Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

protestgar

protestgar

Tra oedd y beirdd yn breuddwydio am gnawd a 'thrwsiad glana'r oesoedd' 'roedd y merched protestgar yn gwisgo gwisg wahanol iawn.

Lluniodd gerddi am bynciau cyfoes ar y pryd fel y gwrthdystio yn erbyn y Rwsiaid ym Mhrâg, protestiadau Cymdeithas yr Iaith, yn ogystal â'r ysbryd protestgar byd-eang yn y cyfnod, y glanio ar y lleuad ym 1969, Fietnam, y newyn yn Biaffra, ac yn y blaen.

Iawn, mae'n hollol amlwg ers tro byd bod Dafydd Êl wedi hen flino ar 'frwydr yr iaith'. Brwydrau pobl eraill ar draws y byd dros ryddid a chyfiawnder -- dim problem; rhaid yn wir iddo ddangos cefnogaeth (darllener ei genadaethau eangfrydig a thrawswladol yn ei golofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg). Ond, jyst am fod Dafydd Êl wedi penderfynu ei fod am optio allan o'r broses drafferthus honno o greu trefn newydd yng Nghymru a 'hyrwyddo' chwyldro yn hytrach na bocsys te dwyieithog, yna does bosib bod disgwyl i'r gweddill ohonom lyncu gweledigaethau ffantasïol a thra cyfnewidiol y cyn-gefnogwr streiciau dros hawliau gweithwyr a chym-unedau a symudiadau ymgyrchol/protestgar cyffelyb.