Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

proffidiol

proffidiol

Ceisid sicrhau'r cytundebau mwyaf proffidiol er mwyn gallu ehangu dylanwad dau gyff uchelwrol ac unioni cwrs datblygiad dau wehelyth o'r rhyw breintiedig.

Gosododd rhyw 'awdurdod' neu'i gilydd fastiau dur anolygus yn enw cyfathrebu ar y Rhiw, ac y mae nifer y man feysydd carafannau wedi cynyddu fel pa bai 'Byclins' yn berwi drosodd wrth i ffermwyr sylweddoli fod carafan wen a Saeson brych yn llai o drafferth ac yn fwy proffidiol na defaid a gwartheg.

Heb os nac onibai fe welwn yn fuan broffwydoliaeth arweinyddion Undeb y Glowyr yn cael ei wireddu, gyda mwy a mwy o weithfeydd yn cau am nad ydynt yn ddigon 'Proffidiol'.

Gan fod y pedoli, er trymed y gwaith, yn un proffidiol, ymdrechai pob gof i ragori yn y grefft hon.

Y gost oedd y bwgan yma eto, ond yn hytrach na gwario ar 'bowdwr mawr' o bryd i bryd i geisio'i symud yn ei grynswth, buasai wedi bod yn llawer mwy proffidiol i gael peiriant malu metling ('stone crusher') i lyncu'r gwenithfaen fesul tipyn, a'i werthu i wneud ffyrdd yn hytrach na'i fwrw dros y domen.