Disgrifir ef gan Richard Prise fel 'y daearyddwr nodedig Humphrey Llwyd, sydd bellach wedi marw, ond a haeddai gael byw'n hwy ar gyfrif ei eiddgarwch diflino yn nisgyblaethau hanes a mathemateg'.
Mae'n bwysig ychwanegu fod gŵr fel Richard Prise yn cydnabod fod gan Polydore Vergil sail i nifer o'i honiadau.
Dyma Richard Prise eto, yn egluro paham yr aeth ati i gyhoeddi'r Historia Brytannicae Defensio o waith ei dad, (a De Mona Llwyd ynghyd ag ef): 'Yr oedd llawer ffactor yn wir a'm darbwyllai na ddylwn esgeuluso cyhoeddi'r llyfr.