Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

problem

problem

Dim problem--swper hyfryd iawn, a chofio troi'r botwm ar y wal ar ôl gorffen y coginio.

`Mae problem gyda ni,' meddai.

Ond problem unrhyw ddiwylliant lleiafrifol yw ei bod yn straen ar adnoddau dynol ac ariannol gorfod darparu'r helaethrwydd defnyddiau sy'n angenrheidiol i blesio chwaeth amrywiol y gynulleidfa, ac na ellir chwaith fforddio troi unrhyw ffurf lenyddol i gyfeiriadau rhy esoterig ddeallusol ar draul ennyn diddordeb y mwyafrif (sydd ynddo'i hun yn lleiafrif!) Felly rhaid o hyd ennyn diddordeb yn y gair Cymraeg printiedig trwy gyfrwng pethau fel Cyfres y Fodrwy neu'r papurau bro, er bod y wasg argraffu'n anleu fwyfwy at bobl sy'n meddwl yn ystyriol erbyn hyn.

'Doedd yna ddim problem ffitrwydd.

O leiaf, byddai problem pellter yn llai, a chyda'r adeilad hefyd yn llai, byddai'r dasg o'i dwymo gymaint a hynny'n haws.

Ymatebodd y cenedlaetholwyr mewn dwy ffordd i ergyd farwol y bleidlais nacaol, ymgyrchu o blaid cael y bedwaredd sianel i Gymru ac ymgyrchu yn erbyn problem gynyddol y tai haf.

Synnai Nofa at eu diffyg gofal a gwyliadwriaeth, ond gwyddai'n reddfol erbyn hyn nad oedd yna lawer o bobl yn y wlad a fyddai'n gallu peri problem iddo.

Mae gen i ryw falchder mod i wedi datrys problem nad oedd neb arall yn medru ei datrys.

Mae'r Athro Pennar Davies yn diffinio problem Manawydan yn eglur - pa mor hir y dylid goddef anghyfiawnder, pa bryd y dylid gweithredu?

Problem elfennol iawn ydi'r drydedd, Lludd annwyl.

'Roedd o hefyd wedi gweld problem diboblogi a sylweddolodd fod y ddinas yn annog ieuenctid Cymru.

Nid problem gormes gwleidyddol ydyw.

'Doedd gen i ddim syniad be i'w ddisgwyl, i ddeud y gwir, ond doedd hynny ddim problem wedi i mi benderfynu fy mod i isio mynd.

Tu ol i'r holl broblemau hyn mae problem arall, y fwyaf sylfaenol o'r cwbwl yn fy nhŷb i, sef problem y Rhwyg Ieithyddol - problem yr iaith.

Jenkins, gynnig rhannu baich y dysgu ac felly ddatrys problem amserlen y prifathro.

Os mai gormodedd yw nodwedd amlwg problem y gorllewin, tlodi a thŷf poplogaeth yw problem gyfatebol gweddill y byd.

Hefyd, maent yn cyflwyno problem.

Defnyddir yr algorithm genetig i esblygu y 'DNA' 'teithio' byrraf, ac felly ateb ein problem!

Wrth ei wylio'n croesi at y pll nofio, meddyliai mai'r unig beth a chwythai bob problem i'r pedwar gwynt fyddai iddo fe syrthio mewn cariad â hi.

Iddynt hwy, trodd 'problem y Neo- Natsi%aid' yn gyflym iawn yn 'broblem y rhai sy'n chwilio am loches'.

'Does yna ddim problem, byth, achos rydach chi'n gorfod bod yn uffernol o bragmatig.

Yn y cyfamser mae Mr Hughes yn galw cyfarfod brys i drafod problem cyffuriau'r ysgol.

Megis yr ymosododd Evan Evans ar yr Esgyb Eingl yr ymosododd Emrys ar achosion Seisnig ei enwad a mynd rhagddo i ddadlau mai'r iaith Gymraeg oedd prif fater politicaidd Cymru a chraidd ei bod, mai eilbeth oedd pob problem boliticaidd wrth hon.

Mae problem ynglyn ag ail stadiwm yng Nghymru ond mae son bod Abertawe yn mynd i gael stadiwm i ddal 25,000.

Ond problem arall yw gwarchod gwerthoedd a safonau o fewn y grefft o gynhyrchu rhaglenni, ac mae angen dyfeisio ffordd o gyflawni'r nod honno.

Dim problem, medd y Bwrdd Iaith.

Iawn, mae'n hollol amlwg ers tro byd bod Dafydd Êl wedi hen flino ar 'frwydr yr iaith'. Brwydrau pobl eraill ar draws y byd dros ryddid a chyfiawnder -- dim problem; rhaid yn wir iddo ddangos cefnogaeth (darllener ei genadaethau eangfrydig a thrawswladol yn ei golofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg). Ond, jyst am fod Dafydd Êl wedi penderfynu ei fod am optio allan o'r broses drafferthus honno o greu trefn newydd yng Nghymru a 'hyrwyddo' chwyldro yn hytrach na bocsys te dwyieithog, yna does bosib bod disgwyl i'r gweddill ohonom lyncu gweledigaethau ffantasïol a thra cyfnewidiol y cyn-gefnogwr streiciau dros hawliau gweithwyr a chym-unedau a symudiadau ymgyrchol/protestgar cyffelyb.

Faswn i feddwl nad trwy anfon lluoedd arfog yno y mae datrys problem y trueiniaid hyn ond trwy of alu nad yw arfau rhyfel yn mynd yno.

Yn yr Alban problem economaidd a gwleidyddol ydoedd; yng Nghymru deuai ffactorau ysbrydol i'r cyfrif.

Yn y lle cyntaf, ni all model statig, diamser, ymdrin o gwbl ag un o'r problemau ymarferol pwysicaf sy'n wynebu pob pennwr polisi%au, sef problem amseru; ac yn yr ail le, yn groes i dybiaeth (vi), nid ydyw gallu cynhyrchu'r economi yn aros yn ei unfan hyd yn oed dros gyfnod cymharol fyr.

Problem arall sy'n bod wrth ddefnyddio ffilm yw ffurf y rhaglen orffenedig.

PENDERFYNWYD hysbysu Cyngor Cefn Gwlad Cymru na fyddai ychwanegu camau biwrocrataidd i'r broses gynllunio yn datrys problem dylunio.

Problem amser fu problem fawr y nofelydd Cymraeg erioed, a rhaid wrth arian i brynu amser.

'Dad yn dweud, "Dim problem, 'rhen goes.

Fe ddywedodd - - y dylid edrych ar y broblem o atebolrwydd fel problem o werthuso gwaith yn hytrach na dilysu.

Dychmygwch am eiliad eich bod yn annerch rali o blaid 'Achub Ciwcymbyrs Coch Prin Powys' - dim problem yn fanna, tan i chi sylweddoli fod Dafydd Morgan Lewis - yr arch derfysgwr - yn llechu ynghanol y dorf yn ei sbectol dywyll, ei farf ffug a'i falaclafa du.

Rhag ofn y bydd problem yn nes ymlaen wedi i chi ddod yn fwy profiadol, mae'n werth nodi pa wifren sy'n gwneud beth.

Bid a fo am hynny, problem affwysol Cymru yw presenoldeb Lloegr am y ffin a ni.

Problem arall yw nad yw grisiau'r tŵr yn weladwy i'r gynulleidfa drwy'r amser mewn cynhyrchiad teledu gan fod y camera'n crwydro at wyneb neu gorff ac yn symud i ffwrdd oddi wrth ddarlun cyfiawn o'r set.

A oes rhaid rhaglennu'r holl gyfarwyddiadau y mae angen eu dilyn i ddatrys problem, yntau a oes dull arall yn bosibl - lle bydd y cyfrifiadur yn canfod ateb i'r broblem ar ei liwt ei hun?

Eich problem gyntaf fydd argyhoeddi'r ci ffyrnig nad i'w foddhau na'i borthi ef y dinoethoch y rhannau hynny o'ch corff.

'Mae'r gwesty'n iawn, 'sdim problem o ran hynny, maen nhw'n ddigon cyffyrddus.

Problem gyda'r peiriant chwilota.Ceisiwch eto ymhen ychydig.

Mewn algorithm genetig, nid gwybodaeth am rywbeth byw megis eliffant a gedwir yn y DNA, ond yn hytrach gwybodaeth am sut i ddatrys problem gyfrifiadurol.

Ymddengys nad oes problem letya yn yr ardal.

Gallai hyn greu problem mewn dosbarth lle mae mwyafrif y myfyrwyr yn Gymry Cymraeg, er enghraifft, gan y byddai tueddiad i'r darlithydd ar gwrs dwyieithog anghofio bod rhaid cadw elfen o Saesneg yn y dysgu hefyd os yw'r cwrs i fod yn un gwir ddwyieithog." Er gwaethaf yr ail bwyso a'r ail ddatblygu y bydd rhaid i Addysg Gymraeg eu hwynebu wrth weithredu'r Cwricwlwm Cenedlaethol, bydd y gronfa o arferion da sydd ar gael yn gynhaliaeth werthfawr.

Does dim problem ar Barc Jenner ynglyn â'r gêm rhwng Y Barri ag Abertawe yn y Cwpan Cenedlaethol.

Ac efallai, megis yr anogai yr Arglwydd Iesu dlodion dydd ei ymgnawdoliad i ystyried y lili ac ehediaid y nefoedd rhag gorofalu am ddillad a phorthiant, nad amhriodol yw i'r digartref feddwl am y crwbanod a'r malwod a chreaduriaid eraill y darparodd y Creawdwr a'r Cynhaliwr mor ddigonol ar gyfer eu problem tai.

Problem adnabyddiaeth o'r hunan oedd yr un a gawsai sylw cynnar J.

Cefais achos i ofyn hynny i mi fy hun ynglŷn â sawl problem arall yn ystod fy mywyd.

Mae'n amlwg felly bod problem cynaladwyaeth economaidd yn bodoli yng nghefngwlad yn ogystal â phroblem o gynaladwyaeth amgylcheddol - ac yn wahanol i ganllawiau Rio - ystyrir y problemau yn gwbwl ar wahân yng Nghymru.

Problem sy'n arbennig i genedl fach mewn cyfnod argyfyngus ydi hon, oblegid mewn cenedl o'r fath, ymhlith y rhai mwyaf deallus a mwyaf effro i'r hyn sy'n digwydd y ceir y llenorion.

Ymddiried yn y Cynulliad i ateb pob problem neu fynd ati ein hunain i neud rhywbeth.

yn raddol, wrth gwrs, datblygwyd yr offeryn i fod yn llawer iawn mwy dibynadwy, trwy ddoniau george phelps, i raddau helaeth, ond yn y dyddiau cynnar, hawdd iawn fyddai credu fod agwedd geidwadol y peirianwyr seisnig yn ei gwneud yn anodd iddynt dderbyn yr agwedd nodweddiadol americanaidd, sef fod yna ddatrys ar bob problem.

Gan mai drwy'r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol Sirol y sicrheir cyllid ar gyfer gwaith plant fel arfer, ceir problem neilltuol mewn siroedd sydd â nifer fawr o lochesau, efallai bump neu chwech yn hytrach na dim ond dwy neu dair.

Dywed y Cynulliad fod problem y cleifion allanol yn effeithio ar bob un o'r pum awdurdod iechyd yng Nghymru.