Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

profedigaeth

profedigaeth

Dymuna ffrindiau Mr Huw Williams estyn eu cydymdeimlad dwys â Mrs Williams a Bethan ar eu profedigaeth o'i golli mor frawychus o sydyn tra roedd y teulu ar eu gwyliau ar Ynys Creta.

Profedigaeth Cyfeiriodd y Cadeirydd at brofedigaeth a ddaeth i ran gwraig y Cynghorydd Canon William Jones a chydymdeimlodd â hwy fel teulu.

Anodd oedd annerch yn gyhoeddus mor fuan ar ôl profedigaeth, ond rhaid oedd ufuddhau i'r alwad.

Profedigaeth chwerw iddo fu claddu ei fab ieuengaf, Robert Daniel Evans, newydd orffen cwrs o addysg a enillodd trwy ysgoloriaeth yn Ysgol Sirol Y Bala.

Anfonwn ein cydymdeimlad i'r oll o'r teulu yn eu profedigaeth.

DIOLCH Dymuna John, Gwyneth a'r plant Hengefn Llanfair Caereinion, ddiolch yn ddiffuant iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a hwy yn eu profedigaeth o golli tad a thaid annwyl.

Dymuna'r teulu ddatgan eu diolch cywiraf am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a estynnwyd iddynt yn ystod eu profedigaeth drist.