Felly sefydlwyd bodolaeth breichiau bach wedi eu gwneud o'r protein dynein yn ymestyn allan o'r is- ffibril A yn y ffibrilau perifferol.
Daw'r enw protein o'r gair Groeg proteios.
Nid yw'r glud yn un cryf iawn, mae tua deg gwaith gwannach na bondiau cemegol arferol felly mae'n eitha' hawdd datod y belen protein o'i siap.
Cadwynau neu raffau hir o asidau amino wedi eu cysylltu â'i gilydd yw protein.
Y protein sy'n gyfrifol am i'r wy droi'n solid wrth ei ferwi.
Dyma fframwaith sylfaenol y protein lle mae'r asidau amino unigol wedi eu cysylltu a'i gilydd drwy'r bond amid, sef y cysylltiad rhwng grwp amino asid a grwp carbocsylig yr asid amino yn y safle nesaf.
Mae rhaffau gwahanol broteinau wedi eu trefnu mewn ffyrdd gwahanol, mae rhai yn debyg i risiau troellog ac mae rhai eraill yn haenau, ond mae'r rhan fwyaf o'r protein mewn wy ar ffurf pelenni.
Ond os bydd y cwstard yn cael ei goginio'n rhy hir bydd y rhaffau protein yn cael eu gludio yn dynnach wrth ei gilydd a bydd hyn yn gwasgu'r hylif allan.