Ond os cynhyrfwyd y protestwyr gan sylwadau'r offeiriaid lleol, gwelent hefyd fod y Dirprwywyr ar fai oherwydd cu dull o gasglu tystiolaeth a'r modd yr aethant ati i weithredu cyfarwyddiadau'r Llywodraeth.
Protestwyr gwrth-apartheid yn protestio yn erbyn taith gan dôm rygbi De Affrica yn Abertawe a Twickenham.
Ond teflir dŵr oer ar y cyfan trwy gyflwyno siaradwr arall sy'n ceryddu'r protestwyr am eu dulliau terfysgol.
Cliriwyd y ffordd gan y fyddin ond dilynai protestwyr y trên ar hyd y cledrau tra dychwelai'r milwyr i'r orsaf.
Cafwyd cacen i'w rhannu ymysg y protestwyr wedyn gyda'r geiriau 'Deddf Iaith 2000' arni.
Mae'n amlwg i'r protestwyr godi ofn ar y cynghorwyr ac fe welwyd newid cyfeiriad a phwyslais.
Yr Eisteddfod yw'r unig le ac mae'n rhaid ei defnyddio hi fel llwyfan gwleidyddol,' meddai Geraint Bowen, yr Archdderwydd ar y pryd, ar ôl i rai o brif swyddogion y 'Steddfod gondemnio'r protestwyr.
Erbyn hyn fe welwyd ffrwyth y brotest arwyddion ffyrdd wedi i'r Llywodraeth gytuno i osod arwyddion dwyieithog, Yn y gerdd hon nid gofyn 'paham yr anniddigrwydd' y mae'r bardd, ond edmygu gwydnwch y protestwyr yn hytrach.
Cerddodd y protestwyr ar draws tir gwaharddiedig yr awyrlu i blannu croes fel symbol o heddwch a gwrthwynebiad i'r fath ormes.
Anerchwyd y protestwyr yn Nyffryn Lliw gan Gwynfor Evans ei hun.
Yn ôl y protestwyr yr oedd yn ddiwrnod cenedlaethol peidio â gwenu a hwythau, yn gwneud ymdrech lew i edrych yn flin ac yn gâs.
Protestwyr yn erbyn ffordd osgoi Newbury yn byw yn y coed.