Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

proffwydol

proffwydol

Y dehongliad proffwydol.

Bwydid yr ymwybod hwn gan gerddi proffwydol y beirdd brud, fel y'u gelwid, a addawai atgyfodiad gogoneddus i'r genedl a buddugoliaeth ar ei holl elynion.

Mewn cymhariaeth y mae'r pwyslais proffwydol ar gyfiawnder cymdeithasol a diwygiad moesol yn ymddangos yn fwy perthnasol i fywyd ysbrydol yr unigolyn a'i gymdeithas, ac y mae'r syniad proffwydol am bechod yn ymddangos ar y dechrau yn fwy derbyniol i'r deall.

Deuai'r Doethion o un o wledydd y Dwyrain fel estroniaid i dalu gwrogaeth i'r Baban, gan ddwyn anrhegion proffwydol a brenhinol iddo.

c) y pwyslais proffwydol ar y troseddau moesol yn hytrach na'r rhai defodol.

Yn y modd proffwydol hwn y dechreuodd Saunders Lewis ar hanner canrif o newyddiaduraeth a phamffledi gwleidyddol yn Gymraeg, yn y cyfnodolyn gwleidyddol cyntaf i'w gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg.

Roedd mam wedi cadw at yr Arwel ond mewn cam proffwydol ar ei rhan hi fe roddodd enw cynta i mi, Rocet.