim eto -' Honnai rhai mai dyma pam roedd y Priodor mor drwm ei lach ar drefi a byth a hefyd yn rhefru pregethu yn eu herbyn.
Oedodd Priodor Beddgelert a chrafu'n ffyrnig dan ei geseiliau, cyn crychu'i drwyn a chrach boeri.
Trodd y Priodor ato a gofyn: 'Fasa chi ddim yn gneud cymwynas â mi?'
Ac wrth i'r Rhaglaw wasgu llau yng ngwallt y Priodor: meddyliodd am y pen cymhenbwll oedd ganddo dan ei fysedd.
Gwelodd y Priodor a dau fynach yn atgyweirio cychod gwenyn, cychod eu hadar paradwys.
Sylwodd y ddau fynach arno'n syth pan alwodd o arnyn nhw ond bu'n rhaid i un gydio ym mhenelin y Priodor.