Er mai yn y blynyddoedd 1909 1915 y cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd ei anterth, gyda 'Gwlad y Bryniau', 'Yr Haf' ac 'Eryri', yr oedd y llanw wedi troi yn erbyn Rhamantiaeth erbyn hynny, gan fod darllenwyr wedi syrffedu ar yr awdlau a'r pryddestau hyn a oedd wedi eu lleoli mewn rhyw orffennol chwedlonol, ac wedi syrffedu hefyd ar eirfa'r Rhamantwyr.
'Roedd pryddestau gan Dafydd Jones, Ffair-rhos, Gwilym Morris.
Gresynai Cynddylan fod cymaint o ôl syniadaeth William Owen Pughe - ar y cystadleuwyr a barnai Hawen i'r beirdd eu harwain 'i diroedd gwynfaol - rhamant disylwedd...' Diystyrwyd gwersi ieithyddiaeth gymharol yn llwyr: 'Ofnwn, pe cyfieithid rhai darnau o rai o'r pryddestau hyn, y câi y philistiaid Seisnig wledd na chawsant ei bath er ys llawer dydd.
Er cased y gwir, rhaid oedd dweud 'fod llawer blodeuyn tlws o farddoniaeth geir yn y pryddestau hyn yn tyfu nid yn nhiroedd breision gwirionedd, ond yn nghorsleoedd anwybodaeth a hunanfoliant cenedlaethol'.
'Roedd Rhamantiaeth y beirdd hefyd yn ei ffordd yn brotest yn erbyn y pryddestau diwinyddol, gyda'u disgrifiadau o harddwch corfforol merch yn enghraifft o rywioldeb yn dechrau treiddio drwy ffug-barchusrwydd a rhagrith crefyddol y cyfnod Fictoriaidd yng Nghymru.
Awdl ddiflas, garbwl yn nhraddodiad yr awdlau a'r pryddestau cofiannol oedd hon.