Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

proffwyd

proffwyd

Ond ymhlith y rhai a anfonwyd i gasglu'r deunydd roedd yna un proffwyd peryglus o anwybodus.

Sonia RT Jenkins yn y darn uchod am 'ysblander gweledigaeth proffwyd'.

'Proffwyd tywydd go wael wyt ti, Iestyn,' meddai.

O leiaf fe fynnai, gyda'r proffwyd a'r meddyliwr praff hwnnw, fod yr iaith Gymraeg a'r patrymau diwylliannol sydd ynghlwm wrthi yn elfennau sylfaenol ym modolaeth cenedl y Cymry.

Rhannu Gwallt y Proffwyd Tithau, fab dyn, cymer iti gleddyf llym a'i ddefnyddio fel ellyn barbwr i eillio dy ben a'th farf, ac yna cymer gloriannau a rhannu'r gwallt.

Galwad gyson y proffwyd a'r salmydd oedd am edifeirwch ac ymgysegriad newydd.

Tori mawr ydy o, a finna erbyn hyn wedi troi at yr Islamiaid, a'r diwrnod o'r blaen, pan ddois i i'w wynab o, roedd fy matin gweddi gen i yn un rholyn o dan fy nghesail, a dyma fo'n dechra fy nghymryd i'n ysgafn ar ei union, a gofyn pa bryd yr oedd y Proffwyd wedi bod acw ddwaetha i de.

Wrth gofio am y dyn llyfr bach hwnnw yng Nghapel Maenan, 'rydw i'n 'i weld o'n debyg iawn i Ebedmelech ers talwm yn codi'r proffwyd Jeremiah o'r hen bydew hwnnw.

Ac fel hanesydd y'i gwelai Llwyd ei hun; ni, o'n perspectif a'n gwybodaeth ni, sy'n gweld elfennau o'r proffwyd a'r pregethwr yn ei waith.

Os ymuniaethodd Moses â'r bobl fel eu proffwyd a'u harweinydd, cafodd Iesu, a gyfrifwyd 'yn deilwng o ogoniant mwy na Moses' ac a wnaed 'ym mhob peth ...

Wnaeth Jeroboam ddim nabod y proffwyd ar unwaith, oherwydd roedd yn gwisgo mantell newydd.

'Proffwyd y Tywydd' oedd enw pobol yr ardal arno.

Gwelodd beth o'r proffwyd yn Ceiriog: Os cododd Ceiriog y llen lwydoer oddi ar Gymru Fu, safodd hefyd yn y ffenestr ddeheuol i weld gobeithion Cymru Fydd.

A'r rhai hyn i'r proffwyd yw'r gwir bechodau.

Dyn a gyts y proffwyd ynddo i fentro sefyll ar ei ben ei hun ac mewn lleiafrif - fel y Parch.

Pan oedd Ahab (brenin Israel) a Jehosaphat (brenin Jwda) yn cynllwynio i ymosod ar Ramoth Gilead, dywedodd y proffwyd Micheah wrthynt yn blaen beth fyddai'r canlyniad: 'Gwelais holl Israel yn wasgaredig ar y mynyddoedd,fel defaid ni byddai iddynt fugail .

At blant wynebgaled ac ystyfnig yr wyf yn dy anfon, ac fe ddywedi wrthynt, Prun bynnag a wrandawant ai peidio -- oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt -- fe fyddant yn gwybod fod proffwyd yn eu mysg.

Ac ar ryw ffordd unig o Jerwsalem y cyfarfu Jeroboam â'r proffwyd Aheia o Seilo.

Bydd yn rhyfedd iawn os na chewch rywbeth yn yr agoriad: hiraeth melys rhyw salm; callineb bydol bachog rhyw ddihareb; ysblander gweledigaeth proffwyd neu ddifinydd; stori brydferth swynol neu bryd arall stori erwin frawychus; brathiad cleddyf neu foesegwr di- dderbyn-wyneb a yrr eich hunangyfianwder ar ffo; murmuron tawel a leinw eich enaid a hedd.